Lansio ymchwiliad llofruddiaeth wedi ymosodiad yn Llandaf

  • Cyhoeddwyd
Swyddogion heddlu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r ardal am tua 11:30

Mae Heddlu'r De wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn ymosodiad difrifol yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Cafodd swyddogion arfog eu galw i Stryd y Capel yn ardal Llandaf am tua 11:30.

Roedd sawl ffordd a maes parcio ar gau i'r cyhoedd am gyfnod. wrth i'r gwasanaethau brys ymateb i'r digwyddiad.

Fe gyhoeddodd swyddogion yn hwyr nos Sul fod dyn arall 23 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae'r heddlu'n dweud mai digwyddiad unigol oedd hwn ac nad oes lle i gredu fod perygl ehangach i'r cyhoedd.

Dyw'r dyn fu farw ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae ei deulu yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.

Pynciau cysylltiedig