Huw 'Fash' Rees yn rhannu ei brofiad o ddechrau dialysis
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwr ffasiwn rhaglenni Prynhawn Da a Heno ar S4C, Huw 'Fash' Rees, wedi rhannu ei brofiad o ddechrau ar driniaeth dialysis yr wythnos hon, ag yntau'n byw gyda chlefyd yr aren.
Bu'n rhannu ei stori fel golygydd gwadd rhaglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Gwener.
Cafodd Huw ei gymryd i'r ysbyty yn 2019 ag yntau mewn poen, ond bryd hynny fe sylweddolodd fod problemau gyda'i aren wedi bod yn ei boenydio ers cyfnod hir.
Cafodd lawdriniaethau i lanhau'r arennau, ac yn siarad ar Radio Cymru fis Mawrth eleni dywedodd fod y llawdriniaethau, a diet iach, yn golygu nad oedd yn rhaid iddo fod ar ddialysis, ac nad oedd awgrym hyd hynny fod angen aren newydd arno.
Ond naw mis yn ddiweddarach mae'r sefyllfa wedi newid, wrth iddo ddechrau ar driniaeth dialysis ddyddiau'n unig ar ôl y Nadolig, ac mae hefyd yn gobeithio y bydd yn cael trawsblaniad "yn y dyfodol agos".
'Mae hwn yn ddwl nawr'
Ond dywedodd Huw fod poeni am ddechrau dialysis wedi bod yn waeth na'r driniaeth ei hun.
"Oedden nhw wedi dweud wrtha i y byddai'n rhaid i fi fynd ar ddialysis o fewn rhyw gyfnod, ac o'n i'n pryderu'n ofnadwy am hynny, oherwydd mae'n cael effaith fawr ar eich bywyd chi," meddai.
"Chi tair gwaith yr wythnos am bedair awr y dydd yn gorfod bod ar y peiriant 'ma."
Ychwanegodd y bu'n poeni gymaint am ddechrau ar y driniaeth ei fod wedi cael "pwl ar y galon" hefyd wyth wythnos yn ôl - rhywbeth y galwodd yn "broken heart syndrome".
Dywedodd ei fod wedi penderfynu bryd hynny: "Mae hwn yn ddwl nawr - mae'n rhaid i fi wrando ar yr arbenigwyr, cymryd eu gair nhw a dechrau meddwl o ddifrif am gael dialysis."
Aeth i weld arbenigwyr cyn y Nadolig, ac fe benderfynon nhw y byddai'n well iddo ddechrau ar y driniaeth cyn gynted â phosib.
Cafodd ei driniaeth dialysis gyntaf ddydd Mercher - deuddydd ar ôl y Nadolig.
"Wedon nhw 'gei di ddau ddiwrnod dros y Nadolig', felly ges i dydd Nadolig a dydd San Steffan bant, ac wedyn mewn a fi i gael prawf gwaed, a wedon nhw'n syth fod pethau wedi gwaethygu'n ofnadwy."
Penderfynwyd y byddai'n well iddo ddechrau ar driniaeth dialysis yn syth y diwrnod hwnnw.
Opsiynau dialysis yn cynnig gobaith
Dywedodd elusen Aren Cymru fod bron i 94,000 o gleifion yng Nghymru wedi cael diagnosis o glefyd yr aren.
Ychwanegon nhw fod hynny'n golygu caledi ariannol i nifer o gleifion a'u teuluoedd am nad ydyn nhw'n gallu gweithio oherwydd natur y driniaeth a'u cyflwr.
Dywedodd Huw fod bod yn rhy sâl i weithio yn bryder enfawr iddo, a'i fod wedi poeni y byddai dialysis yn cymryd llawer iawn o'i amser.
"Mae dywediad fi'n dweud trwy'r amser - 'yn fy ngwaith y mae fy mywyd'.
"Heb gwaith, does gen i ddim bywyd oherwydd dyna wy'n dwlu 'neud, ac mae rhywbeth fel hyn yn gallu effeithio arno fe."
Ond ychwanegodd nad oedd wedi sylweddoli bod llawer o opsiynau gwahanol o ran derbyn dialysis.
"O'n i ddim wedi sylweddoli bod cymaint o ddewis o ran y dialysis," meddai ar Dros Frecwast.
"Dwi'n mynd i fod yn 'neud twilight shift, sef cael dialysis am 18:00.
"Dydd Mawrth maen nhw'n dod mas i'r cartref i weld os yw'n addas i fi 'neud e gartre'.
"Be' sy'n poeni pobl fi'n meddwl ydi faint o effaith mae e'n ei gael ar eich bywyd o ddydd i ddydd."
Gofal y GIG yn 'arbennig'
Ychwanegodd Huw fod y gofal mae wedi'i dderbyn gan y gwasanaeth iechyd ers 2019 wedi bod yn wych.
"Mae pawb yn rhedeg lawr yr NHS, ond mae'r gofal 'wy 'di cael gyda'r NHS yn arbennig," meddai.
"'Naeth consultant ffonio fi am 10 o'r cloch dydd Nadolig i weld sut o'n i.
"Pan 'wy'n mynd mewn i'r ganolfan yn Nhreforys, ma' nhw i gyd yn eich 'nabod chi.
"Pan ges i'r dialysis am y tro cynta' yr wythnos hon, o'dd e ddim mor frawychus ag o'n i'n disgwyl o gwbl.
"Mae'r gefnogaeth gan y tîm yn arbennig, a chi ddim yn teimlo ben eich hun o gwbl."
Galw am brawf
Ond mae Huw yn dweud fod angen prawf ar gyfer clefyd yr aren fel nad oes yn rhaid i berson fynd yn wael cyn cael diagnosis.
"Mae'n debyg bod mwy na thair miliwn o bobl ym Mhrydain sy'n dioddef o glefyd yr aren, sydd hyd at hyn ddim wedi darganfod y ffaith," meddai.
"Dwi'n credu bod hynny'n frawychus iawn, bod dim prawf yn dod mas.
"Pan mae rhywun yn dweud bod ganddyn nhw glefyd yr aren, chi ddim yn ystyried bod e mor ddifrifol â mae e, bod e'n cael effaith mor enfawr ar fywyd rhywun.
"Mae gofyn nawr am ryw fath o brawf, ac wedyn chi'n gallu gwneud rhywbeth yn gyflym."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd24 Mai 2022