Cyhuddo un o garfan y Barbariaid o ymosod yn rhywiol

  • Cyhoeddwyd
Api RatuniyarawaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Api Ratuniyarawa wedi'i enwi yng ngharfan y Barbariaid ar gyfer y gêm brynhawn Sadwrn

Mae un o chwaraewyr rygbi carfan y Barbariaid wedi cael ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol.

Bu Api Ratuniyarawa, 37, ger bron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn - roedd e'n wynebu dau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol.

Clywodd y llys ei fod yn gwadu ymosod yn rhywiol ar dair dynes ym mar y Revolution ar Stryd y Castell yn y brifddinas rhwng 31 Hydref a 1 Tachwedd.

Roedd Mr Ratuniyarawa wedi'i enwi yn rhan o garfan y Barbariaid i wynebu Cymru yn Stadiwm y Principality.

Yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc roedd e'n rhan o garfan Fiji.

Yn ystod y gwrandawiad fe wnaeth Mr Ratuniyarawa o sir Gorllewin Northampton ond cadarnhau ei enw.

Ar ran yr erlyniad dywedodd Michael Evans wrth y llys: "Fe ddigwyddodd y tri digwyddiad yn annibynnol o'i gilydd. Doedd y tair dynes ddim yn adnabod ei gilydd a doedd y diffynnydd ddim yn eu hadnabod cyn y noson yna."

Bu Api Ratuniyarawa, 37, ger bron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn
Disgrifiad o’r llun,

Bu Api Ratuniyarawa, 37, ger bron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn

Gorchmynnodd yr ynad Peter Hamley bod y chwaraewr rygbi yn ufuddhau i nifer o amodau mechnïaeth gan gynnwys cyrffyw electronig rhwng 19:00 a 07:00.

Does ganddo chwaith ddim hawl i ddod i Gymru oni bai am achosion llys. Mae e hefyd wedi cael gorchymyn i beidio cysylltu â thystion yn yr achos ac i beidio mynd i unrhyw fan trwyddedig.

Mae disgwyl i'r achos fynd ger bron Llys y Goron Caerdydd ar 4 Rhagfyr.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y Barbariaid: "Wedi i Heddlu De Cymru gysylltu â ni fe wnaethon ni gydweithio'n llawn â nhw gan eu helpu gyda phob ymholiad.

"Yn sgil cyngor gan yr heddlu dyw hi ddim yn bosib i ni wneud unrhyw sylw pellach wrth i'r ymchwilad fynd yn ei flaen."