Alun Wyn Jones eisiau mwy o sgrinio wrth ddatgelu cyflwr calon

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Alun Wyn Jones 158 o weithiau dros Gymru, a 12 o weithiau dros y Llewod

Mae cyn-gapten rygbi Cymru wedi galw am ragor o sgrinio meddygol i chwaraewyr ar ôl cael diagnosis o gyflwr ar ei galon.

Dywedodd Alun Wyn Jones, 38, bod profion wedi dangos ffibriliad atrïaidd wrth ymuno gyda Toulon yn Ffrainc ar ddiwedd ei yrfa.

Chwaraeodd Jones 158 o weithiau dros Gymru, a 12 o weithiau dros y Llewod, a dywedodd bod y cyflwr wedi dod i'r amlwg wrth gael profion meddygol ym mis Gorffennaf.

Fe ymunodd Jones â Toulon i'w cynrychioli tra bod chwaraewyr eraill i ffwrdd yng Nghwpan y Byd, ac ym mis Tachwedd cyhoeddodd ei ymddeoliad.

'Fe welodd y doctor y peth yn syth'

Mewn cyfweliad gyda'r Telegraph, dywedodd bod "llawer o sôn am les mewn rygbi" ar hyn o bryd, ond cwestiynodd a yw hynny'n "ymwneud â phopeth".

"Ai dim ond pethau allwn ni fforddio yw hynny? Mae'n rhaid bod y gamp wedi cyrraedd pwynt ble dylai chwaraewyr gael sgrinio fwy aml, yn enwedig ar adeg pan mae gofynion y gêm yn tyfu."

Dywedodd ei fod yn ddiolchgar i Toulon am ei arwyddo, a phetai'r clwb o Ffrainc heb gynnig cytundeb, ei bod "yn bosib y byddwn i erioed wedi gwybod bod gen i gyflwr ar y galon".

"Fe welodd y doctor cardiaidd y peth yn syth. O'dd fy nghalon yn mynd dros y lle."

Cafodd Jones lawdriniaeth i drin y cyflwr ym mis Tachwedd, yn fuan ar ôl gorffen ei yrfa fel chwaraewr.

Pynciau cysylltiedig