Dolgellau: Cloddio am aur

  • Cyhoeddwyd
Mwyngloddwyr cloddfa aur Clogau wrth eu gwaith (llun heb ddyddiad)Ffynhonnell y llun, Clogau
Disgrifiad o’r llun,

Mwyngloddwyr cloddfa aur Clogau wrth eu gwaith (llun heb ddyddiad)

O chwareli llechi a phyllau glo i weithfeydd copr a chloddfeydd plwm; mae gan Gymru dreftadaeth mwyngloddio cyfoethog tu hwnt.

Ond faint wyddoch chi am hanes rhai o gloddfeydd aur y wlad?

Yma, mae'r hanesydd Elin Tomos yn bwrw golwg ar 'ruthr aur' Dolgellau.

Mwyngloddio ym Meirionnydd ers 1198

Ers canrifoedd mae nifer o ddiwydiannau llewyrchus wedi ffynnu yn Nolgellau. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth y dref yn ganolbwynt i ruthr aur Cymreig pan 'ddarganfuwyd' aur yn y bryniau gerllaw.

Ond nid Cymry oes Fictoria oedd y rhai cyntaf i gloddio am fetelau gwerthfawr yn Sir Feirionnydd. Ym 1198, mewn siarter a roddwyd i Abaty Cymer ar gyrion Dolgellau y ceir y cyfeiriad cyntaf at fwyngloddio yn yr ardal.

Ynddo, rhoddwyd yr hawl i'r mynachod dyllu ar gyfer metelau a thrysorau drudfawr.

Ffynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Darlun o adfeilion Abaty Cymer o'r gyfrol Hanes y Brutaniaid a'r Cymry gan Gweirydd ap Rhys (1886)

Nid oes unrhyw dystiolaeth bendant i gefnogi'r syniad y bu'r Rhufeiniaid yn cloddio am aur yng nghyffiniau Dolgellau.

Yr unig gloddfa aur Rufeinig yng ngwledydd Prydain ydy Mwynglawdd Dolaucothi ger Pumsaint yn Sir Gaerfyrddin.

Ffynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Gweithwyr Cloddfa aur Pumsaint yn 1938

Mae Llain Aur Dolgellau yn fwa cul, pymtheg milltir sy'n ymestyn o Abermaw ac yn dilyn glan ogleddol yr afon Mawddach i Lanelltyd.

Ceir rhagor o fwyngloddiau aur ar Fynydd y Garn, ger y Ganllwyd, ac ar lan afon Mawddach yng nghoedwig Coed y Brenin.

'Darganfod aur' Dolgellau yn 1844

Hyd heddiw, mae peth dadlau dros bwy a phryd y 'darganfuwyd' aur yn ardal Dolgellau. Yn 1844 fe gyhoeddodd gŵr o'r enw Arthur Dean bapur gwyddonol yn datgan ei fod wedi 'darganfod' aur yng Nghwm-heisian ger Y Ganllwyd.

Yn sgil y cyhoeddiad tyrrodd degau ar ddegau i'r ardal yn y gobaith o ennill eu ffortiwn. Dros y blynyddoedd dilynol darganfuwyd aur ledled yr ardal.

Ym 1854 daeth gweithwyr o hyd i aur ar hap yng ngwaith copr Figre ym Montddu ger Abermaw. Ar ddechrau'r 1860au daethpwyd o hyd i aur yn Clogau.

Does dim dwywaith mai Clogau oedd mwynglawdd mwyaf llewyrchus yr ardal. Ym 1899 yn unig cloddiwyd gwerth £60,000 o aur, swm sydd gyfwerth â thros £8 miliwn yn ein harian ni heddiw.

Ffynhonnell y llun, © Archifdy Meirionnydd, Gwasanaeth Archifau Gwyned
Disgrifiad o’r llun,

Gweithwyr Clogau

Wrth i gyffro'r 'rhuthr aur' ddechrau cydiad daeth dadlau dros berchnogaeth tir yn arfer cyffredin.

