Rhybudd am law, mellt a tharanau i rannau o Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd y gallai ardaloedd yn y gogledd a'r canolbarth gael eu taro gan law, mellt a tharanau dros y penwythnos, wedi cyfnod o dywydd poeth.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd o law a tharanau rhwng 14:00 brynhawn Sadwrn a 21:00 nos Sadwrn.
Mae'n bosib y bydd hyd at 50mm o law yn disgyn o fewn dwy awr, ac mae "cesair mawr a mellt yn beryglon ychwanegol tebygol," meddai'r Swyddfa Dywydd.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i ardaloedd yn siroedd Ceredigion, Gwynedd, Conwy, Dinbych, y Fflint, Wrecsam a Phowys.
Fe allai'r amodau achosi amodau heriol i deithwyr, llifogydd sy'n arwain at gau ffyrdd, amharu ar wasanaethau trên a bws a thoriadau i gyflenwadau trydan.