Cyhoeddi rhybuddion llifogydd difrifol wedi Storm Babet
- Cyhoeddwyd
Mae rhybuddion llifogydd difrifol sy'n golygu "perygl i fywyd" wedi eu cyhoeddi ar gyfer pentrefi ar lannau dwy afon yn y canolbarth.
Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) y rhybudd difrifol ar gyfer Llandrinio ym Mhowys, lle mae afonydd Hafren ac Efyrnwy yn cwrdd, gyda phryderon fod yr amddiffynfeydd lleol yn gorlifo.
Mae'r tywydd garw yn parhau i gael effaith wedi i Storm Babet achosi llifogydd yng nghanolbarth a gogledd Cymru.
Cafodd rhai cartrefi eu gorlifo ac aeth ceir yn sownd yn y llifogydd wrth i'r ffyrdd fynd yn amhosibl i yrru arnynt.
Mae rhybudd o lifogydd difrifol gan CNC yn cynghori pobl i "aros mewn lle diogel gyda modd o ddianc".
Roedd sawl ffordd yn parhau ar gau fore Sadwrn, yn bennaf yn Sir y Fflint, gyda 18 rhybudd o lifogydd yn eu lle ar draws Cymru.
Fe adawodd llifddwr dair mamog yn sownd ar fferm yn Llanfihangel Glyn Myfyr, Conwy, cyn i gi defaid nofio i'w hachub.
Roedd rhybudd gan Trafnidiaeth Cymru i deithwyr wirio cyn teithio ar rwydwaith Cymru a'r Gororau gyda "disgwyl i'r aflonyddwch barhau".
Nid oedd gwasanaethau Avanti West Coast yn gallu rhedeg rhwng Crewe a Chaergybi.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod y sefyllfa'n gwella ond bod "pryderon" yn parhau mewn cymunedau ger Afon Dyfrdwy ac Afon Hafren.
Ychwanegodd Ioan Williams, o CNC y gallai gymryd diwrnod i'r dŵr glaw o ardaloedd uwch i gyrraedd y llefydd sydd efo llifogydd.
"Rydym wedi clywed am bobl sydd wedi mynd yn sownd yn eu ceir" meddai ar BBC Radio Wales Breakfast.
"Byddwch yn hynod o ofalus os ydych yn mynd allan."
Mae rhannau o'r Alban wedi cael ail rybudd coch "perygl i fywyd" gyda glaw difrifol a gwyntoedd cryfion ar draws y DU.
Yng Nghymru, cafodd rhybudd tywydd Met Office ei godi fore Sadwrn.
Mae Transport for Wales wedi rhybuddio teithwyr i wirio'r trefniadau cyn teithio ar y gwasanaeth sy'n rhedeg ar y ffîn rhwng Cymru a Lloegr ddydd Sadwrn.
Bydd modd i gwsmeriaid oedd â thocyn i deithio dydd Gwener eu defnyddio dros y penwythnos.
Roedd pobl wedi gorfod gadel eu cartrefi ac roedd nifer o ysgolion wedi'i gorfodi i gau, gan gynnwys 52 yn Sir y Fflint.
Mae Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru yn dweud bod dros 60 o adroddiadau o lifogydd wedi eu derbyn.
Roedd y rhain yn cynnwys rhannau o'r Wyddgrug a threfi yn Sir Ddinbych megis Prestatyn a'r Rhyl.
Mae Gwasanaeth Tan ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dweud bod y llifogydd wedi cadw'r staff yn "hynod o brysur" ddydd Gwener.
Dywedodd Bronwen Hughes, pennaeth Ysgol Maes Garmon yn Yr Wyddgrug, wrth Radio Wales Breakfast y bu'n rhaid iddi gau'r ysgol ddydd Gwener oherwydd difrifoldeb y llifogydd.
"Doedd o ddim yn ddewis hawdd ond roedd lefel y dŵr yn codi," meddai.
Dywedodd yr asiantaeth traffig a theithio, Inrix, fod y brif ffordd rhwng Wrecsam a'r Wyddgrug yn parhau ar gau oherwydd llifogydd ar yr A541 ym Mhontblyddyn ddydd Sadwrn.
Roedd yr A5 hefyd ar gau rhwng Llangollen a Froncysyllte.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2023