Ysbyty Glangwili: Dim ond achosion brys wedi nam trydanol
- Cyhoeddwyd
Dim ond pobl sydd â salwch neu anaf sy'n peryglu eu bywyd ddylai fynd i adran frys Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin yn dilyn problemau gyda'r cyflenwad trydan.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bod ymchwydd pŵer yng Nghaerfyrddin yn gynharach wedi effeithio ar systemau'r ysbyty.
Mae timau yn gweithio i ddatrys y problemau, meddai'r bwrdd.
Mae generaduron argyfwng yn cael eu defnyddio i ddiogelu gwasanaethau craidd.
O ganlyniad, dim ond pobl sydd â chyflyrau difrifol iawn ddylai fynychu'r ysbyty.
Mae'r rheiny'n cynnwys anawsterau anadlu, poen neu waedu difrifol, poen yn y frest neu strôc, neu anafiadau trawmatig difrifol.
Dywedodd y bwrdd bod y cyflenwad wedi ei adfer, ond bod oedi'n parhau i gleifion.