Charlotte Williams: 'Hanes Cymru yw hanes du'
- Cyhoeddwyd
Sut mae Cymru wedi newid yn yr 20 mlynedd ddiwethaf? Mae'r blynyddoedd ers i'r awdur a'r academydd Charlotte Williams gyhoeddi ei llyfr Sugar and Slate wedi gweld newid mawr o ran materion hil a hunaniaeth yn y wlad.
Mewn darn arbennig i BBC Cymru Fyw, mae'r Athro Charlotte Williams yn edrych nôl dros y ddau ddegawd ers iddi gyhoeddi ei chofiant.
"There are lots of reasons why I might call Wales home. Home, the place you know, the place that knows you, the place you leave, the place to which you return, that place filled with memories and dreams, a place of ties and connection, that special hearth." Sugar and Slate (2002,2022,2023)
Pan gafodd Sugar and Slate, llyfr ysgrifennais i dros ugain mlynedd yn ôl, ei gynnwys yng Nghyfres Llyfrgell Cymru ac yna ei ailgyhoeddi gan Penguin fel rhan o'r gyfres Black Britain Writing Back, yn anochel wnes i ddechrau meddwl am ei berthnasedd i heddiw.
Pan o'n i'n ysgrifennu'r llyfr roedd materion hil a hunaniaeth yng Nghymru yn rhywbeth hollol wahanol… neu oedden nhw?
'Cymru sy'n newid'
Os yw'r cofiant yn archwilio materion hunaniaeth, perthyn a phersonoliaeth yn bennaf, mae hefyd yn cynnig golwg ar Gymru sy'n newid. Wrth gwrs, mae'r blynyddoedd ers hynny yn sicr wedi gweld newid ond mae cafeat amlwg.
Er bod Cymru amlddiwylliannol yn ffaith sy'n cael ei dderbyn, ac efallai wedi bod yn ffaith erioed, mae'r syniad o Gymru luosog yn llai datblygedig ac yn sicr mae'r syniad o Gymru wrth-hiliol, hyd yma, yn rhywbeth o ddyhead. Dyna yw natur hil a hiliaeth.
Ychydig iawn o bobl fyddai bellach yn herio presenoldeb lleiafrifoedd amrywiol fel nodwedd o'r gymdeithas Gymreig fodern - mae ein strydoedd dinesig, ysgolion, traethau, trefi bach, a hyd yn oed y bryniau a'r pentrefi gwledig, ardaloedd oedd yn ardaloedd no-goi ambell ethnigrwydd yn y gorffennol, wedi cael eu hail-lunio gan presenoldeb o'r fath.
Ychydig a fyddai'n herio'r syniad o Gymry Cymraeg o liw, o ystyried y ffigwr calonogol o 10,000 a gofrestrodd fel hyn yn y cyfrifiad diwethaf.
Newid
Mae'r hen fantra lliw-ddall-dim problem yma wedi cael ei chwalu'n llwyr ac mae syniadau unigryw o hunaniaeth genedlaethol Gymreig a oedd yn atseinio mor ddwfn o amgylch tir/iaith/llinach yr echelin wedi'u hailgyflunio. Mae llawer wedi newid.
Mae'n debyg mai rhan o fy stori oedd yr her i sefydlu presenoldeb o'r fath a hawlio lle yn y stori genedlaethol ddoe a heddiw; i gynnig llais doeddwn i ddim wedi'i weld yn cael ei gynrychioli yn y llenyddiaeth ac astudio pwy oedd yn perthyn a phwy oedd ddim yn perthyn.
Ro'n i eisiau datgelu a chyflwyno'r ffaith sy'n cael ei gydnabod yn haws bellach, mai hanes Cymru yw hanes du, felly tynnais y darnau hynny o'r gorffennol oedd wedi'u hesgeuluso neu eu hanwybyddu a'u defnyddio i sgriptio fy hun.
''Out of the profits of slave labour in one Empire, he (Richard Pennant) built another on near-slave labour. The plantocracy sponsored the slateocracy in an intimate web of relationships where sugar and slate were the commodities and brute force and exploited labour the building blocks of the Welsh Empire. My slate memories and my sugar memories are forged together.''
Mae'r cyfan yn swnio braidd yn drwm ond fe'i cynigiwyd fel cwestiwn yn hytrach na chyhuddiad, dathliad o'm treftadaeth nid gwrthodiad ohoni.
Gwleidyddiaeth
Mae gwleidyddiaeth heddiw yn ymwneud yn ddwfn â'r gorffennol. Mae'r llywodraeth wedi rhoi nifer o fentrau ar waith sy'n ymwneud â'r oes hon o gymodi.
Yr adolygiad o gofebau cyhoeddus, enwau strydoedd ac adeiladau sy'n gysylltiedig â chaethwasiaeth, y newid yn y cwricwlwm ysgol newydd i ymgysylltu â hanes a safbwyntiau pobl dduon a'u hymwreiddio ym mhob maes pwnc a'r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth sydd ar fin trawsnewid bywyd sefydliadol yn radical yng Nghymru gyda'i huchelgais i wireddu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030.
Mae'r sylw digynsail hwn i gloddio a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau hiliol hirsefydlog yn cyd-fynd â mudiad dinesig ehangach i weld newid, sy' wedi ei fynegi mor rymus yn ymgyrch Black Lives Matter yn 2020. Roedd dim o'r hyn yn digwydd pan ysgrifennais Sugar and Slate.
Nid oedd ymrwymiad mor flaengar i gydnabod, unioni a dylunio dyfodol arall a allai gael gwared o'r bwgan hyll o anghydraddoldeb hiliol.
Ond fel y bydd stori unrhyw berson du heddiw yn ei ddweud wrthych chi - mae hil a'i berthynas, hiliaeth, yn beth rhyfedd. Mae anweledigrwydd ac amlygrwydd lliw yn cysylltu eu hunain â sefyllfaoedd cymdeithasol mewn nifer o ffyrdd - y cyfweliad swydd, y teras pêl-droed, buarth yr ysgol, y daith gerdded adref o'r ysgol, y system cyfiawnder troseddol, hyd yn oed lefel a natur y gofal iechyd a gewch.
Mae cyfleoedd bywyd yn cael eu nodi gan hil ac mae hil yn nodi bron pob cyfarfod cymdeithasol. Heddiw mae'r straeon hynny'n cael eu mynegi gyda mwy o egni a chreadigrwydd trwy ystod eang o gyfryngau.
Cydnabyddiaeth
Yr hyn sy'n amlwg wedi newid er gwell yw cydnabyddiaeth… os nad yr hawliau sylweddol gofynnol.
Efallai bod y Gymru y bûm yn annerch wedi fy adnabod yn gyflym ac wedi dathlu cymaint o ddimensiynau eraill o wahaniaeth fel ffyrdd o fod yn Gymro.
Defnyddiodd y Gymru y siaradais â hi rym llawn empathi i ddangos ei hun yn genedl sy'n barod i edrych ar ac ailystyried ei gorffennol wrth iddi ailedrych ar ac ailysgrifennu hanes i seilio realiti amlddiwylliannol cyfoes.
Heddiw mae llenyddiaeth, celfyddydau a diwylliant y genedl yn fwy cynrychioliadol o'r amrywiaeth hwn - mae'r straeon y mae Cymru'n eu hadrodd ohoni'i hun trwy gyfryngau cymdeithasol a chyfryngau eraill yn lliwgar, yn amrywiol ac yn lluosog.
Ond mae gwir luosogrwydd yn gofyn am fwy nag arddangosiad lliwgar, llawer mwy na goddefgarwch. Mae'n mynnu rhywbeth mwy ohonom ni i gyd wrth fynegi a gweithio tuag at wrth-hiliaeth fel teimlad cenedlaethol, rhannu grym, ysgwyd hen ffyrdd o wybod, bod, a gwneud ac ymestyn y tu hwnt i sgwrs am berthyn a chynhwysiant i sgwrs hawliau, tegwch a chydraddoldeb.
Mae dycnwch stori Sugar and Slate yn werth chweil ac yn siomedig ar yr un pryd. Mae'r ffaith bod cymaint yn parhau i uniaethu â'r materion a'r themâu y mae'n eu codi yn dweud llawer am y sefyllfa heddiw.
Ar y llaw arall fy uchelgais bob amser oedd ysgrifennu stori rymus a pharhaus o fy nghartref, Cymru.