Adroddiad fod person yn yr afon yng nghanol Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaethau Brys

Mae'r heddlu wedi gofyn i bobl gadw draw o ardal yng nghanol Caerdydd yn dilyn adroddiad fod person yn yr afon.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 07:50 ddydd Mawrth i ddigwyddiad yn Afon Taf ger pont Wood Street.

Honnodd llygad dyst wrth BBC Cymru ei fod wedi ffonio 999 ar ôl sylwi bod dyn yn y dŵr.

"Roedd [y dyn] yn gweiddi a sgrechian am help," meddai'r dyn, nad oedd am gael ei enwi.

"Gwnes i drio ei ddilyn i gadw fyny gyda fe. Nes i golli golwg ohono yn yr afon."

Dywedodd bod "llif y dŵr yn gyflym iawn".

Bu'r ffordd rhwng Tudor Street a Wood Street ar gau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod ond mae bellach wedi ailagor.

Mae Heddlu De Cymru yn annog pobl i osgoi'r ardal.

Pynciau cysylltiedig