Cael rhedeg Tafarn yr Eagles yn 'gwireddu breuddwyd'

  • Cyhoeddwyd
EaglesFfynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad y tenantiaid newydd yw agor y dafarn fis yma

Ar ôl llwyddo i godi digon o arian i brynu'r dafarn leol, bydd perchnogaeth Tafarn yr Eagles yn trosglwyddo yn ffurfiol i Fenter Gymunedol Llanuwchllyn ddydd Gwener.

Yn gynharach eleni, fe gyhoeddodd Eleri a Meirion Pugh, sydd wedi bod yn berchnogion am dros 20 mlynedd, y byddai'r dafarn yn mynd ar werth, gan sbarduno ymdrech leol i'w phrynu.

Llwyddodd y fenter gymunedol i gyrraedd eu targed o £300,000 ym mis Hydref, ac maen nhw bellach wedi penodi tenantiaid i redeg y dafarn.

Dywedodd Grisial Llewelyn, cadeirydd Menter Gymunedol Llanuwchllyn, ei bod hi'n "anodd credu ein bod wedi cyrraedd y garreg filltir yma", a'u bod yn "edrych 'mlaen yn eiddgar am yr hyn ddaw nesaf".

Jonathan a Zoe Smith, sy'n byw yn lleol, sydd wedi eu penodi yn denantiaid.

Ar hyn o bryd mae'r cwpl yn rhedeg HWB - sef caffi a chanolfan ddigwyddiadau ar gyrion Y Bala.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Eleri a Meirion Pugh (chwith) wedi bod yn rhedeg y dafarn ers dros 20 mlynedd

"O'r eiliad y clywsom ni ei bod yn dod ar y farchnad, roedden ni eisiau rhedeg yr Eagles," meddai Jonathan, sydd hefyd yn rhedeg cwmni gweithgareddau awyr agored.

"Am wahanol resymau, roedden ni'n methu a gwneud i'r peth weithio, oedd yn siom ofnadwy i fod yn onest.

"Ond wnaethon ni ddim rhoi'r gorau'n llwyr i'r freuddwyd a phan wnaeth y gymuned leol ddod at ei gilydd i'w phrynu, mi wnaethon ni sylweddoli falle bod yna dal gyfle."

'Llawer mwy na thafarn'

Dywedodd Zoe bod yr Eagles "yn ganolbwynt cymunedol enfawr".

"Mae'n llawer mwy na thafarn, mae'n galon i'r pentref ac rydyn ni yn edrych ymlaen at agor.

"Mae ein plant ni'n mynd i Ysgol OM Edwards, sydd rownd y gornel o'r Eagles, ac rydyn ni wedi ymgartrefu yn Llanuwchllyn ers bron i 10 mlynedd.

"Mae pobl yn teimlo mor gryf am yr Eagles ac mae'n fraint go iawn cael y cyfle i redeg yr Eagles a chael ffydd pobl ynddon ni i wneud hynny."

Ychwanegodd Grisial Llewelyn ei bod hi'n bwysig diolch hefyd i'r tenantiaid blaenorol.

"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i allu dod ynghyd i ddiolch i Eleri a Meirion am bopeth y maen nhw wedi'i wneud i ni fel cymuned ac hefyd i ddymuno pob hwyl iddynt am ymddeoliad hapus iawn," meddai.

"Rydym wedi'n cyffroi... rydym wrth ein boddau ac yn edrych 'mlaen yn eiddgar am yr hyn ddaw nesaf.

"Hoffem eto ddiolch yn ofnadwy i bawb sydd wedi credu yn y fenter ac sydd wedi'n cefnogi mor hael."

Pynciau cysylltiedig