Menter yr Eagles i brynu tafarn yn Llanuwchllyn
- Cyhoeddwyd
Mae menter gymunedol yn Llanuwchllyn wedi llwyddo i gyrraedd eu targed ariannol, a bellach yn bwrw ymlaen â chynlluniau i brynu'r dafarn leol.
Fe gyhoeddodd perchnogion tafarn yr Eryrod yn gynharach eleni y byddai'r dafarn yn mynd ar werth - gan sbarduno ymdrech godi arian gan Fenter yr Eagles.
Mae £300,000 wedi'i godi mewn cyfranddaliadau, tra bod y fenter hefyd wedi derbyn arian drwy Gronfa Ffyniant Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Grisial Llewelyn, cadeirydd y fenter, fod hon wedi bod yn "ymdrech aruthrol" sy'n dangos beth yw "grym a gwerth cymuned".
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd14 Medi 2023
Bwriad y fenter yw prynu'r dafarn gan Eleri a Meirion Pugh, sydd wedi bod yn berchnogion am dros 20 mlynedd.
Mae tenant eisoes wedi ei ddewis i redeg y dafarn, y siop a'r bwyty ar ran y gymuned - a'r gobaith yw y bydd y tenant newydd yno erbyn y Nadolig.
Yn ogystal â'r arian a gafodd ei godi mewn cyfranddaliadau, dywedodd y fenter eu bod nhw wedi derbyn £128,000 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyda chefnogaeth Cyngor Gwynedd.
Cafodd fersiwn Gymraeg o'r gân Hotel California gan yr Eagles ei chyhoeddi fel rhan o'r ymdrechion i godi arian hefyd.
'Y cam cyntaf'
Dywedodd Grisial Llewelyn: "Rydyn ni wedi cael ein syfrdanu gan y gefnogaeth a gafwyd gan y gymuned yma yn Llanuwchllyn a gan ffrindiau a sefydliadau o bob rhan o Gymru, y Deyrnas Unedig ac yn wir y byd.
"Er ein bod wedi sicrhau arian i brynu’r Eryrod, mae angen gwneud rhywfaint o waith datblygu ar yr adeilad felly rydym yn gadael ein cronfa ar agor i’r rhai nad oeddent am brynu cyfranddaliad ond a allai fod eisiau cefnogi ein menter.
"Rydym hefyd yn awyddus iawn i bwysleisio pa mor uchelgeisiol ydyn ni... gwelwn bryniant yr Eryrod fel y cam cyntaf tuag at gyflawni nifer o brosiectau a gweithgareddau pellach fydd o fudd i’r gymuned gyfan, o’r presennol i’r dyfodol”.