Gwybodaeth i deithwyr dros gyfnod y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
dyn yn gyrru yn ystod y doligFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl y bydd y ffyrdd hyd at 20% yn brysurach eleni o'i gymharu â'r llynedd

Mae disgwyl mai'r penwythnos yma fydd y cyfnod prysuraf ar ffyrdd y Deyrnas Unedig dros gyfnod y Nadolig.

Mae arbenigwyr yn rhagweld y bydd lonydd 20% yn brysurach o'i gymharu â'r llynedd, a'r gred yw y bydd tua 21 miliwn o deithiau yn cael eu gwneud.

Gyda nifer o newidiadau wedi eu cyhoeddi i amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, y cyngor yw i bobl wirio cyn teithio.

Mae hi'n bosib y bydd trafferthion i'r rhai hynny sy'n gobeithio teithio rhwng de Cymru a de Lloegr - tra bod disgwyl tagfeydd hir hefyd ar draffyrdd fel yr M4.

Pa ffyrdd fydd yn brysur?

Dywedodd cwmni moduro'r RAC mai dydd Gwener 22 Rhagfyr fydd y diwrnod prysuraf ar y ffyrdd wrth i'r traffig gwyliau ychwanegu at y prysurdeb arferol.

Mae cwmni Inrix yn annog pobl i deithio naill ai cyn 11:00 neu ar ôl 18:00 er mwyn osgoi tagfeydd.

Y disgwyl yw y bydd yr M4 yn ne Cymru ac o amgylch Bryste ymhlith y ffyrdd prysuraf ym Mhrydain dros gyfnod y Nadolig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y rhan fwyaf o brosiectau gwaith ffordd mawr yn cael eu gohirio dros gyfnod yr Ŵyl

Bydd y rhan fwyaf o brosiectau gwaith ffordd yn cael eu gohirio dros gyfnod yr ŵyl ond mae'r AA wedi rhybuddio y gall tywydd ansefydlog arwain at ragor o broblemau.

Bwriadu teithio ar drên?

Bydd gwasanaethau rhwng de Cymru a Llundain, Manceinion ac arfordir de Lloegr yn cael eu heffeithio gan waith peirianyddol dros gyfnod y Nadolig, a'r cyngor felly yw i deithwyr wirio amserlenni o flaen llaw.

Bydd gorsaf drenau Llundain Paddington ar gau rhwng 24 Rhagfyr a 27 Rhagfyr oherwydd gwaith adeiladu, sy'n golygu y bydd holl wasanaethau Great Western Railway (GWR) i ac o dde Cymru yn dechrau ac yn gorffen yn Reading.

Mae gofyn i deithwyr sydd angen defnyddio'r gwasanaeth ar y dyddiau hynny ddefnyddio trenau lleol rhwng Reading ac Ealing Broadway, a gwasanaethau tanddaearol Llundain.

Ffynhonnell y llun, Avanti West Coast
Disgrifiad o’r llun,

Mae teithwyr ar drenau yn cael eu hannog i flaengynllunio ac i wirio cyn gwneud trefniadau gan fod newidiadau'n digwydd dros gyfnod yr ŵyl

Bydd newidiadau i wasanaeth 07:55 GWR o Abertawe i Reading ar noswyl Nadolig, gyda'r trên yn dechrau o orsaf Caerdydd Canolog, a bws yn cludo teithwyr o Abertawe i'r brifddinas.

Fe fydd gwasanaethau o dde Cymru i Southampton yn cael eu heffeithio rhwng noswyl Nadolig a 29 Rhagfyr oherwydd gwaith adnewyddu yng ngorsaf Southampton.

Bydd trenau rhwng de Cymru a Plymouth a Penzance yn cael eu heffeithio ddydd Mercher 27 Rhagfyr, a bydd gwasanaethau rhwng de Cymru a Manceinion yn cael eu heffeithio ar 27 a 29 Rhagfyr gan waith atgyweirio ar y lein rhwng Crewe a'r Amwythig.

Ni fydd trenau uniongyrchol Avanti West Coach yn gweithredu rhwng gogledd Cymru a gorsaf Euston yn Llundain ar 30 a 31 Rhagfyr a 1 Ionawr oherwydd gwaith peirianyddol, a bydd y gwasanaethau o Gaergybi yn terfynu yn Crewe.

Bydd Twnnel Hafren ar gau Nos Galan tan 14:30 sy'n golygu y bydd gwasanaeth bysiau yn weithredol rhwng de Cymru a Bryste.

Dim trenau ar ddydd Nadolig na Gŵyl San Steffan

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi rhybuddio y gallai rhai teithwyr wynebu rhwystrau ar wasanaethau o amgylch Caerdydd, Cas-gwent, Caerloyw a Glynebwy rhwng y Nadolig a'r flwyddyn newydd.

Yn ôl yr arfer, ni fydd unrhyw drenau yn gweithredu ar ddydd Nadolig na Gŵyl San Steffan.

Mae teithwyr yn cael eu hannog i wirio amserlenni, yn enwedig gan fod Noswyl Nadolig a Nos Galan ar ddyddiau Sul eleni, ac efallai y bydd gwasanaethau'n gorffen yn gynt na'r arfer o ganlyniad.

Bwriadu teithio ar fws?

Bydd rhan fwyaf o wasanaethau bysiau TrawsCymru yn parhau â'u gwasanaeth ddydd Sul, ond mae disgwyl iddo orffen yn gynt na'r arfer ar 24 a 31 Rhagfyr.

Mae cyngor i bobl wirio amserlenni gan na fydd rhai gwasanaethau yn rhedeg o gwbl ar y dyddiau hynny.

Bydd rhai gwasanaethau yn ne-ddwyrain Cymru yn rhedeg ar Ŵyl San Steffan.

Yr unig wasanaeth drafnidiaeth gyhoeddus sy'n gweithredu pob dydd yn ystod y gwyliau yw Megabus - ond hynny mewn ardaloedd penodol yn ne Cymru yn unig.

Pynciau cysylltiedig