Ym mis Chwefror 1854 bu Robert Parry ac Edward Ellis o flaen eu gwell am gwffio yn nhafarn Tynygroes yn y Ganllwyd. Roedd y ddau wedi bod yn dadlau dros yr hawl i gloddio am aur gerllaw. Yn ôl adroddiadau'r wasg roedd Parry wedi cicio Ellis yn ei ben gan achosi gwaed 'to gush through his ears.'

Derbyniodd Roberts ddirwy o £1 sydd o gwmpas £100 yn ein harian ni heddiw.

Ffynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Dolgellau yn 1869

Yn ystod Rhuthrau Aur Awstralia roedd mentrwyr wedi gallu 'hawlio' tiroedd - a hynny, heb roi unrhyw ystyriaeth i frodorion yr ardal - trwy weithio arno'n barhaus.

Yng Nghymru roedd y sefyllfa yn dra gwahanol, roedd sawl gwythïen ym Meirionnydd wedi'u canfod ar diroedd y Goron sy'n golygu bod llawer o fentrwyr wedi gorfod sicrhau prydlesi cyn dechrau ar y gwaith neu wedi gorfod talu breindaliadau swmpus yn sgil eu darganfyddiadau.

'Brenin aur Cymru'

Yn ystod yr 1880au cafwyd ail ruthr aur yn ardal Dolgellau. Ym 1863, daethpwyd o hyd i aur yng Ngwynfynydd yn y Ganllwyd ond byrhoedlog fu'r cloddio.

Ym mis Gorffennaf 1887, cyhoeddwyd bod gwythïen newydd o aur wedi'i darganfod.

Ers misoedd roedd cyfreithiwr o Gasnewydd o'r enw William Pritchard Morgan wedi bod cloddio yno yn y dirgel.

Roedd Morgan wedi gobeithio cadw ei ddarganfyddiad yn gyfrinach a hynny er mwyn creu sioe a chyflwyno'r bar cyntaf o aur Gwynfynydd fel rhodd annisgwyl i'r Frenhines Fictoria.

Ffynhonnell y llun, Clogau
Disgrifiad o’r llun,

Cyn weithwyr cloddfa aur Gwynfynydd yn yr 19eg ganrif

Pan dorrodd y newyddion rhuthrodd degau ar ddegau o newyddiadurwyr a mentrwyr i'r ardal. Cymaint oedd eu nifer, mewn ymdrech i warchod ei fuddiannau yng Ngwynfynydd fe wnaeth Morgan gais llwyddiannus gerbron y llysoedd lleol am ddau gwnstabl i gadw llygaid ar y safle.

Roedd William Pritchard Morgan eisoes wedi ennill ei ffortiwn yn ystod Rhuthr Aur Awstralia ond diolch i'w ddarganfyddiad ym Meirionnydd daeth Morgan yn fwy cyfoethog fyth.

Does dim syndod ei fod yn cael ei adnabod fel 'brenin aur Cymru'.

Tra'r oedd Morgan wrth y llyw, roedd hyd at 200 o weithwyr yn cael eu cyflogi yng Ngwynfynydd. Roeddent yn cloddio dan olau cannwyll mewn twneli cul oedd wedi cael eu tyllu mewn i'r graig.

Ffynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

William Pritchard Morgan

Yn eu plith oedd y peiriannydd lleol, Hugh Pugh, a fu'n cadw dyddiadur o'i gyfnod yn gweithio yno.

Yn ôl Pugh, roedd ef a'i gyd-weithwyr yn arfer cyfarfod am dri o'r gloch fore Llun gyda'u dognau bwyd am yr wythnos.

Roedd gofyn iddynt gychwyn cerdded yr wyth milltir i'w gwaith mewn da bryd er mwyn gallu dechrau eu shifft yn brydlon am saith. Yn ystod yr wythnos roedd y mwynwyr yn aros mewn barics digon annymunol gerllaw'r gweithfeydd.

Ffynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Barics Tyddyn Gwladys

Erbyn cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd y diwydiant aur Cymreig wedi cyrraedd penllanw. Yn raddol, fe gaewyd holl fwyngloddiau aur Sir Feirionnydd.

Yn anffodus, nid oes unrhyw fwyngloddiau gweithredol yn yr ardal erbyn heddiw felly gwell oedi cyn heidio i dref Dolgellau gyda'ch rhaw a'ch padell!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig