Cymru ar y map
- Cyhoeddwyd
Wedi i fynyddwr honni bod ei waith ymchwil yn profi bod y ffin rhwng Cymru a Lloegr wedi cael ei osod yn y lleoliad anghywir, Cymru Fyw sydd wedi casglu ffiniau eraill Cymru - rhai ohonyn nhw'r un mor ddadleuol.
Mae'r mapiau yn dangos ffiniau ar sail iaith, chwaraeon, gwleidyddiaeth, crefydd ac hyd yn oed alcohol.
Ac yn union fel yr awgrym diweddar, dolen allanol bod angen symud y ffin sydd ar gopa Twyn Llech, ym Mhowys, fel bod Lloegr yn elwa, mae rhai o ffiniau eraill Cymru hefyd wedi creu cur pen.
"Nid yw hon ar fap..."
Ein map cyntaf ni ydy map cyntaf Cymru - Y Cambriae Typus.
Dyma'r map printiedig cynharaf sy'n dangos Cymru fel rhanbarth ar wahân, ac mae'n dyddio yn ôl i 1573.
Mae Cymru yn elwa o rai anghysonderau ar y map, sydd ym meddiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan fod y wlad yn ymestyn i'r Afon Hafren ac i Loegr.
Roedd hyn gan fod Humphrey Llwyd yn gwneud map hanesyddol a diwylliannol yn hytrach na chreu map gwleidyddol.
Aros neu adael?
Mae ffin yn air sy'n cael ei glywed yn gyson ers Brexit, ac fe ddaeth un newydd i Gymru ar ôl refferendwm 2016.
Pôl piniwn peint
Tra bod galw am ail refferendwm Brexit yn destun dadlau chwyrn, cafwyd chwe phleidlais am fater pwysig arall yng Nghymru - yfed ar y Sul.
Fel mae'r map yma yn dangos, yn 1961 fe bleidleisiodd y rhan fwyaf o Gymru i barhau i aros yn sych ar y Sul a pheidio gwerthu alcohol.
Ar ôl polau piniwn eraill yn 1968, 1975, 1982 ac 1989 dim ond Dwyfor oedd yn aros yn gadarn yn erbyn y ddiod gadarn - gyda rhai trigolion yn croesi'r ffin i ardaloedd oedd yn wlyb ar y Sul i gael mynd i'r dafarn.
Yn refferendwm 1996 pleidleisiodd Dwyfor o 24,325 i 9,829 o blaid agor, gan droi Cymru gyfan yn wlyb am y tro cyntaf ers pasio deddf Deddf Cau Tafarnau ar y Sul (Cymru) 1881.
Ffiniau'r iaith yn 1891...
Heblaw am yr un gyda Lloegr, un o'r ffiniau amlycaf yng Nghymru yw'r un ieithyddol.
Dyma fap gafodd ei greu ar ôl cyfrifiad 1891. Mae'r lliw gwyrdd yn dangos yr ardaloedd lle roedd dros 85% yn siarad Cymraeg.
...ac yn 2011
Mae'r patrwm yn debyg dros ganrif yn ddiweddarach yng nghyfrifiad 2011, ond bod y canran o'r siaradwyr Cymraeg wedi gostwng wrth gwrs.
Datganoli 1979...
Mae'r ffin ieithyddol yn cael ei adlewyrchu mewn mapiau eraill hefyd, fel yn y map yma o bleidlais refferendwm datganoli 1979.
...ac 1997
Roedd patrwm y bleidlais yn debyg yn 1997 - ond bod rhai ardaloedd wedi newid yn llwyr.
Croesi'r Llwchwr?
Yn y byd chwaraeon mae ffiniau yn gallu bod yn hynod o bwysig.
Heblaw am Glawdd Offa, un ffin adnabyddus yn y byd rygbi ydi'r Afon Llwchwr sy'n gwahanu Sir Gaerfyrddin ac Abertawe. Mae'r ffin wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar oherwydd suon am uno clybiau rygbi'r Scarlets a'r Gweilch.
Ac oherwydd y cynlluniau i newid strwythur y gêm ranbarthol a chreu tîm yn y gogledd, am ba hyd fydd y map yma yn bodoli?
"Duw a'm gwaredo..."
Map sy'n dangos ffiniau llai adnabyddus ydy'r nesaf - sef tair esgobaeth Babyddol Cymru.
Ffiniau mwy dadleuol na Chlawdd Offa?
Mae ffiniau gweinyddol Cymru wedi newid nifer o weithiau dros y canrifoedd, ac mae dyfodol ein 22 awdurdod lleol wedi bod yn destun trafod ers blynyddoedd.
Ond er gwaethaf adroddiad yn 2013 i leihau'r niferoedd ac awgrym y Gweinidog dros Lywodraeth Leol ar y pryd Leighton Andrews i uno cynghorau a chreu wyth neu naw o rai mwy (map isod), dydy ein 22 awdurdod lleol heb gael eu dileu o'r map hyd yn hyn.
Hefyd o ddiddordeb: