Troi eglwysi a banciau gwag yn fflatiau i daclo prinder tai?

  • Cyhoeddwyd
tai yng NgwyneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy o dai gwag yng Ngwynedd nag yn unrhyw sir arall yn y wlad

Gallai troi adeiladau fel hen eglwysi a banciau yn fflatiau fod yn un ateb er mwyn ceisio taclo'r prinder tai yng Nghymru, yn ôl un elusen.

Daw hynny wrth i aelod o gabinet Cyngor Gwynedd ddweud ei bod hi'n "anfoesol" bod cymaint o dai gwag yn y sir ar adeg pan mae pobl yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i lety.

Dywedodd un person o Gaernarfon ei fod wedi bod yn chwilio am dŷ i rentu gyda'i bartner ers wyth mis, proses sydd wedi bod yn "rhwystredig" a "thorcalonnus".

Awgrymodd ffigyrau diweddar bod hyd at 120,000 o anheddau gwag yng Nghymru - un ym mhob 12.

Prisiau rhent wedi 'saethu fyny'

Mae Dafydd Roberts, sy'n byw yng Nghaernarfon, wedi bod yn chwilio am le i rentu gyda'i bartner Nicolas Martin Manzano ers dechrau'r flwyddyn - ond mae gormod o gystadleuaeth, meddai.

"Es i weld tŷ 'chydig wythnosau yn ôl a 'naeth y landlord dd'eud bod dros 250 o bobl wedi trio am y tŷ, a bod nhw 'di shortlistio lawr i 50 o bobl," meddai.

"Felly hyd yn oed wedyn, siawns o un mewn 50 oedd genna ni.

"Mae prisiau rhent 'di saethu fyny, 'dan ni 'di gweld rhai yn mynd am £850-900 y mis, ond 'di'r tŷ jyst ddim yn addas i allu talu hynna.

"Mae 'na black mould yn y tai, 'dan ni'n gweld hynna lot yn y tai 'dan ni'n mynd i weld."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd Roberts (chwith) a'i bartner Nicolas Manzano yn ystyried symud tu allan i Gymru er mwyn cael cartref addas

Ag yntau'n gweithio yn Llanelwy, mae wedi bod yn edrych am dŷ ar draws arfordir y gogledd a nawr yn dweud ei fod yn ystyried symud i ffwrdd o'i ardal enedigol.

"'Dan ni jyst ddim yn gwybod lle mae'r cam nesaf - ydan ni dal am fod yn byw yng Nghymru, ydan ni am fod tu allan i Gymru?" meddai.

"Does 'na ddim golau ar ddiwedd y twnnel. Mae'n bechod bod pobl ifanc yn symud allan o Gymru i allu chwilio am rywle i rentu."

'Anfoesol'

Mae'r pryder hwnnw'n cael ei rannu gan aelod cabinet Cyngor Gwynedd dros dai, Craig ab Iago.

"Mae'n anfoesol - dydi'r sefyllfa ddim yn gynaliadwy o gwbl," meddai.

"'Dan ni methu cario 'mlaen efo'r canran yna o'n tai ni, y niferoedd yna o'n tai ni, yn eistedd yn wag drwy'r flwyddyn, tra bod ni efo cymaint o bobl ar ein rhestr dai, cymaint o bobl ddigartref, cymaint o bobl sydd methu fforddio tai yng Ngwynedd dim mwy.

"Mae 90 o bobl ifanc yn gadael Gwynedd bob mis a ddim yn dod 'nôl.

"Does 'na ddim dyfodol i ni fel sir, fel gwlad, fel cymunedau Cymraeg, fel diwylliant, os 'dan ni'n colli cymaint â hynna o bobl bob mis."

Disgrifiad o’r llun,

Mabon ap Gwynfor AS: 'Y peth hawsaf yw cynyddu'r stoc dai wrth roi arian i awdurdodau lleol i'w prynu'

Mae'r cyngor eisoes wedi cymryd nifer o gamau i geisio taclo'r broblem, gan gynnwys codi premiwm treth cyngor ar ail gartrefi, a chynnig grantiau i'r rheiny sydd eisiau adnewyddu tai gwag.

Maen nhw hefyd bellach yn prynu rhai tai ar y farchnad agored, er mwyn eu rhentu yn ôl i drigolion lleol - ond yn ôl Mr ab Iago, mae angen rhagor o bwerau arnyn nhw gan Lywodraeth Cymru.

