Efa Gruffudd Jones wedi’i phenodi yn Gomisiynydd y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Efa Gruffudd JonesFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Efa Gruffudd Jones y byddai'n "hoffi edrych ar beth yw'r balans" rhwng rheoleiddio a hyrwyddo

Mae Efa Gruffudd Jones wedi'i phenodi'n Gomisiynydd y Gymraeg.

Bydd yn dechrau ar ei swydd ym mis Ionawr 2023, gan olynu y diweddar Aled Roberts.

Dywedodd Efa Gruffudd Jones: "Fe fydd hi'n fraint cael bod yn Gomisiynydd y Gymraeg ac yn anrhydedd dilyn ôl traed Aled Roberts."

"Dwi am weld Cymru lle mae pobl yn gallu mwynhau defnyddio'r Gymraeg bob dydd. Dwi'n edrych ymlaen at wneud popeth yn fy ngallu i sicrhau bod y Gymraeg, ein trysor cenedlaethol, yn perthyn i bob un ohonon ni."

Mae Ms Gruffudd Jones wedi dweud y byddai'n "hoffi edrych ar beth yw'r balans" rhwng rheoleiddio a hyrwyddo, ac "nid fy ymateb cyntaf i fel comisiynydd fyddai rhoi cerydd" i sefydliadau sydd ddim yn cydymffurfio gyda Safonau Iaith.

'Blynyddoedd o brofiad'

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford, a wnaeth y penodiad: "Mae'r iaith wedi bod yn ganolog i yrfa Efa - fel prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac fel prif weithredwr yr Urdd.

"Fe fydd hi, felly, yn dod i'r swydd â blynyddoedd o brofiad o weithio dros y Gymraeg ac o weithio gyda siaradwyr Cymraeg a dysgwyr ledled Cymru."

Ychwanegodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Mae gyda ni amcanion uchelgeisiol i gynyddu nid dim ond nifer siaradwyr Cymraeg, ond hefyd y defnydd sy'n cael ei wneud o'r Gymraeg bob dydd."

"Mae rôl y Comisiynydd i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg a gwasanaethau Cymraeg yn rhan bwysig o gyrraedd y targed hwn, a dwi'n edrych ymlaen at weithio'n agos gydag Efa ar hyn."