Cau pont eiconig am dri mis ar gyfer £30m o waith adfer
- Cyhoeddwyd
Bydd pont eiconig Y Bermo ar gau o ddydd Sadwrn ymlaen am dri mis, wrth i ran olaf gwaith adnewyddu ddechrau.
Mae'r bont hynafol dros 150 o flynyddoedd oed, a dyma fydd penllanw gwaith adnewyddu dros dair blynedd sydd wedi costio £30m.
Rhan olaf y gwaith yw gosod bwâu dur newydd yn eu lle ar ochr Y Bermo i'r bont.
Yn y cyfamser fe fydd gwasanaeth bysiau yn cludo pobl yn lle'r trên arferol.
Cwmni Alun Griffiths yw'r contractwyr ar ran Network Rail, a dywedodd eu llefarydd Eleri Evans ei fod wedi bod yn "brosiect mawr".
"Mae'r darn cyfan diwethaf rŵan yn mynd i'w le," meddai.
"Fyddwn ni i gyd yn edrych ymlaen at gael gweld o'n dod i ben dwi'n meddwl, a chael gweld y darlun diwethaf.
"Mae'n [strwythur] Gradd II, ac wrth gwrs pwysigrwydd hynny ydi i allu cadw golwg a theimlad hanesyddol y bont wreiddiol, ac hefyd trio defnyddio'r dechnoleg a dulliau o'r ganrif yma.
"Mae hynna wedi bod yn un o'r sialensiau mwyaf."
Ychwanegodd mai un o'r heriau eraill fydd ceisio cwblhau'r gwaith dros y misoedd nesaf wrth i'r tywydd droi.
"'Dan ni wedi trio cynllunio'r gwaith i beidio achosi disruption wrth gwrs i bobl leol yn fan hyn, a dros wyliau'r haf," meddai.
"Un o'r sialensiau mwyaf fyddwn ni'n wynebu ydi'r tywydd garw mwy na dim... ond mae pawb yn edrych ymlaen i'w gweld hi yn ei lle wedi darfod."
Mae trenau Rheilffordd Arfordir y Cambrian yn teithio dros y bont yn ôl ac ymlaen o Bwllheli, felly mae'r bont yn gyswllt pwysig o ran trafnidiaeth i bobl leol a thwristiaid.
Mae miloedd o gerddwyr a beicwyr hefyd yn teithio dros y bont - fydd nawr ar gau rhwng 2 Medi a 24 Tachwedd.
"Fydd trenau ddim yn rhedeg rhwng Machynlleth a Phwllheli yn yr amser yma, felly bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg bysiau er mwyn gwneud y siwrnai i'r teithwyr," esboniodd Thomas Roberts, llefarydd ar ran Network Rail.
"'Dan ni'n gofyn hefyd i deithwyr wneud yn sicr eu bod nhw'n gwirio ar wefan Trafnidiaeth Cymru cyn trafeilio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2021
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2020