Benjamin Zephaniah: Y bardd o Birmingham fu'n gefnogol i'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Bu farw'r bardd, llenor a'r cerddor Dr Benjamin Zephaniah yn 65 oed.
Daeth yn ffigwr cyhoeddus tu hwnt i'r byd barddonol gan siarad yn aml am addysg plant, hiliaeth a Phrydain amlddiwylliannol.
Gwrthododd yr OBE yn 2003 fel protest yn erbyn imperialaeth a choloneiddio ac roedd yn y penawdau rai blynyddoedd yn ôl wedi iddo alw am wersi Cymraeg yn ysgolion Lloegr a chynnal Eisteddfod dros Glawdd Offa.
Gwnaeth y bardd, oedd yn enedigol o Birmingham, ei sylwadau ar ôl treulio'r wythnos yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015 yn cyflwyno rhaglen deledu yn Saesneg er mwyn cael persbectif rhywun o du allan i Gymru ar yr ŵyl a'r diwylliant.
Yn sgil y newyddion am ei farwolaeth dyma ail-gyhoeddiad o'i argraffiadau am y Gymraeg a'r Eisteddfod rannodd o gyda Cymru Fyw wedi ei ymweliad â'r Brifwyl.
Bu farw Dr Benjamin Zephaniah ar 7 Rhagfyr ar ôl cael diagnosis o diwmor yr ymennydd wyth wythnos ynghynt.
Dwi'n teithio'r byd yn siarad am y traddodiad barddol llafar, dyna fy angerdd, ac mae pobl yn aml yn holi am Gymru a dwi wastad wedi teimlo ychydig o gywilydd mod i erioed wedi bod i'r Eisteddfod. Felly, eleni, dwi'n gwneud ymdrech ac yn dod i weld sut beth ydy hi.
O'n i'n disgwyl gweld llawer o feirdd, dynion â barfau mawr, derwyddon a phobl yn gwisgo gynau. Ges i fy synnu i weld gymaint o blant a stondinau, ac o deimlo awyrgylch hamddenol. Roedd seremoni Gorsedd y Beirdd dydd Llun yn grêt, ychydig yn rhyfedd, ond nes i fwynhau'n fawr er nad o'n i'n deall beth oedd yn cael ei ddweud.
Mae'n rhyfeddol i mi bod bron pawb dwi'n gyfarfod yn gallu canu, a bod hi'n naturiol i blant i fynd ar lwyfan. Dwi 'di gweithio yn Lloegr i drio cael plant i berfformio barddoniaeth ac mae'n waith caled. Ond fan hyn, mae'n teimlo'n fwy naturiol achos mae'r plant i gyd yn disgwyl gwneud rhywbeth tuag at yr Eisteddfod ar ryw bwynt yn eu haddysg, sy'n anhygoel. Dwi'n credu gall y Saeson ddysgu o hyn. Mi fyddai'n grêt i gael cystadleuaeth berfformio, barddoniaeth a chanu yn Lloegr lle mae rhieni ac athrawon hefyd yn cyfrannu.
Byswn i hefyd yn hoffi pe byddai pobl yn Lloegr yn gwerthfawrogi eu hiaith mwy, heb fod yn ddiwylliannol imperialaidd am y peth. Mae angen i ni gofio bod Saesneg wedi ei benthyg o ieithoedd eraill fel Ffrangeg, Eingl-Sacsoneg ac Arabeg. Ac er y gallwn ni greu barddoniaeth a cherddoriaeth arbennig gyda'r iaith, does ganddon ni ddim Eisteddfod ein hunain i allu mynegi hyn.
Mae'r Eisteddfod hefyd yn cryfhau'r teimlad o Gymreictod, ac yn dod â phobl at ei gilydd. Yr unig dro wnes i glywed Saesneg oedd pan oedd pobl yn siarad gyda fi. Wedyn, roedden nhw'n troi rownd ac yn siarad Cymraeg eto - dwi'n hoffi hynny - ac ar y sail yna'n unig mae'r Steddfod yn werth chweil. Mae ganddi ddilysrwydd ac mae ganddi le yn y byd heddiw, ac mae hi hefyd yn cynhyrchu barddoniaeth a cherddoriaeth o safon.
Dwi hefyd yn teimlo nad yw'r Steddfod yn elitaidd, er bod rhai pobl yn ei chyhuddo hi o fod. Ro'n i'n siarad gyda chôr meibion ac roedd yr aelodau'n adeiladwyr a phlymwyr, a doedden nhw heb astudio cerddoriaeth mewn ysgol berfformio. Mae'r bobl sy'n mynd i wyliau llenyddol yn Lloegr yn dueddol o fod yn griw eitha' elitaidd. Dwi ddim yn teimlo hynny fan hyn.
A gan fod yr iaith a'r diwylliant Cymraeg wedi bod o dan fygythiad, mae pobl yn gwerthfawrogi yr hyn sydd ganddyn nhw, ac maen nhw'n fwy parod i ddod at ei gilydd i ddathlu hynny. Os wyt ti'n teimlo dy fod yn colli dy iaith, ti'n colli dy enaid, felly wnei di weithio gyda dy gymydog i'w chadw'n fyw. Pe byddwn i'n Gymro ac yn siarad Cymraeg, dwi'n credu byswn i'n filwriaethus! Ond dwi yn credu bod angen i feirdd o Gymru berfformio mwy yn Lloegr - mae angen clywed mwy o'r iaith Gymraeg mewn gwyliau fel Latitude.
Dwi'n berson aml-ddiwylliannol. Yn Lloegr, yn gyffredinol, pan rydan ni'n trafod amlddiwylliannaeth rydan ni'n cyfeirio at bobl du, pobl Asiaidd a phobl eraill sydd wedi dod â'u diwylliannau yma, a rydan ni'n anghofio weithiau bod 'na ddiwylliannau lleol sydd yn wahanol iawn i ddiwylliant a llenyddiaeth prif ffrwd Saesneg. Felly pan dwi'n dod i Gymru, dwi'n trin Cymru fel gwlad wahanol gyda'i hiaith a'i diwylliant ei hun. Ac os yw Cymru yn rhan o Brydain, yna mae'i diwylliant yn rhan bwysig o Brydain hefyd - yr un mor bwysig â diwylliant Jamaica, Trinidad neu India er enghraifft.
Dyna'r rheswm dwi'n dweud y dylai'r iaith Gymraeg gael ei dysgu mewn ysgolion yn Lloegr. Mae Hindi, Tsieinëeg a Ffrangeg yn cael eu dysgu, felly pam ddim Cymraeg? A pham ddim Cernyweg? Maen nhw'n rhan o'n diwylliant, a dwi'n gwybod am bobl yn Lloegr sydd ddim hyd yn oed yn gwybod bod pobl yng Nghymru yn siarad Cymraeg, neu fod 'na iaith Gaeleg yn yr Alban.
Dyma yw amlddiwylliannaeth, a rydan ni wastad wedi bod yn amlddiwylliannol. Mae llwythau wedi ymgartrefu yma a dod â'u diwylliant a'u hiaith gyda nhw am filenia, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem ddathlu. Unwaith i chi ddysgu'r pethau 'ma, mae bron yn amhosib i chi fod yn hiliol, oherwydd mi fyddwch chi'n sylweddoli ein bod ni gyd wedi dod o rhywle. Gallwn ddysgu i ddathlu amrywiaeth ond parhau i fod yn un bobl.
'Increase de peace.'
Mae'r erthygl hon yn addasiad o fersiwn gyhoeddwyd gyntaf fis Awst 2015.