Hysterosgopi: 'Poen annioddefol' yn ystod archwiliad

  • Cyhoeddwyd
Dee Dickens
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dee Dickens, 53, o Bontypridd, archwiliad hysterosgopi fel claf allanol yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Roedd cael archwiliad meddygol heb anesthetig yn brofiad "cwbl annioddefol", medd Dee Dickens.

Mae hi'n un o nifer yn y DU sy'n dweud ei bod wedi cael poenau difrifol a ddim wedi cael digon o gymorth lladd poen wrth dderbyn hysterosgopi - sy'n cael ei ddefnyddio i archwilio'r groth.

Mae canllawiau clinigol yn dweud bod yn rhaid darparu opsiynau anesthetig i gleifion cyn unrhyw archwiliad gynaecolegol.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg eu bod yn bryderus am brofiadau Ms Dickens ac maent wedi ei hannog i gysylltu â nhw.

'Poen ofnadwy'

Cafodd Dee Dickens, 53, o Bontypridd hysterosgopi fel claf allanol yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar ôl iddi ddechrau gwaedu yn ystod y menopos.

Dywedodd Ms Dickens, myfyrwraig sy'n astudio am radd doethuriaeth, nad oedd ei nodiadau meddygol a cham-drin rhywiol yn ystod ei phlentyndod wedi cael eu hystyried ac na chafodd gynnig anesthetig lleol cyn y driniaeth ym mis Hydref 2022.

Oherwydd cyflyrau iechyd yr oedd eisoes yn dioddef ohonynt, gan gynnwys ffibromyalgia a Syndromau Ehlers-Danlos (EDS), roedd hi'n gyndyn o gael anesthetig cyffredinol gan y byddai hynny wedi ei gwneud "yn sâl am wythnosau", felly cafodd hysterosgopi a dim ond cyffuriau i leddfu'r boen.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg eu bod yn bryderus am brofiadau Ms Dickens

Ond pan ddechreuodd y driniaeth, dywedodd ei bod yn teimlo poen ofnadwy.

"Roeddwn yn ymwybodol iawn fy mod yn fenyw ddu ac roeddwn yn teimlo eu bod yn arbrofi arnai heb unrhyw anaesthetig.

"Fe wnaethon nhw dynnu fy coil allan ac yna fe ddechreuon nhw ar y biopsies... roedd yn ofnadwy," meddai.

"Roedd e fel pe baen nhw'n gwared â'm tu mewn ac yn ei chwythu i fyny ar yr un pryd.

"Roedd 'na deimlad petawn yn methu gwrthsefyll y boen y byddwn i'n fethiant."

Ychwanegodd Ms Dickens iddi dderbyn, ar ôl i'r driniaeth ddod i ben, sylwadau hiliol gan nyrs wrth iddi ddweud "bod rhywun fel fi" fel arfer yn "goddef poen" yn dda.

"Dywedais wrth Phil, fy ngŵr a oedd yn aros amdanaf... 'Dwi eisiau mynd oddi yma', roeddwn wedi fy siomi," meddai.

'Ymchwilio'n fanylach'

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Rydym yn bryderus iawn o glywed am brofiad Dee ac yn ei hannog i gysylltu â'n tîm pryderon fel y gallwn ymchwilio'n fanylach i'r gofal a gafodd."

Mae canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE) yn dweud bod yn rhaid i glinigwyr esbonio "beth mae'r weithdrefn yn ei olygu a thrafod dewisiadau eraill posib".

"Os yw menyw yn gwrthod hysterosgopi fel claf allanol, [rhaid i glinigwyr] gynnig hysterosgopi o dan anesthesia cyffredinol neu ranbarthol."

Dywedodd Cymdeithas Endosgopi Gynaecolegol Prydain (BSGE), yn 2018, ei fod "yn bwysig rhoi'r gorau i'r driniaeth os yw menyw yn gweld bod profiad y claf allanol yn rhy boenus".

Mae'r Ymgyrch yn Erbyn Hysterosgopi Poenus wedi casglu dros 5,000 o brofiadau negyddol gan gleifion wrth iddyn dderbyn hysterosgopi.

Dywedodd yr ymchwilydd Katharine Tylko: "Yn anffodus, mae llawer o fenywod yn dal i gael gwybod bod hwn fel prawf ceg y groth, ond nid dyna ydy o.

"Ni ddylai neb fod yn gorfod bod yn ddewr, yn gorfod sgrechian, yn gorfod taflu i fyny, yn gorfod cael eu bychanu os na allant ymdopi.

"Rydym wedi dod o hyd i ysbytai sy'n dweud yn blwmp ac yn blaen, 'yn anffodus, nid oes gennym y gallu i gynnig anesthetig cyffredinol i fenywod'.

"Mae bwlch mawr rhwng geiriau y bobl hyfryd yng Ngholeg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr [RCOG] a'r hyn sy'n digwydd mewn clinig cleifion allanol â rhestr aros hir."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod eu Datganiad Ansawdd ar gyfer iechyd menywod yn nodi'r hyn y disgwylir i fyrddau iechyd ei gyflawni ac y dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ystyried canllawiau NICE.

Dywedodd hefyd eu bod wedi "gofyn i GIG Cymru ddatblygu cynllun iechyd menywod cynhwysfawr 10 mlynedd".

Bydd hyn, meddan nhw, "yn gweithredu fel y cyfrwng ar gyfer trawsnewid y gofal y mae merched Cymru yn ei dderbyn".

Pynciau cysylltiedig