Cerdded i wersyll gwaelod Everest 'i gofio am Dad'
- Cyhoeddwyd

Bydd taith Ioan yn cymryd tua pythefnos i'w chwblhau ac yn golygu teithio uchder o 5,500m uwchben lefel y môr
Mae dyn ifanc o Ynys Môn yn paratoi i gerdded i wersyll gwaelod Everest (base camp) i godi arian er cof am ei dad.
Bydd Ioan Rhun Jones, 17 o Lanfairpwll, yn cychwyn ar ei daith ar 31 Mawrth ac yn codi arian ar gyfer elusen iechyd meddwl Shout.
Bydd y daith yn cymryd tua pythefnos i'w chwblhau ac yn golygu teithio uchder o 5,500m uwchben lefel y môr.
Wrth siarad ar raglen Bore Sul BBC Radio Cymru, dywedodd Ioan fod gwneud y daith yn "rhywbeth dwi wedi bod isho gwneud ers amser maith felly pam lai gwneud o i elusen".
Mae elusen Shout yn cynnig cymorth iechyd meddwl 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Dywedodd fod yr elusen yn "gwneud gwaith gwych i achub nifer o fywydau".

Mae Ioan wedi bod yn ymarfer ar gyfer yr her ym mynyddoedd Eryri
Roedd Ioan yn 14 oed pan gollodd ei dad, a dywedodd bod ei farwolaeth wedi "cael effaith mawr arna' fi - mae'r tair blynedd diwethaf 'ma wedi bod yn anodd iawn".
Ychwanegodd bod "siarad ac ymarfer corff yn gyson" wedi ei helpu.
"Dwi'n meddwl mai'r brif neges ydy i siarad am deimladau ac i gael allan yn yr awyr agored a gwneud ymarfer corff achos dw i'n meddwl bod o mor bwysig cael allan a chael yn actif."
Yn ogystal â chodi arian er cof am ei dad dywedodd ei fod yn gwneud y daith er mwyn "codi ymwybyddiaeth o beth sydd wedi digwydd ac i wneud yn siŵr bod y pethau sy'n digwydd ddim yn cario 'mlaen".
Troi'r sefyllfa yn rhywbeth 'positif'
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Kelly Jones, mam Ioan sy'n fetron yn ward plant Ysbyty Gwynedd ei bod yn "ofnadwy o browd" ohono.
"Ma' beth mae'r ddau [fab] wedi bod drwy wedi bod yn ofnadwy ac mae Ioan wedi gallu ei droi yn rhywbeth positif."

Mae Ioan eisoes wedi cyrraedd ei nod ariannol ac wedi codi dros £3,000
Dywedodd bod yr hyn mae ei mab yn gwneud yn "bwysig fel bod pobl ifanc yn gwybod ei fod yn iawn i siarad a bod 'na ddim cywilydd".
"Syniad fo i gyd oedd hwn, dim byd i wneud efo fi," meddai.
Ychwanegodd bod yr elusen Shout yn bwysig gan eu bod nhw "yna 24/7, a does dim llawer o elusennau sydd fel yna, ac mae o'n hawdd i bobl ifanc gysylltu efo nhw".
Mae Ioan eisoes wedi cyrraedd ei nod ariannol ac wedi codi dros £3,000.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2023