Amddiffynnwr Cymru Tom Lockyer yn llewygu yn ystod gêm

  • Cyhoeddwyd
Lockyer yn chwarae i GymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae amddiffynnwr Cymru, Tom Lockyer, wedi llewygu wrth chwarae i Luton yn ystod y gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr yn Bournemouth.

Fe gafodd y gêm ei gohirio yn fuan wedi i'r chwaraewr lewygu.

Fe gafodd chwaraewyr y ddau dîm eu tynnu oddi ar y cae hanner ffordd drwy'r ail hanner wrth i Lockyer dderbyn triniaeth feddygol.

Ar ôl sawl munud, fe gafodd y pêl-droediwr o Gaerdydd ei gludo oddi ar y maes ar stretcher, wrth i'r dorf gymeradwyo.

Ym mis Mai, fe wnaeth Lockyer, 29 oed, lewygu yn ystod ffeinal gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth yn Wembley.

Fe gafodd lawdriniaeth ar ei galon wedi hynny ac roedd wedi cael cyfarwyddiadau ei fod yn holliach i ddychwelyd i chwarae pêl-droed fis Mehefin.

Cafodd y gêm ddydd Sadwrn ei hatal wedi 65 munud gyda'r sgôr yn 1-1.

Yn dilyn y penderfyniad i ohirio'r gêm, fe wnaeth chwaraewyr Luton a Bournemouth ddychwelyd i'r cae i gymeradwyo'r cefnogwyr.

Pynciau cysylltiedig