Ffigyrau diweithdra Cymru yn is na chyfartaledd y DU
- Cyhoeddwyd
Mae diweithdra yng Nghymru wedi disgyn yn is na'r cyfartaledd yn y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf mewn pedwar mis.
Roedd y gyfradd diweithdra yn 3.8% am y tri mis hyd at Orffennaf yn ôl amcangyfrif y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sydd 1.1% yn llai na'r tri mis blaenorol, ac 1% yn is na ffigyrau'r mis diwethaf.
4.3% yw'r gyfradd diweithdra yn y DU ar gyfartaledd.
Mae'r gyfradd cyflogaeth yng Nghymru wedi codi 2.1% i 74% yn y tri mis hyd at Orffennaf.
Mae'r gyfradd sy'n mesur y nifer o bobl o oedran gweithio na sydd mewn gwaith, wedi disgyn 1.2% i 23.2% yng Nghymru, gyda'r ffigwr yma y trydydd uchaf yn y DU tu ôl i Ogledd Iwerddon sir Efrog a glannau Humber.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, Radio Cymru, dywedodd Dr Sioned Pearce, darlithydd polisi cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Gyda'r pandemig daeth diweithdra torfol, wedi'i ganoli ymhlith pobl ifanc, ac yn enwedig pobl ifanc o liw, pobl ag anabledd, rhai â chymwysterau isel ac fe gafon nhw eu taro yn arbennig o galed.
"Ac ers y pandemig, er i bethau newid... nid yw'r problemau hyn o dlodi mewn gwaith a phroblemau cysylltiedig o anghyfartaledd ac ansicrwydd gwaith ac iechyd meddwl wedi diflannu, maent wedi dwysáu gyda'r argyfwng costau byw."
Ychwanegodd: "Mae ansicrwydd gwaith, pethau fel zero hour contracts y gig economi a hefyd tlodi mewn gwaith yn golygu nad yw cael swydd yn ffordd o ddod allan o dlodi weithiau... weithiau mae'n gwneud pethau'n waeth.
"Mae swydd dda yn un sy'n gadael i weithiwr fyw i safon resymol. yn rhoi sefydlogrwydd, diogelwch, gyda siawns i symud lan o ran sgiliau a chyflog, teimlad o les, hunanddatblygiad, cyfrifoldeb, pwrpas, bodlonrwydd pethau fel 'na ac mae 'na llai o swyddi fel hyn."
Hefyd yn siarad ar y rhaglen dywedodd Dr Rhys ap Gwilym, economegydd o Brifysgol Bangor: "Yn ôl ystadegau y [DU] mae tâl llawn fyny ar gyfartaledd 8.5% dros y flwyddyn ddiwethaf, ond ar yr un adeg 'da ni di gweld prisiau yn cynyddu yn sylweddol.
"Ma' chwyddiant wedi dod lawr dros y misoedd diwethaf ond mae dal bron â bod yn 7% ar hyn o bryd felly y newyddion cadarnhaol yw bod cyflogau yn cynyddu yn gynt na phrisiau ar hyn o bryd, ond mond cychwyn dal fyny ydyn ni nawr.
"Mae pobl wedi bod ar eu colled am ddwy flynedd gyda chwyddiant yn uwch na'r twf mewn cyflogaeth felly efallai am y tro cynta' da ni'n dechrau gweld bod cyflogau real yn dechrau cynyddu ond mond yn raddol iawn
"Ac o ran y darlun ehangach mae'n bwysig nodi falle bod ni'n gweld y cynnydd bach yma ond mae cyflogau yn gyffredinol ar yr un lefel ag oedden nhw yn 2008 felly dyw'r rhan fwyaf o bobl heb weld cynnydd yn eu cyflog mewn termau real."