Ateb y Galw: Heini Gruffudd
- Cyhoeddwyd

Yr awdur, cyhoeddwr ac ymgyrchydd iaith Heini Gruffudd sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan ei frawd Robat Gruffudd yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cwympo mewn i lyn yn yr Almaen, yn fy nillad, pan o'n i'n bedair oed.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Wrth fynd i'r ysgol gynradd am y tro cyntaf, ro'n i'n dal dwylo â Non Griffiths, merch y dramodydd, John Griffiths. Ro'n ni'n byw yn yr un stryd a'r ddau ohonon ni'n rhannu'r un ofn - sef fy mrawd mawr Robat a'i chwaer fawr hi, Margaret. Margaret oedd y prif ofn.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Embaras yn hytrach na chywilydd: Golygfa: mewn cawod mewn fflat yn Port de Soller. Canodd y ffôn. Efa fy merch yn ffonio o'r traeth, am i mi weld oedd bwced a rhaw yn y cwpwrdd y tu allan i'r fflat. Gan fod y coridor tu allan yn weddol gysgodol, es i mas fel yr oeddwn. Daeth chwa o wynt a slamo'r drws ar gau. Diolch am y ffôn a'r bwced.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Ro'n i'n paratoi cawl yr wythnos hon, ac yn pilo wynwns.

Enillodd gyfrol Heini 'Yr Erlid' wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2013
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwdlo mewn cyfarfodydd sy'n trafod pethau pwysig am yr iaith (ac rwy wedi bod mewn 876 o gyfarfodydd o'r fath hyd yn hyn.) Mae dwdlo'n cadw dyn yn gall.
Beth yw dy hoff le?
Mynydd Gelliwastad - lle i ddyn gael llonydd uwchben bwrlwm y dref, yn edrych tua'r wlad a'r bryniau, ac mae cnwd da o lusi duon bach yma.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Rwy'n eu cael yn aml. Yn weddol ddiweddar, gwylio'r haul yn machlud yn Port de Soller, ac yna'r lleuad yn codi'n felyn fawr dros y mynyddoedd. Yn fwy diweddar, gwylio'r sêr a chaer Gwydion yn Llanofer. Heno: magu Euriana'n wên i gyd o dan goed yr ardd.

"Magu Euriana o dan goed yr ardd"
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Rhamantydd, tad, tad-cu
Beth yw dy hoff lyfr?
Dim amheuaeth: 'Y Llewpart', gan Guiseppe Tomasi di Lampedusa, tywysog olaf Lampedusa. Fe ddarllenais y cyfieithiad Cymraeg yn Sisili, a do'n i ddim am i'r llyfr ddod i ben. Mae'n darlunio ac yn dehongli hanes ei ynys, hanes yn gyffredinol, ac yn bennaf, y natur ddynol.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Siwt nofio. Gweler uchod wrth gwrs, ond diolch byth nad yw bae Abertawe ar Fôr y Canoldir. Fel rheol rwy'n ei gael i mi fy hun.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
Cyfres 'The Night Manager' ar deledu BBC. Rwy ar ganol y nofel nawr, ac mae'n llawn gwirioneddau. Mae gwladwriaethau'r byd wrth eu bodd yn gadael i ddihirod werthu arfau i bob cnaf posibl. Mae'r gwledydd mawr yn ymgyfoethogi wrth ddryllio'r byd yn ddarnau.
Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?
Anthony Hopkins, ar sail ei berfformiad yn 'The Remains of the Day'. Dyw hi byth yn rhy hwyr.

"Dyw hi byth yn rhy hwyr" Anthony Hopkins yn portreadu Stevens, y bwtler yn 'Remains of the Day'
Dy hoff albwm?
Fy albwm lluniau diwethaf, taith gyda fy nghyfeillion llenyddol i Groatia. Dim ond dau ohonon ni aeth i'r traeth unig ar ynys fach Drevnik Mali. Gweler atebion 3 a 9 hefyd.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn a be' fyddai'r dewis?
Melon gyda llusi duon bach Mynydd Gelli Wastad, cig eidion gyda ffa dringo o'r ardd, a phwdin reis. Sut galla i ddewis rhyngddyn nhw?
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Carwyn Jones. Byddwn yn rhoi ar waith yr holl bethau a ddysgais yn yr 876 cyfarfod.
Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Ben Davies