Trafod dyfodol gwasanaethau Ambiwlans Awyr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans awyr

Roedd tua 50 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus yn Y Trallwng nos Iau i drafod dyfodol strwythur gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae cyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ar draws canolbarth a gogledd Cymru fel rhan o ail gam adolygiad o'r gwasanaeth.

Gallai un newid posib weld y canolfannau ambiwlans awyr yn Y Trallwng a Chaernarfon yn cau, gyda'r hofrenyddion yn cael eu hadleoli i un ganolfan yn Rhuddlan yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Roedd llawer yn y canolbarth a'r gogledd yn gwrthwynebu'r cynnig hwn yn ystod rhan gyntaf yr adolygiad, gan ofni y gallai pobl yn yr ardaloedd hynny fod ar eu colled pe bai'r canolfannau presennol yn cau.

Stephen Harrhy, Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans, sy'n arwain yr adolygiad sydd â'r nod o wneud argymhelliad am gynllun i wella'r gwasanaeth.

Mae Mr Harrhy wedi pwysleisio nad oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud ac nad oes un dewis sy'n cael ei ffafrio uwchlaw'r lleill ymhlith y rhai sy'n cael eu hamlinellu yn adroddiad Rhan 2.

Disgrifiad o’r llun,

Stephen Harrhy yw Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans sy'n arwain yr adolygiad

Ar ddiwedd Rhan 2 bydd yr opsiwn sy'n cael ei ffafrio yn cael ei argymell i'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (EASC) ar gyfer penderfyniad terfynol. Yr EASC sy'n gyfrifol am gynllunio a sicrhau gwasanaethau ambiwlans digonol ar gyfer pobl Cymru.

Dywedodd Stephen Harrhy mai'r nod yw sicrhau "bod y cleifion sydd angen y gwasanaeth gofal pwysig hwn yn gallu cael mynediad ato dim ots ble maen nhw'n byw yng Nghymru".

Mae adroddiad Rhan 2 yn cynnwys canlyniadau ymarfer modelu wnaeth asesu effaith tebygol newid lleoliad canolfannau a phatrymau shifft staff ar wasanaeth yr ambiwlans awyr.

Chwe senario

Cafodd chwe senario eu modelu yn dangos sut y byddai strwythur newydd yn newid nifer yr argyfyngau sy'n cael eu hymateb iddyn nhw, yr amseroedd ymateb yn ogystal â dangosyddion perfformiad eraill.

Mae'r llinell sylfaen yn cael ei ddarparu gan y strwythur presennol lle mae pedwar canolfan ambiwlans awyr yn y Trallwng, Caernarfon, Dafen ger Llanelli a Chaerdydd.

Ar hyn o bryd mae ambiwlans awyr yn cael ei anfon i tua 3,650 o achosion brys y flwyddyn, gan gyrraedd tua 2,700 o'r rhain - mae'n cael ei alw'n ôl cyn cyrraedd mewn rhai achosion.

Yn ei ddadansoddiad o'r modelu mae CSAM Optima yn dweud y gall uno Caernarfon a'r Trallwng a symud yr hofrenyddion i Ruddlan arwain at welliannau perfformiad cryfach nag ychwanegu shifft newydd at y lleoliadau presennol.

Ond daw'r gwelliannau mwyaf o un o'r canolfannau a chanoli yn Rhuddlan ac ychwanegu cerbyd arall at leoliad newydd. Dyma Senario 4C a fyddai'n gweld 3,859 o ymatebion i argyfyngau, 2,904 achos o gyrraedd safle'r argyfwng ac amser ymateb cyfartalog o 24 munud 12 eiliad.

Mae Optima yn dweud mai'r 'opsiwn ail-orau' yw Senario 6C sy'n golygu cadw canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon ac ychwanegu cerbyd ymateb ffordd ychwanegol yn Rhuddlan.

Dyma Senario 6C a fyddai'n golygu 3,857 o ymatebion i argyfyngau, 2,901 achos o gyrraedd safle'r argyfwng ac amser ymateb cyfartalog o 24 munud 50 eiliad.

Gall aelodau'r cyhoedd ddweud eu dweud ar yr opsiynau mewn cyfarfodydd cyhoeddus sydd i'w cynnal yn Y Drenewydd, Machynlleth, Bangor a Phwllheli.

Bydd dau gyfarfod cyhoeddus rhithwir hefyd ar 19 a 20 Hydref, ac mae'n bosib cyflwyno sylwadau ac adborth tan 5 Tachwedd.