'Dibynnu ar farn eraill' wrth drin cyn-athrawes - cwest
- Cyhoeddwyd
Roedd ymgynghorydd ysbyty yn dibynnu ar farn arbenigwyr orthopedig oedd yn mynnu nad oedd gan glaf haint yn ei phen-glin cyn ei marwolaeth, clywodd cwest.
Clywodd cwest Nesta Jones, 77, bod profion diweddarach - mis ar ôl iddi gael ei derbyn i Ysbyty Gwynedd ym Mangor - wedi cadarnhau bod arthritis septig yn ei phen-glin.
Bu farw'r gyn-athrawes o'r Fali ar Ynys Môn yn 2017 ar ôl datblygu niwmonia yn fuan wedi i'r haint gael ei gadarnhau.
Dywedodd ei theulu yn y gwrandawiad yng Nghaernarfon bod cyfleoedd wedi eu colli i ddarganfod yr haint.
'Dyletswydd i barchu barn'
Fe gafodd Mrs Jones ei chludo i Ysbyty Gwynedd mewn ambiwlans ar 31 Mawrth, ar ôl cael ei chanfod yn ddifrifol wael yn ei chartref gan ei meddyg teulu.
Dywedodd yr ymgynghorydd Mahdi Jibani wrth y cwest ei fod wedi bod yn gyfrifol am ei gofal tra'r oedd yn ward Hebog yn yr ysbyty.
Dywedodd wrth y crwner fod profion yn dangos fod ganddi haint bacteriol, ac roedd yn amau i ddechrau mai'r ben-glin oedd y lleoliad ar gyfer yr haint.
Fe roddodd Mrs Jones ar wrthfiotigau i drin yr haint, a'i chyfeirio at dîm orthopedig.
Fe gafodd Mrs Jones ei gweld gan nifer o feddygon orthopedig yn ystod yr wythnos ganlynol, a phob un yn dweud nad oedd ganddi arthritis septig yn ei phen-glin.
"Roedd nifer o feddygon eraill yn amau mai arthritis septig oedd arni, ond nid oedd yr un o'r rhain yn arbenigwyr yn y maes hwnnw", meddai Mr Jibani wrth y cwest.
"Fe roddodd eraill, rhai a oedd yn llawefyddygon orthopedig, farn nad arthritis septig oedd arni, ac mae'n ddyletswydd arna i i barchu'r farn honno."
Er hynny, fe gafodd Mrs Jones driniaeth ar 3 Mai i dynnu hylif o'i phen-glin, ac fe wnaeth llawfeddygon ddarganfod crawn [puss] yn ei phen-glin.
Dywedodd yr ymgynghorydd Mr Jibani wrth y cwest bod hynny'n cadarnhau presenoldeb arthritis septig.
Yn dilyn y driniaeth i archwilio'r ben-glin, fe ddatblygodd Mrs Jones niwmonia ac fe ddirywiodd ei chyflwr yn gyflym.
Fe gafodd Mrs Jones ei disgrifio fel claf oedd â chyflyrau iechyd cymhleth, gan gynnwys clefyd y galon ac anaf i'w harennau.
"Wrth edrych yn ôl, doedd o ddim yn amlwg y byddai byth wedi gwella", meddai Mr Jibani.
Mae'r cwest yn parhau.