£80m i adfywio dinas a thair o drefi Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd Wrecsam, Merthyr Tudful, Cwmbrân a'r Barri yn elwa o £20m yr un fel rhan o gynlluniau Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.
Nod y buddsoddiad yw sicrhau eu dyfodol tymor hir.
Mae'r Prif Weinidog, Rishi Sunak, wedi cyhoeddi y bydd £1.1bn yn cael ei rannu rhwng pum deg pump o drefi yn y DU.
Bydd pob un yn cael £20m ar ffurf taliadau gwaddol dros gyfnod o 10 mlynedd i fuddsoddi ym mlaenoriaethau pobl leol.
Mae'r blaenoriaethau rheiny yn cynnwys adfywio'r stryd fawr, taclo ymddygiad gwrth-gymdeithasol, gwella trafnidiaeth a gwella'r economi leol.
Bydd yr arian yn cael ei roi yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU i'r awdurdod lleol perthnasol.
Fe fydd Llywodraeth Cymru hefyd yn rhan o'r trafodaethau ynglŷn â sut i wario'r arian yn effeithiol.
Bydd byrddau trefol yn cynnwys arweinwyr cymunedol, cyflogwyr a'r awdurdodau lleol yn cael eu sefydlu i gynnig cynlluniau tymor hir ar gyfer y trefi cyn ymgynghori gyda phobl leol.
Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod bod canol nifer o drefi yn dioddef oherwydd bod busnesau a siopau wedi cau a bod ymddygiad gwrth-gymdeithasol hefyd yn cadw pobl draw.
'Buddsoddi yn y dyfodol'
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies: "Mae Merthyr Tudful, Cwmbrân, Wrecsam a'r Barri yn lefydd gwych ac fe fyddan nhw yn elwa yn aruthrol o'r buddsoddiad arwyddocaol yma yn eu dyfodol.
"Ry'n ni yn falch o gefnogi pobl a'u galluogi i gymryd rheolaeth dros eu hardaloedd lleol.
"Mae ffyniant bröydd yn ganolog i uchelgais Llywodraeth y DU ac fe fydd cymunedau ar hyd a lled Cymru yn cael eu trawsnewid dros y blynyddoedd nesaf gyda'r buddsoddiad ry'n ni yn ei wneud ynddyn nhw."
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi y bydd yna dasglu trefi yn cael ei sefydlu yn yr adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau fydd yn adrodd yn uniongyrchol i'r Ysgrifennydd Gwladol, Michael Gove.
Y gobaith yw y bydd y tasglu yn helpu'r byrddau trefol i ddatblygu eu cynlluniau a'u cynghori nhw ynglŷn â'r ffordd orau o fanteisio ar bolisïau'r llywodraeth a sut i ddenu rhagor o fuddsoddiad.