O ysbiwyr i gaethwasiaeth: Mapiau difyraf Cymru
- Cyhoeddwyd
Yn aml mae map yn dangos cymaint mwy na'r ffordd o A i B...
Mae nifer o'r 1.5 miliwn o wrthrychau sydd yn nghasgliad mapiau'r Llyfrgell Genedlaethol yn llawn hanes a gwleidyddiaeth gan gynnwys mapiau cyfrinachol gan ysbiwyr a'r map cyntaf yn benodol o Gymru.
Nawr mae rhai o'r rhain i'w gweld mewn arddangosfa newydd yn Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd, a'r curadur Ellie King sydd yma'n dewis chwech o'r mapiau mwyaf difyr ac yn dweud y stori tu cefn iddyn nhw.
Ysbïo ar Benfro o Leningrad
План г. Пемброк [Map o Benfro], gan Leningradskaya Cartograficheskaya Fabrika [Ffatri Cartograffig Leningrad] (1950)
Cafodd y map yma ei greu yn yr Undeb Sofietaidd, ond mae'n dangos ardal Penfro a Doc Penfro. Roedd yn rhan o brosiect enfawr i fapio lleoliadau ar draws y byd, ac mae'r manylder yn anhygoel.
Cafodd y map ei seilio ar fapiau cyhoeddus Prydeinig gan Arolwg Ordnans (Ordnance Survey), ond ar y mapiau Prydeinig o'r un cyfnod mae lle gwag dros y safle milwrol yn Noc Penfro, heb unrhyw fanylion o gwbl. Doedd y llywodraeth ddim eisiau gwledydd eraill - fel yr Undeb Sofietaidd - i weld y wybodaeth yma. Yn amlwg o edrych ar y map Rwsiaidd, doedd hynny ddim yn llwyddiannus o gwbl, gan fod posib gweld pob manylyn, pob rheilffordd, pob doc, popeth!
Ar y map, mae enw'r 'technegydd cartograffeg' oedd yn gyfrifol am greu'r map yma: Sitnikova. Mae enwau Rwsiaidd yn dangos rhywedd y person, felly rydyn ni'n gwybod taw menyw oedd cartograffydd y map yma o Benfro.
Mae adroddiad cudd-wybodaeth gan y CIA o 1953 yn esbonio rhan menywod yn creu mapiau yn yr Undeb Sofietaidd: 'The striking feature... is the number of women engineers who are not only engaged in laboratory work but also in actual surveying expeditions'. Doedd neb yn y Gorllewin yn gwybod am y mapiau Rwsiaidd tan ar ôl i'r Undeb Sofietaidd gwympo yn yr 1990au. Fe wnaethon nhw greu mapiau o lefydd dros y byd i gyd, ac weithiau does dim mapiau efo cymaint o fanylion arnyn nhw i'w cael mewn unrhyw le arall. Pan aeth yr Americanwyr mewn i Afghanistan yn 2003, fe ddefnyddion nhw fapiau Sofietaidd.
Mapio caethwasiaeth yn Jamaica
Pleasant Hill Estate, Belonging to Nathaniel Phillips Esq.,gan Thomas Bruce (c. 1780)
Dyma fap o blanhigfeydd siwgr yn Jamaica o'r enw Pleasant Hill yn y 1780au. Dyn o'r enw Nathaniel Phillips oedd eu perchennog. Daeth yn ôl i Brydain, a defnyddiodd ei gyfoeth o'r Caribî i brynu ystâd Slebets, ger Hwlffordd yn Sir Benfro.
Ar gyfer yr arddangosfa, rydyn ni wedi benthyg gan yr adran archifau restr o'r caethweision a oedd yn gweithio yn Pleasant Hill yn y 1760au, pob un efo enwau a'u 'gwerth'. Mae dros gant o bobl ar y rhestr, yn gynnwys 16 o blant.
Roedd disgwyl i'r 120 caethwas gynhyrchu 90,000 cilogram o siwgr a 30,000 litr o rỳm bob blwyddyn. Pan gafodd caethwasiaeth ei ddiddymu, derbyniodd y teulu Phillips bron i £4000 o iawndal gan y llywodraeth. Chafodd y caethweision ddim byd.
Dysgu merched am y byd
Mr Butler's outline map to his geographical and biographical exercises, gan William Butler (1833)
Cynlluniwyd y mapiau hyn yn wreiddiol yn y 1790au ar gyfer addysgu daearyddiaeth i ferched ifanc, gan diwtor ac athro mewn ysgolion i ferched - William Butler.
Mae'r mapiau'n edrych yn wahanol i fapiau arferol, oherwydd does dim enwau arnyn nhw o gwbl - a'r gwledydd, mynyddoedd ac afonydd yn cael eu rhifo yn lle. Roedd yn rhaid i'r merched ddysgu'r enwau ar y cof. Byddai'r athro wedyn yn pwyntio at rywle ar y map, a'r merched yn ei enwi ac yn rhoi ffeithiau am y lle.
