Marwolaeth menyw ifanc yng Nghaerdydd 'ddim yn amheus'
- Cyhoeddwyd
Doedd "dim amgylchiadau amheus" ynghlwm â marwolaeth menyw ifanc a gafodd ei tharo'n wael yn ystod digwyddiad cerddorol yng Nghaerdydd dros y penwythnos, yn ôl Heddlu De Cymru.
Roedd Olivia Spencer, oedd yn 21 oed ac o Bentre yn Rhondda Cynon Taf, wedi dechrau teimlo'n sâl yn ystod y digwyddiad yn ardal Trebiwt y ddinas yn oriau mân fore Sadwrn.
Fe gychwynnodd yr heddlu ymchwiliad am fod y farwolaeth yn un "sydyn a heb esboniad", ac fe ddywedodd y llu ddydd Mercher bod yr ymchwiliad hwnnw'n parhau.
Ond fe ychwanegodd "bod dim amgylchiadau amheus" a bod y crwner wedi derbyn manylion yr achos.
'Goleuo pob ystafell'
Dywedodd teulu Ms Spencer eu bod "wedi ein dryllio'n llwyr" wrth dalu teyrnged iddi.
"Roedd Olivia yn berson arbennig gyda chalon aur pur. Roedd yn goleuo pob ystafell wrth gerdded i mewn gyda'i phersonoliaeth ddoniol a byrlymus.
"Bydd hiraeth amdani gan bawb oedd yn ei nabod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2023