Cymru i wynebu Ffrainc os yn cyrraedd Euro 2024
- Cyhoeddwyd
![tlws Euro 2020](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/52BB/production/_131897112_gettyimages-1328190119.jpg)
Os yn llwyddo i gyrraedd Euro 2024 bydd Cymru yn wynebu Ffrainc, Yr Iseldiroedd ac Awstria yn y grwpiau.
Mewn seremoni yn Hamburg, daeth yr enwau allan o'r het ar gyfer rowndiau terfynol y gystadleuaeth yn yr Almaen ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf.
Gan nad yw'r gemau ail gyfle wedi eu cwblhau, roedd y timau sydd heb gyrraedd y rowndiau terfynol eto yn cael eu nodi fel 'Enillydd llwybr A', 'Enillydd llwybr B' ac 'Enillydd llwybr C'.
Mae Cymru yn llwybr A - a bydd rhaid iddyn nhw ennill yn erbyn Y Ffindir, ac un ai Gwlad Pwyl neu Estonia er mwyn cyrraedd Euro 2024.
![Chwaraewyr Cymru'n dathlu](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1212D/production/_131792047_cdf_211123_cf_wales_v_turkey_010.jpg)
Bydd Cymru yn wynebu'r Ffindir ar 21 Mawrth yn y rownd gyn-derfynol llwybr A y gemau ail gyfle
Bydd 'Enillydd Llwybr A' yn chwarae yn grŵp D gyda Ffrainc, Yr Iseldiroedd ac Awstria.
Pryd fydd y gemau?
16 Mehefin - 'Enillydd Llwybr A' v Yr Iseldiroedd yn Hamburg
21 Mehefin - 'Enillydd Llwybr A' v Awstria yn Berlin
25 Mehefin - 'Enillydd Llwybr A' v Ffrainc yn Dortmund
Bydd Cymru yn wynebu'r Ffindir yng Nghaerdydd ar 21 Mawrth yn rownd gyn-derfynol gemau ail gyfle Euro 2024.
Os yn fuddugol, bydd Cymru'n chwarae enillwyr y gêm rhwng Gwlad Pwyl ac Estonia, eto yng Nghaerdydd, ar 26 Mawrth i benderfynu pwy fydd yn cyrraedd y rowndiau terfynol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2023