Gwahardd gwerthwr tai dros honiadau ymchwiliad

  • Cyhoeddwyd
Ian Wyn-JonesFfynhonnell y llun, Byd ar Bedwar
Disgrifiad o’r llun,

Mae eXp wedi gwahardd Ian Wyn-Jones yn dilyn yr honiadau

Mae gwerthwr tai yn y gogledd wedi ei wahardd dros dro gan ei asiantaeth, wrth iddynt ymchwilio i honiadau ei fod wedi camarwain cwsmeriaid.

Ar y Byd ar Bedwar gan ITV Cymru nos Lun roedd honiadau bod Ian Wyn-Jones wedi creu cynigion ac ymweliadau ffug wrth werthu tai, a heb basio ymlaen cynigion i brynu.

Bellach mae asiantaeth eXp wedi ei wahardd dros dro, wedi'r honiadau ei fod wedi creu ymweliadau ffug, rhoi cynigion ffug i'w gwsmeriaid, a pheidio a sôn am gynigion eraill.

Fe ddywedodd Ian Wyn-Jones nad oedd o'n derbyn yr honiadau hynny, ond na allai ddweud rhagor.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tracy Jones ei bod yn tybio bod llawer o bobl wedi cael eu heffeithio gan y gwerthwr

Mae'r newyddion yn ryw galondid i Tracy Jones o Benygroes, oedd yn y pen draw wedi troi at werthwr arall, a gwerthu tŷ ei diweddar fam am bris llawer is.

"Dwi'n falch fod y stori 'ma i gyd yn dod i'r fei achos mae 'na lot fawr o bobl sydd ddim wedi dod ymlaen", meddai wrth Newyddion S4C.

"Dio ddim 'di effeithio ar bron i 20 ohonan ni, mae 'di effeithio ar faswn i'n d'eud fwy na tri, pedwar, pum gwaith mwy na hyn.

"Mae'n iawn i bobl gael gwybod y sefyllfa maen nhw'n mynd i fewn i... fel gwerthu'r asset mwya' sydd ganddyn nhw yn eu bywydau."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Iolo Williams a Jennifer Jones bod Ian Wyn-Jones wedi creu cynnig ffug wrth werthu tŷ

Doedd 'na ddim prinder pobl oedd yn barod i gwyno am Ian Wyn-Jones.

Yn eu plith, Iolo Williams o Gaernarfon, sy'n dweud na chafodd wybod am gynigion i brynu'i dŷ, gan honni hefyd fod Mr Wyn-Jones wedi creu cynnig ffug, a hynny'n straen arno fo a'i gymar Jennifer Jones.

"Dyma oedd gôl ni mewn ffordd," meddai Jennifer. "Roedd rhaid i rywun roi stop arno fo'n gwneud beth oedd o'n neud felly fedra'i ond gweddïo mai dim dros dro ydy hyn."

Dim sylw

Fe wrthododd Ian Wyn-Jones wneud cyfweliad ar gyfer rhaglen nos Lun er fe ddywedodd wrth y tîm cynhyrchu nad oedd o'n derbyn yr honiadau yn ei erbyn.

Fe wnaeth un o ohebwyr Newyddion S4C siarad hefo Ian Wyn-Jones ar y ffôn, ond fe ddywedodd na allai ddweud dim na gwneud sylw.

Pan ofynnwyd iddo a oedd o'n gwadu'r honiadau a wnaed ar raglen y Byd ar Bedwar, "ydw" oedd ei ateb, ac wrth roi ateb i'r cwestiwn a oedd o wedi trefnu ymweliadau ffug, dywedodd y byddai wedi bod yn amhosib iddo wneud hynny, ond na allai wneud sylw pellach.

Mae'r asiantaeth sy'n cynrychioli Ian Wyn-Jones yn dweud eu bod wedi ei wahardd dros dro wrth ymchwilio i'r honiadau ei fod wedi camarwain.

Pynciau cysylltiedig