Ysgrifennodd William Butler ragair am addysg daearyddiaeth i ferched: 'that science [daearyddiaeth] now forms an essential branch of female tuition'. Ond ar y pryd roedd dadleuon pwysig iawn ynglŷn â sut i addysgu merched, ac roedd yn rhaid i ysgrifenwyr fel Mary Wollstonecraft a Catharine Macaulay frwydro dros hawliau merched i ddysgu mwy na sgiliau i'w helpu nhw i ennill gŵr.
Roedd y mapiau'n boblogaidd iawn, mae'n debyg. Cawsant eu hail-frandio gan fab Butler fel mapiau ar gyfer pobl ifanc yn y 1800au cynnar, a chafodd y llyfr a'r mapiau eu hargraffu o leia' 29 o weithiau - ac yn dal i gael eu cyhoeddi bron i ganrif ar ôl i William Butler eu creu nhw.
Map Cymraeg yn cysylltu'r Beibl a'r Rhyfel Mawr
Map y rhyfel yng ngwledydd y Beibl, gan Beriah Gwynfe Evans (1916)
Does dim llawer o fapiau ar gael yn gyfan gwbl yn y Gymraeg, ond rydyn ni'n lwcus i gael tri yn yr arddangosfa. Fy ffefryn yw map gafodd ei gyhoeddi gan bapur newydd Y Darian yn ne Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf - sef map o'r Dwyrain Canol. Roedd llawer o bobl yn brwydro yn yr ardal, ond roedd yn ardal anghyfarwydd i lawer o bobl hefyd.
Mewn cyfweliad efo Beriah Gwynfe Evans yn Y Darian mae'n dweud: "Mae'r Cymry'n gwybod eu straeon Beiblaidd", ac felly fe greodd fap yn dangos llefydd a straeon o'r Beibl, fel taith Sant Pedr, a'r Israeliaid yn dod allan o'r Aifft, efo symudiadau'r byddinoedd yn y Rhyfel. Mae e'n defnyddio enwau hynafol ac enwau modern, i helpu pobl i ddeall ble'r oedd eu meibion, eu tadau.
Ar ôl i'r map gael ei gyhoeddi roedd llythyrau yn Y Darian gan bobl a oedd yn defnyddio'r map i deimlo'n agosach at eu teulu nhw dramor.
Y map cyntaf o Gymru
Cambriae typus, gan Humphrey Llwyd (1574)
Dyma'r map cyntaf yn dangos dim ond Cymru.
Cafodd y map ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn yr Additamentum i Theatrum Orbis Terarrum gan Abraham Ortelius, yr atlas modern cyntaf - cyfrol hynod o bwysig. Mae Llwyd yn defnyddio enwau llefydd Cymraeg, Saesneg a Lladin ar ei fap e, rhywbeth anghyffredin yn y cyfnod.
Gwaith hanesyddol ydy hwn - dydy'r map ddim yn dangos y sefyllfa wleidyddol ar y pryd, ond yn edrych yn ôl i'r hen deyrnasoedd Gwynedd (Venedotia), Powys (Povisia) a Deheubarth (Dehenbartia). Roedd y rhaniadau hyn wedi darfod ers amser maith erbyn cyfnod Llwyd.
Cymru siâp Owain Glyndŵr
Wales, gan Lilian Lancaster, efo cerdd gan 'Aleph' (ffugenw newyddiadurwr William Harvey) (1868)
Dim ond 15 oed oedd Lilian Lancaster pan ddyluniodd y ddelwedd hon o Owain Glyndŵr ar ffurf Cymru, a hynny mae'n debyg i ddiddanu ei brawd tra'r oedd yn sâl yn ei wely.
Fe'i cyhoeddwyd yn Geographical Fun: Being Humorous Outlines of Various Countries. Roedd cymeriadau map eraill yn cynnwys ffigurau cyfoes fel Guiseppe Garibaldi yn cynrychioli Eidal newydd unedig, ac Otto von Bismark fel Prwsia ar y ffordd i ddod yn rhan o'r Almaen unedig.
Nod y llyfr oedd helpu myfyrwyr anfoddog i gofio siapiau'r gwledydd "by associating them in their mind's eye with odd fancy figures."
Fel oedolyn, daeth Lilian yn actores a chantores, teithio yn yr Unol Daleithiau ac ym Mhrydain. Ar ôl iddi ymddeol a cholli ei gŵr, aeth hi yn ôl i greu mapiau ar gyfer plant, gan ddefnyddio cymeriadau o lên gwerin a chwedlau tylwyth teg.