Cannoedd heb drydan wrth i wyntoedd Storm Gerrit daro Cymru
- Cyhoeddwyd
Roedd cartrefi ar draws Cymru heb gyflenwad trydan ddydd Iau wedi i Storm Gerrit daro'r rhan fwyaf o'r wlad.
Cafodd hyrddiadau hyd at 88 mya eu cofnodi dros nos ym Mona, ar Ynys Môn, a hyd at 85 mya yng Nghapel Curig, yn Sir Conwy.
Dywedodd Grid Cenedlaethol bod 439 eiddo heb drydan ar draws de a chanolbarth Cymru, dolen allanol fore Iau, gan gynnwys 323 yn Abergwaun a 80 yn ardal Maendy, Casnewydd.
Roedd tua 200 o dai yng ngogledd Caerfyrddin heb drydan hefyd nos Fercher.
Roedd yna doriadau i gyflenwadau ar draws y gogledd hefyd, dolen allanol, yn ôl gwefan Scottish Power, gan gynnwys yng ngogledd Môn, yn ardal Bodelwyddan ac yng Nglyn Ceiriog.
Roedd 36,000 o gartrefi heb drydan yng Ngheredigion am gyfnod ar ôl i fellten daro rhan o offer y Grid Cenedlaethol. Cafodd cyflenwadau eu hadfer o fewn hanner awr.
Un rhybudd llifogydd oedd yn dal mewn grym erbyn nos Iau, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol, ar bwys Afon Tywi rhwng Llandeilo and Abergwili yn Sir Gâr.
Daeth rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am wynt, oedd yn berthnasol i fwyafrif Cymru, i ben am 03:00 fore Iau, ond roedd gwyntoedd yn ystod y dydd o hyd at 50 mya ar yr arfordir a thir uchel.
Ffyrdd ar gau
Mae'r M48 Pont Hafren ar gau oherwydd gwyntoedd cryfion, ac yn annhebygol o ailagor ddydd Iau.
Mae un lôn ar gau i'r ddau gyfeiriad ar Bont Tywysog Cymru, ac mae Pont Cleddau yn Sir Benfro ar gau i gerbydau uchel.
Mae yna gyfyngiadau ar Bont Britannia a chyfyngiadau cyflymder ar yr M4 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rhwng cyffordd 37 Porthcawl a chyffordd 38, Margam.
Dywedodd cwmni Stena Line bod pob taith fferi rhwng Abergwaun a Rosslare wedi eu canslo oherwydd y tywydd.
Mae rhai ffyrdd ar gau wedi i goed ddisgyn, gan gynnwys yr A469 yng ngogledd Caerdydd rhwng Heol Capel Gwilym a Heol Wenallt, a'r A484 yng Nghenarth, Sir Gâr ger troad Parc Gwyliau Cenarth.
Mae yna adroddiadau bod sawl coeden wedi syrthio ar ffyrdd ar Ynys Môn - ger capel Hebron ym Mryngwran, ger yr eglwys yn Llansadwrn ac ar y B5109 rhwng Talwrn a Llangefni.
Tirlithriad yw achos rhwystr ym Merthyr Tudful, ar yr A465 i'r ddau gyfeiriad rhwng cylchfan Cefn Coed a Llwydcoed.
Yn Nhrefynwy mae un lôn ynghau tua'r gorllewin ar yr A40, rhwng goleuadau traffig Trefynwy a chyfnewidfa Rhaglan, oherwydd llifogydd.
Mae heddluoedd ar draws Cymru yn rhybuddio gyrwyr i fod yn ofalus rhag difrod neu falurion heb eu clirio.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod cofgolofn hanesyddol uwchben Aberystwyth wedi ei ddifrodi yn dilyn Storm Gerrit.
Mae creigiau mawr wedi eu symud o ben Cofgolofn Wellington uwchben Pendinas, gyda'r sefyllfa yn cael ei ddisgrifio fel un "ansicr" gan y gwasanaeth.
Mae swyddogion Cyngor Ceredigion wedi eu galw ac mae gwaith i gau'r ardal i'r cyhoedd, gan gynnwys llwybrau cerdded, yn parhau.
Parhau ar gau mae Cei y Forforwyn ym Mae Caerdydd oherwydd lefel uchel y dŵr yno.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2023