Yr ifanc a ŵyr? Heini Gruffudd ac Efa Gruffudd Jones
- Cyhoeddwyd
Yr awdur ac ymgyrchydd iaith Heini Gruffudd a'i ferch Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, sy'n sgrifennu am eu perthynas â'i gilydd yn ein cyfres o erthyglau teuluol, Yr ifanc a ŵyr?
Mae Heini Gruffudd, fu'n athro ysgol ac yn ddarlithydd prifysgol, wedi bod yn ymgyrchydd amlwg dros addysg Gymraeg, yn enwedig yn ardal Abertawe. Ac ef hefyd yw un o sylfaenwyr Canolfan Gymraeg Abertawe, Tŷ Tawe.
Ar ôl gweithio fel prif weithredwr gyda'r Urdd a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, fe ddechreuodd Efa Gruffudd Jones ei swydd fel Comisiynydd y Gymraeg ar ddechrau 2023.
Heini: 'Colli dadl pan oedd Efa yn wyth oed'
Roedd gan Efa farn bendant am bethau o'r cychwyn bron. Rwy'n cofio'n dda, pan oedd hi tuag wyth oed rwy'n credu, imi golli dadl â hi, a hithau'n gwbl resymegol a llwyr benderfynol, a chywir wrth gwrs. Dw i ddim wedi meiddio dadlau â hi ers hynny.
Yn hynaf o bedwar o blant, roedd yn amlwg yn mwynhau gofalu am y lleill. Mae hi'n dal yn gofalu am rai bach, ac nid mor fach, y teulu, a dim yn well ganddi na threfnu digwyddiadau i'r teulu fod gyda'i gilydd. A dyna, debygwn i, ddwy o'i nodweddion - penderfynol a gofalgar.
Cafodd ei geni a'i magu mewn cyfnod o ymgyrchu dros y Gymraeg, a diolch i'r drefn cafodd fynd i ysgol gyfun Gymraeg/ddwyieithog. Gwaetha'r modd, roedd y gwyddorau'n cael eu dysgu yno trwy gyfrwng y Saesneg y pryd hwnnw. Yn 11 oed, atebodd y papur arholiad gwyddoniaeth yn y Gymraeg. Cafodd ei galw i mewn i ystafell penaethiaid yr ysgol, a dywedwyd wrthi mai 0/100 fyddai ei marc oni byddai'n cyfieithu ei hatebion i'r Saesneg. Y Welsh Not yn fyw ac yn iach mewn ysgol ddwyieithog. Mae'n debyg 'da fi bod hyn wedi rhoi cyflwyniad iddi i fywyd o weithredu.
Fe ddioddefodd Efa gen i. Adeiladais ysgol fetel i do'r tŷ, heb fod yn gelfydd iawn, a rhwygodd Efa'i braich wrth gerdded heibio iddi. Gyda'i chwiorydd a'i brawd cafodd ei llusgo mewn ceir digon simsan o gwmpas y cyfandir yn ystod gwyliau'r haf. Ar wyliau yn y Swistir, trefnais gystadleuaeth gerfio i'r plant, a rhoi cyllell gerfio finiog i bob un, a changen. Cerfiwyd mwy o fysedd nag o ganghennau. Roedd gwaed yn tasgu'n fuan, er mai ei chwaer, Nona, ddioddefodd fwyaf efallai.
A minnau'n gwbl bentyrrol fy nesg, llyfrau a phapurau ymhobman, rwy'n credu i Efa adweithio yn erbyn hyn. Bu hi o'i phlentyndod yn hynod daclus a threfnus, a synnwn i ddim i hyn fod o'i phlaid yn ei gwaith. Tra mod i wedi bod yn ymgyrchydd o'r tu allan, "wostod ar y tu fas", mae hi wedi llwyddo i weithio o'r tu mewn. Mae cyflawni'n bwysicach iddi na damcaniaethu: nid yr academig dost ond gweithredu a dylanwadu ymarferol.
