Lle oeddwn i: Recordio Bibopalwla'r Delyn Aur
- Cyhoeddwyd
Mewn stiwdio mewn seler ym Methesda y cafodd rhai o ganeuon enwocaf y Gymraeg eu recordio, a hynny gyda chymorth y cynhyrchydd sain Les Morrison.
O Ffa Coffi Pawb i Celt, o Siân James i Y Cyrff, heidiodd rhai o fandiau ac artistiaid mwyaf y sîn gerddoriaeth yng Nghymru dros y blynyddoedd at glust craff a syniadau gwych a gwallgo' yr "arwr addfwyn a gefnogodd gerddorion ei fro i'r carn".
Yn y stiwdio hwnnw y cafodd albwm Meic Stevens, Ware'n Noeth, ei recordio, a hynny ym mis Mai 1991. Ond, oni bai am Les, mae'n bosib na fyddai'r albwm - ac o bosib, un o'r traciau enwocaf, Bibopalwla'r Delyn Aur - wedi bodoli o gwbl...
Ware'n Noeth
Mae Meic Stevens yn cofio'n iawn mai nid recordio albwm oedd y bwriad o gwbl pan aeth draw am sesiwn i Stiwdio Les y dydd hwnnw yn '91:
"O'n i ddim yn gwybod ei fod e'n mynd i fod yn record," cofia Meic, "sesiwn oedd e i recordio demos. O'dd e jest fi a gitâr Martin D28, a 'natho ni cnocio mas 'byti pump neu chwech o ganeuon, un ar ôl y llall yn gyflym iawn.
"Anghofies i ambyti fe wedyn, 'nes i ddim meddwl lot amdano fe - a Les 'naeth y cwbl lot. 'Nes i ddim byd mwy na rhoi'r basic tracks i lawr."
Ond roedd Les â'i fryd ar gynhyrchu'r caneuon yma, felly penderfynodd ddod â cherddorion ynghyd i recordio traciau, a chreu fersiynau gorffenedig o'r recordiadau bras.
Marc 'Cŵn' Jones, sydd wedi chwarae gyda Meic Stevens ers blynyddoedd, oedd ar y gitâr fâs, ond roedd pawb arall yn anghyfarwydd iddo, cofiai:
"O'dd Les 'di penderfynu fod angen mwy o electric gitâr a ddudodd o 'a i jyst allan i chwilio am gitarydd'... a jyst cerdded i lawr y lôn - anelu am y pyb agosa' mae'n siŵr - a dod nôl efo Dave Stephen. Do'n i'm yn ei 'nabod o, doedd Meic ddim yn ei 'nabod o.
"'Naeth o wrando ar y trac unwaith drwodd, a 'naeth o recordio fo wedyn mewn un take, ar yr ail wrandawiad - amazing! A 'nath o jyst pacio'i gitâr a mynd o'na, a dwi 'rioed 'di gweld y dyn ers hynny!"
Drymio dros ganu Meic Stevens
Roedd nifer o ddrymwyr yn yr ardal bryd hynny, ond Hefin Huws gafodd y job ar y traciau yma gan Les; rhywbeth oedd eithaf anodd, â Meic wedi recordio'r llais a'r gitâr heb ddim byd i gadw amser. O ganlyniad, roedd rhaid i Hefin gyflymu ac arafu yn dilyn y trac gwreiddiol.
Mae hefyd yn cofio cais anarferol Les pan oedd wrthi'n recordio'r drymiau ar gyfer Bibopalwla'r Delyn Aur:
"Y peth mwya' dwi'n ei gofio ydi fod Les isho drumfill rhwng unrhyw ddarn gwag. Ac o'n i 'di cael fy nysgu ganddo fo i beidio bod yn ddrymar felly, a jyst bod yna i wella'r gân. Mae 'na ddywediad yn Bethesda: Les Morrison... Les is More 'de!
"Ond tro 'ma o'dd o'n mynnu mod i'n gneud fill ym mhob man trwy'r gân i gyd. A dyna Meic yn canu'n ddistaw a swynol, a Les isho mi nacro'r dryms. O'dd o'n gwneud dim synnwyr i mi o gwbl... Ac o'n i'n dechrau rhedeg allan o fills, yn trio'u gneud nhw'n wahanol!"
Ond roedd gan Les weledigaeth, ac â'r offerynwyr mewn lle, roedd angen llais cefndir, a dyna lle ddaeth y ferch ysgol 16 oed Jackie Williams i mewn. Yn ôl Marc, roedd ei pherfformiad hi'n 'wych' ac yn 'reit sylfaenol yn sŵn overall yr albym'.
Ond nid rhuthro i'r stiwdio recordio gyda'i bryd ar fod ar albwm ddiweddara' Meic Stevens wnaeth Jackie, eglurai:
"O'dd Les 'di cael clywad fod 'na hogan i fyny'r lôn yn medru canu," meddai, "felly o'n i'n cael galwad ffôn, 'ti ffansi dod i lawr i roi backing vocals, ma' gen i rywun yn y stiwdio'... ac o'dd gen i'm syniad pwy oedd am fod yna, na pa fath o fiwsig oedd o.
"A caneuon Meic Stevens oedden nhw - a do'n i'm 'di clywad dim byd amdano fo, doedd gen i ddim syniad pwy oedd Meic Stevens! Wrth gwrs wedyn, pan o'dda ti'n deud wrth bobl bo' chdi 'di canu backing vocals efo Meic Stevens, o'dd pawb yn mynd 'waw!'... ac o'n i methu dallt be' o'dd y ffys i gyd amdan!"
Tapiau coll Les Morrison
Mae tapiau o sesiynau recordio Bibopalwla'r Delyn Aur a chaneuon eraill yr albwm, Ware'n Noeth, ynghyd â thraciau enwau mawr eraill yr 80au a 90au a gafodd eu recordio gyda Les Morrison wedi eu canfod. Dyma destun y rhaglen ar BBC Radio Cymru, Tapiau Coll Stiwdio Les, lle mae rhai o'r artistiaid ar y traciau yn eu clywed am y tro cyntaf ers degawdau, a hel atgofion am ddawn Les i ysbrydoli cerddorion, ac i gael y gorau ohonyn nhw a'r gerddoriaeth.
Fel y cofiai Jackie Williams: "O'dda ni'n cael lot o hwyl wrth recordio; doedd o ddim yn awyrgylch siriys. O'dd Les yn licio cael hwyl a chwerthin."
A chreu caneuon gwych, wrth gwrs...
Hefyd o ddiddordeb: