Cyhuddo dyn o dreisio ac ymosod yng nghanol Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig o dan bont reilffordd rhwng Sgwâr Callaghan a Heol Eglwys Fair

Mae dyn 24 oed wedi cael ei gyhuddo o dreisio ac achosi niwed corfforol difrifol yn dilyn digwyddiad yng nghanol Caerdydd.

Mae David Stimpson wedi'i gyhuddo o bedair trosedd, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig o dan bont reilffordd rhwng Sgwâr Callaghan a Heol Eglwys Fair yng nghanol y brifddinas rhwng 05:00 a 06:00 y bore ar 27 Rhagfyr.

Roedd Heddlu De Cymru wedi apelio am wybodaeth yn dilyn y digwyddiad.

Ychwanegon nhw fod swyddog diogelwch a ymyrrodd i helpu'r dioddefwr wedi cysylltu gyda'r llu er mwyn helpu'r ymchwiliad.

Pynciau cysylltiedig