"'Dan ni angen mwy o bres i brynu'r tai a gwneud y supply side," meddai.

"Dydi'r ateb ddim yn anodd - 'dan ni angen y bocs o dŵls i gyd, dim jyst fesul un."

Yn ôl Aelod o'r Senedd lleol, mae angen i gynghorau eraill ar draws Cymru efelychu Gwynedd wrth fynd ati eu hunain i brynu tai.

"Yn 1974 roedd 30% o'n stoc dai ni yn dai cyhoeddus," meddai Mabon ap Gwynfor.

"Bellach mae o lawr i 15%, sy'n golygu ei bod hi'n anos i bobl sydd eu hangen i gael mynediad i'r tai yna.

"Os ydyn ni am fynd i'r afael â hynny, y peth hawsaf yw cynyddu'r stoc dai wrth roi arian i awdurdodau lleol i'w prynu."

Disgrifiad o’r llun,

Bonnie Williams: 'Pwysig meddwl beth fydd dyfodol tai, yn ogystal â thaclo argyfwng nawr'

Mae Housing Justice Cymru yn un elusen sydd eisoes yn helpu i adnewyddu hen adeiladau fel eglwysi, a'i droi yn llety.

Bwriad cynllun 'Faith in Affordable Housing' yw rhoi bywyd newydd i adeiladau sydd bellach ddim yn cael eu defnyddio - ac yn bwysicach fyth, meddai prif weithredwr yr elusen, mewn llefydd lle mae pobl eu hangen.

"Mae canol ein trefi a'n dinasoedd yn newid cymaint nawr," meddai Bonnie Williams.

"Rydyn ni'n gweld llai o bobl yn defnyddio'r siopau, banciau, llyfrgelloedd, clybiau cymdeithasol, eglwysi.

"Felly mae'n bwysig meddwl beth fydd dyfodol tai, yn ogystal â thaclo'r argyfwng sydd yna nawr.

"Mae angen meddwl lle mae pobl eisiau byw, a dydyn nhw ddim wir eisiau byw yn y datblygiadau newydd yma ar hyd coridor yr M4.

"Mae angen iddyn nhw fyw mewn cymunedau lle mae cyfleusterau a thrafnidiaeth, falle lle gawson nhw eu magu."

Disgrifiad o’r llun,

Tai gwag yn "wastraff adnodd", meddai Heddyr Gregory o Shelter Cymru

Mae elusennau eraill fel Shelter Cymru wedi siarad am yr angen i gyfuno adnewyddu tai gwag, gydag ymdrechion pellach i daro targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer adeiladu tai newydd.

"Mae tai gwag yn wastraff adnodd, ac ni'n gwybod hynny," meddai Heddyr Gregory o Shelter Cymru.

"Ni'n byw drwy argyfwng tai yma yng Nghymru, a phan ni'n sylweddoli bod 90,000 o aelwydydd ar y rhestr aros am dai cymdeithasol, ac ar ben hynny bod ganddon ni 11,000 o bobl yn byw mewn llety dros dro, hynny yw, yn swyddogol ddigartref, mae angen gwneud rhywbeth.

"Dyw pob un tŷ gwag ddim yn mynd i fod yn addas i fod yn gartref i rywun, ond yn sicr fe all fod yn help tuag at lenwi'r gagendor yn y stoc dai sydd gyda ni ar hyn o bryd yng Nghymru."

Cynllun grant gwerth £50m

Yn gynharach eleni fe lansiodd y llywodraeth gynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol gwerth £50m.

Maen nhw'n dweud eu bod nhw hefyd wedi cymryd camau eraill gan gynnwys rhoi pwerau i awdurdodau lleol godi treth cyngor uwch ar ail dai.

"Rydyn ni'n credu bod gan bawb yr hawl i brynu neu rentu tŷ safonol a fforddiadwy yn eu cymuned eu hunain, fel bod modd iddyn nhw fyw a gweithio'n lleol," meddai llefarydd.

"Mae tai sy'n wag yn hir dymor yn wastraff o adnodd ac yn gallu cael effaith andwyol ar ein cymunedau.

"Dyna pam rydyn ni'n darparu nifer o fesurau a phecynnau ariannol i leihau nifer y tai gwag hir dymor yng Nghymru."

Pynciau cysylltiedig