Mae ganddi un nodwedd arall amlwg. Gall wneud gwaith wythnos mewn bore. O godi am bump, bydd hi wedi pobi bara, gwneud y golch, paratoi pryd nos ac ati cyn i'w hannwyl ŵr ymddangos. Wrth drefnu gwyliau, bydd hi wedi cael tocynnau hedfan, bwcio'r llety ac ati tra bod y gweddill ohonon ni'n dal i drafod ble i fynd.
Y peth hyfryd yw bod gennym lu o atgofion melys, a gobaith eto am wireddu sawl breuddwyd.
Efa: 'Wedi etifeddu yr 'Heini gene''
Mae Dad a fi yn debyg iawn mewn sawl ffordd ac yn wahanol mewn eraill.
Does dim amheuaeth bod sawl un ohonon ni yn y teulu wedi etifeddu yr hyn a elwir yn 'Heini gene'. Effaith hyn yw'r anallu i eistedd yn llonydd. Mae'n mynd yn gystadleuaeth weithiau pwy sydd wedi neud y mwyaf o botiau jam neu dorthau o fara cyn 7:30 ar fore Sadwrn. Rwyf newydd rannu fy murum surdoes gyda fe - ond dyw e ddim yn dilyn y cyfarwyddiadau a rannais - mae'n mynnu dilyn ei gwys ei hunan. Mae hyn yn effaith arall sydd gan yr 'Heini gene' arnom.
Mae ein teulu yn bwysig i'r ddau ohonon ni. Mae e wedi teithio i fyny ac i lawr yr M4 siŵr o fod filoedd o weithiau erbyn hyn i fy ngweld i a'm chwiorydd a'm brawd: Nona, Gwydion ac Anna. Ac erbyn hyn yr wyrion a'r wyresau yw'r dynfa: Gwenllian, Greta, Dafydd, Elinor, Euriana a Ioan. Dyw e byth yn dod yn waglaw (dyma ble mae'r jam yn handi), ac ry'n ni gyd wedi elwa o'i haelioni parhaus. Dwi'n meddwl ei fod e hapusaf pan ry'n ni i gyd gyda'n gilydd.
Fe sy'n meithrin ac yn cynnal y cysylltiadau gyda'n teulu yn yr Almaen, a dwi'n meddwl bod derbyn ein dinasyddiaeth Almaenig yn ddiweddar wedi bod yn brofiad emosiynol iddo fe ac i fi. Er na fyddai hi'n deg cymharu erledigaeth ein teulu yn yr Almaen gyda'n profiadau ni yng Nghymru, dwi'n meddwl bod yr angen i sicrhau cyfiawnder wedi ei wreiddio yn ddwfn iawn ynddo, a dwi'n gobeithio fy mod wedi etifeddu ychydig o hynny. Dyna ni yr 'Heini gene' ar waith eto!
Byddai'n wir dweud efallai fy mod i wedi cydymffurfio mwy na fe o ran y ffordd yr ydym wedi mynd ati i gyflawni hynny yn ein bywyd a'n gwaith.
Mae elfen arall yn perthyn i'r 'Heini gene' sef y pleser a gawn o deithio, yn bennaf i Ewrop - i'r Almaen wrth gwrs, a gorau oll os yw hynny'n digwydd o dan yr heulwen. Ry'n ni wedi mwynhau sawl egwyl wych yn crwydro ynysoedd heulog ac yn nofio yn y mor. Hoffter arall y mae wedi ei roi i mi. Fe nofion ni ddiwethaf yn Rotherslade ddechrau Tachwedd.
Ry'n ni yn rhannu hoff raglen deledu ac awdures. Midsommer Murders ac Agatha Christie. Na dy'n ni ddim yn darllen Dafydd ap Gwilym yn y gwely!
A'r ffordd ry'n ni'n wahanol? Dewch i weld ein desgiau. Mae gan un ohonon ni ddesg daclus...!