Miskin Manor: Colli swyddi wrth i westy alw gweinyddwyr
- Cyhoeddwyd
Mae gwesty yn ne Cymru sy'n lleoliad poblogaidd ar gyfer priodasau a digwyddiadau wedi mynd i ddwylo gweinyddwyr.
Daeth cadarnhad gan westy Miskin Manor ger Pont-y-clun eu bod yn nwylo gweinyddwyr a bod digwyddiadau oedd fod cael eu cynnal yn y gwesty yn y dyfodol agos wedi eu gohirio.
Roedd 63 o bobl yn gweithio ar y safle, ac mae 27 ohonynt wedi cael eu diswyddo yn sgil y cyhoeddiad.
Fe wnaeth cyfarwyddwr RCA Hotels Limited, sy'n gyfrifol am y gwesty, y penderfyniad i benodi gweinyddwyr "oherwydd pwysau ariannol".
Mae'r cyhoeddiad wedi gadael o leiaf un cwpl yn chwilio am leoliad newydd ar gyfer eu priodas ddydd Sadwrn, ond mae nifer o fusnesau lleol yn cynnig cymorth ar y gwefannau cymdeithasol.
Bydd y gwesty yn parhau i fasnachu o dan reolaeth y cyd-weinyddwyr, Gareth Harris a Diana Farngou o RSM UK Reconstructing Advisory LLP.
Dywedodd y gwesty mewn neges ar Facebook eu bod yn "ceisio datrys hyn yn brydlon i ddechrau masnachu eto cyn gynted â phosibl".
Bydd y gweinyddwyr a staff y gwesty yn cyfathrebu â phawb sydd â digwyddiadau ar y safle a phriodasau yn ystod y 24 awr nesaf.
Gobaith y gweinyddwyr yw sefydlogi'r sefyllfa er mwyn galluogi'r gwesty i ddychwelyd i weithredu yn fuan.