Ffwng yn 'ran bwysig o gylch bywyd bob dim'
- Cyhoeddwyd
"Mae'r rhan fwyaf o'r ffwng ar y blaned ddim wedi cael ei ddarganfod eto. Mae tua 90% heb gael ei ddarganfod gan wyddonwyr."
Yn ôl gwyddonwyr mae'n bosib gallai dri chwarter o rywogaethau o blanhigion fod mewn perygl o ddiflannu cyn eu bod nhw wedi dod i'w sylw.
Ac mae 'na amcangyfrif nad yw 90% o'r holl ffwng ar y ddaear wedi cael ei ddarganfod eto.
I drafod yr heriau o ddarganfod a chlustnodi ffyngau mae'r ecolegydd Bethan Moseley o Nebo wedi siarad gyda Dros Frecwast a Cymru Fyw.
Meddai Bethan: "Mae newydd fod yn Ddiwrnod Rhyngwladol Ffwng y Byd ar 7 Hydref - rŵan ydy'r amser i chi fynd allan i chwilio amdanyn nhw.
"Heb ffwng buasai pob dim arall yn y byd ddim yn bodoli - maen nhw'n rhan bwysig iawn o gylch bywyd bob dim."
Ac mae darganfod a chlustnodi unrhyw fath newydd yn waith pwysig, yn ôl Bethan.
Mae gwyddonwyr yng Ngerddi Kew yn Llundain yn galw ar bob rhywogaeth sy'n cael ei ddisgrifio fel 'newydd' i gael ei glustnodi fel un o dan fygythiad os nad oes tystiolaeth i'r gwrthwyneb.
Pam fod hyn yn arwyddocaol felly?
Yn ôl Bethan: "Mae'r ffordd maen nhw'n (gwyddonwyr yn Kew) mynd i fod yn trefnu DNA yn mynd i helpu nhw i neud o'n (y gwaith oglustnodi) gynt. Mae'r ffordd o recordio nhw efo'r DNA 'ma yn mynd i allu cofnodi rhyw 50,000 o samplau y flwyddyn.
Darganfod
"Nathon ni ddod ar draws ffwng ym Mhenygroes (Dyffryn Nantlle) blwyddyn ddiwethaf. Velvet coral maen nhw'n alw fo - mae o'n edrych fel coral o dan y dŵr ond mae'n fwng ar wyneb y tir. Mae'n edrych fel canghennau bach yn sticio i fyny, lliw hyfryd porffor arno fo. Mae'n arbennig iawn."
Oes nifer o ffyngau prin yng Nghymru felly?
Meddai Bethan: "Oes ond maen nhw'n mynd i fod yn linked efo math arbennig o gynefin felly chi mwy tebygol o ffeindio nhw lle mae 'na safle gwyddonol arbennig neu ardal gadwraeth arbennig felly yn y goedwig Geltaidd, coedlannau, coedydd derw a safleoedd ystlumod Meirionnydd. Mae 'na rai yn Ynys Môn yn y fens.
"Mae llefydd fel y fforestydd Celtaidd yn llefydd arbennig ac unrhyw fan lle mae 'na lot o gorsydd ac ati 'da chi'n medru ffeindio pethau mwy prin fan 'na achos maen nhw'n linked efo'r planhigion prin sy'n tyfu yno."
Pam fod ffwng mor bwysig i'r amgylchedd?
Meddai Bethan: "Mae'n rhan bwysig o fod yn torri lawr mater ar ôl iddo orffen ei fywyd ac yn rhan bwysig o greu pridd newydd. Mae ffwng yn medru torri lawr coeden ac mae pryfed yn medru bwyta darnau - mae gyd yn interactio efo'i gilydd ac mae'n rhan o'r chain.
"Maen nhw'n chwarae rhan bwysig fel bwyd i ni bobl ac i greaduriaid eraill ac maen nhw'n cael eu defnyddio i neud bara, caws a diodydd alcoholig."
Wrth gwrs, dydi nifer helaeth o ffwng ddim yn addas nac yn ddiogel i'w fwyta, felly byddwch yn ofalus.
Felly os ydych chi'n dod ar draws math newydd o ffwng, cyngor Bethan yw i gofnodi drwy un o'r gwasanaethau lleol sy' ar gael: "Mae pobl yn medru cofnodi pethau ar wefan Cofnod, dolen allanol, sef gwasanaeth gwybodaeth amgylcheddol gogledd Cymru.
"Mae Cymdeithas Edward Llwyd yn rhedeg tudalennau Facebook Llên Natur ac yn hel ac yn chwilota am ffwng hefyd. "Mae gwasanaeth gwybodaeth bioamrywiaeth Powys a Bannau Brycheiniog, dolen allanol hefyd ar gael ac mae 'na rai ar gyfer rannau eraill o Gymru hefyd.
"Mae na arbenigwyr yn checio lluniau a lleoliad ac yn edrych ydy hwn yn realistig bod o yna ac yn medru gwirio bod o'n gywir.
"Mae 'na arbenigwyr (ffwng) yna jyst maen nhw o dan y llenni - dydy o ddim yn faes mae pobl yn cymryd diddordeb ynddo fel planhigion eraill."