Euro 2024: Jay Dasilva yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Jay DasilvaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dasilva yn chwarae i Coventry City yn y Bencampwriaeth

Mae amddiffynnwr chwith Coventry City, Jay Dasilva, wedi cael ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer y gemau rhagbrofol hollbwysig yn erbyn Armenia a Thwrci.

Dyma'r tro cyntaf i Dasilva, sydd wedi cynrychioli timau ieuenctid Lloegr hyd at lefel dan-21, gael ei ddewis gan Gymru.

Mae o bellach yn chwarae i Coventry City yn y Bencampwriaeth, wedi cyfnodau gyda Bristol City a Charlton Athletic yn gynharach yn ei yrfa.

Cafodd nain Dasilva ei geni ym Mhontypridd, ac mae ei frawd, Cole, eisoes wedi cynrychioli timau ieuenctid Cymru.

Fe allai'r amddiffynnwr ennill ei gap cyntaf yn erbyn Armenia yn Yerevan ar 18 Tachwedd neu yn erbyn Twrci yng Nghaerdydd ar 21 Tachwedd.

Bydd Cymru'n llwyddo i gyrraedd Euro 2024 os ydyn nhw'n ennill y ddwy gêm.