Daeargryn bychan wedi ei gofnodi yng Ngwynedd fore Mercher

  • Cyhoeddwyd
map

Cafodd daeargryn ei gofnodi ym Mhen Llŷn yn oriau mân fore Mercher, yn ôl y corff sy'n mesur digwyddiadau o'r fath.

Mae data'r Arolwg Daearegol Prydeinig yn nodi fod y daeargryn, oedd yn mesur 1.8, wedi digwydd am 03:43, gyda'r canolbwynt yng Nghapel Carmel.

Dywedodd un o drigolion pentref Rhydlios, sydd tua 1.5km o Gapel Carmel bod y "tŷ wedi ysgwyd ac roedd hi bron fel bod 'na daran enfawr yn rhuo".

Does dim adroddiadau o unrhyw anafiadau na ddifrod i eiddo.

Mae'r Arolwg Daearegol Prydeinig yn nodi hefyd fod pedwar daeargryn wedi eu cofnodi mewn gwahanol rannau o Gymru yn y 60 diwrnod diwethaf.

Map o ddaeargrynfeydd diweddarFfynhonnell y llun, Yr Arolwg Daearegol Prydeinig
Disgrifiad o’r llun,

Mae data'n dangos fod pedwar daeargryn wedi cael eu cofnodi yng Nghymru yn y ddeufis diwethaf