Lluniau: Gwaith adnewyddu Pont Y Bermo
- Cyhoeddwyd

Yn 820 metr o hyd mae Pont Rheilffordd Abermaw wedi bod yn strwythur adnabyddus ym Meirionnydd ers dros ganrif a hanner.
Mae'r bont yn ymestyn dros Afon Mawddach o'r Bermo (Abermaw) i Morfa Mawddach.


Y bont gyda Chader Idris yn y cefndir
Cafodd y bont ei hadeiladu rhwng 1864 ac 1867, ac yn1988 cafodd ei rhestru fel strwythur hanesyddol Gradd II.

Llun o'r bont o 1890, pan oedd y strwythur wedi ei wneud o bren yn llwyr. Daeth y fframwaith haearn yn 1899.
Dyma'r bont hiraf yng Nghymru, ac mae'n un o'r hiraf o'i fath ym Mhrydain.

Y bont tua 1900; roedd Y Bermo yn fan gwyliau poblogaidd yn yr Oes Victoria
Ar hyn o bryd mae'r bont yn cael ei hadnewyddu, ac mae disgwyl i'r gwaith gymryd 13 wythnos i'w gwblhau, rhwng dechrau Medi a dechrau Rhagfyr.
Mae disgwyl i'r gwelliannau i'r bont gostio oddeutu £30m.
Dyma rai o'r golygfeydd o'r gwaith sy'n mynd mlaen ar y Mawddach ar hyn o bryd.










Hefyd o ddiddordeb: