Yr ifanc a ŵyr? Lyn a Dylan Ebenezer

  • Cyhoeddwyd
Dylan a Lyn EbenezerFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dylan a Lyn Ebenezer

Newyddion, Bob Dylan, Arsenal... mae gan y tad a'r mab ddigon yn gyffredin, ond pa mor debyg yw'r ddau mewn gwirionedd?

Bu Lyn yn gweithio gyda phapur newydd Y Cymro a rhaglen Hel Straeon am flynyddoedd, ac mae ei fab Dylan erbyn hyn yn wyneb a llais cyfarwydd fel cyflwynydd Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru a Sgorio ar S4C.

Ond sut berthynas sydd gan y ddau a beth yw eu hatgofion o'i gilydd?

Lyn: 'O'i enedigaeth codwyd Dylan yng nghwmni pobl ddiddorol'

Pan oedd Jên y wraig yn feichiog 'nôl yn 1974 roedd Dewi Pws yn hanner byw yn ein cartref yn Aber. A phan oedd hi ar fin esgor yn Ysbyty Bronglais ceisiodd Dewi ddarbwyllo'r geinocolegydd mai ef oedd y tad er mwyn iddo gael bod yn dyst i'r enedigaeth. Diolch byth i Jên orfod geni drwy'r dull Cesaraidd neu fe fyddai gan Dylan ddau dad.

O fewn oriau i'r enedigaeth roedd crud Dylan bron yn guddiedig gan bresantau gan rai o fyfyrwyr Neuadd Pantycelyn - pêl rygbi, sgarff Arsenal, set o ddartiau. Ac yn goron ar y cyfan, draught excluder ar ffurf sarff gan Rod Barrar. Bedyddiwyd y diddos-beth gan Rod yn 'Adrian y Neidr'. Yn wir, byth ers iddo ddechrau cerdded, treuliai Dylan oriau yng nghwmni myfyrwyr Cymraeg Aber yn yr Hen Lew Du.

Yn anffodus, wythnosau'n unig wedi ei eni bu Dylan yn clafychu, a threuliodd ei Nadolig cyntaf yn yr ysbyty. Yn wir, mae Jên a minnau'n argyhoeddedig na fyddai wedi goresgyn oni bai am wyrthiau ein meddyg teulu, y Doctor John Hughes. Roedd rhai o syniadau ieithyddol y Doctor John yn esgymun gan lawer. Ond bydd Jên a minnau'n fythol ddiolchgar iddo am achub bywyd ein mab.

Pontshân, Cayo Evans a Dewi Pws

Beth am yr enw, Dylan Llywelyn? Wel, teyrnged i'm dau arwr geiriau, y naill o barthau Cwmdonkin a'r llall o Duluth yw'r Dylan, tra'r Llywelyn yn deyrnged i'n Llyw Olaf. Mae Llywelyn yn rhan o'm enw bedydd innau hefyd.

O'i enedigaeth codwyd Dylan yng nghwmni pobl ddiddorol. Ni fyddai drws ein cartref yn y Lôn Gefn yn Aber fyth ynghlo a galwai ffrindiau fel Eirwyn Pontshân a Cayo Evans, Dewi Pws, Emyr Huws Jones a Siôn Eirian yn rheolaidd.

Wedi i ni symud i fyw ar waelod Rhiw Penglais, ymwelydd rheolaidd fyddai Dave Datblygu ar ei bererindod o'r Cŵps i'r Hen Lew Du. A Dylan yn gwrando ar bob gair o enau'r rhain. Yn wir, bron iawn y gellid dweud i'r crwt fod â meddwl oedolyn o'i blentyndod.

Mae'n amhosib peidio cyfeirio at ymlyniad Dylan at Arsenal. Pa obaith oedd gan y crwt? Bum yn ffan o'r Gunners o'm plentyndod byth ar ôl i Mam brynu i mi hunangofiant Wally Barnes, Captain of Wales yn 1953. Roedd Barnes hefyd yn gapten ar Arsenal. Euthum â Dylan i Highbury gyntaf pan nad oedd ond yn bump oed. Euthum ag ef i Wembley - nid yn unig i weld Arsenal ond hefyd i un o gyngherddau Bob Dylan.

'Drop-outs' coleg

Mae'n rhyfedd sut y gwna hanes ail-adrodd ei hun. Dim ond dwy flynedd wnaeth fy ngyrfa golegol bara yn Aber. Treuliodd Dylan flwyddyn yn unig yn academia Prifysgol Caerdydd. Ie, drop-outs oeddem ill dau. Wrth edrych yn ôl, credaf mai gadael coleg cyn pryd fu un o'r pethau gorau a ddigwyddodd i'r ddau ohonom. Dysgasom fwy ein dau wrth draed Pontshân a'i debyg nag a ddysgem fyth mewn stafell ddarlithio. Byddaf yn dyfalu'n aml beth fyddai ein tynged ein dau petai ni wedi graddio?

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Tair cenhedlaeth o deulu'r Ebenezers... a chefnogwyr y Gunners

Priodi â Janet fu un o gymwynasau mwyaf Dylan gan gyflwyno rhyngddynt i Jên a minnau ddau drysor yn Anni Lywela a Ffredi Llywelyn. A bonws i mi yw'r ffaith iddo lwyddo i hawlio mynediad i'r byd newyddiadurol drwy ei ymdrechion ei hun, a hynny - fel ei dad - drwy raddio ym mhrifysgol bywyd. Ein pwnc arbenigol ni'n dau oedd cwmnïaeth pobol.

Un tro yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth gofynnwyd i ddosbarth Dylan beth hoffen nhw wneud o dyfu fyny? Ateb Dylan oedd: "Fe hoffen i weithio i'r Cymro fel Dad."

"Pam?" gofynnodd yr athrawes.

Atebodd Dylan: "Wedyn fe ga'i orwedd ar y soffa drwy'r dydd."

Gyda llaw, mae Anni a Ffredi yn cefnogi Arsenal hefyd.

Dylan: 'Ma' fe fel magnet sy'n denu'r cymeriadau lliwgar'

Fy nhad - yr hwn wyt ar y soffa... neu yn y swyddfa.

Fel yna oedd hi'n teimlo pan o'n i yn fach, 'ta beth. Naill ai yn teipio flat out yn y swyddfa fach yng nghefn y tŷ neu yn 'ymlacio' o flaen y teledu.

Roedd y bwrdd bach yn y stafell fyw wastad yn bentwr o bapurau - croeseiriau ar eu hanner - a llyfrau dros y lle.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Dylan, oedd yn cyflwyno rhaglen deledu o'r Eisteddfod yn Nhregaron yn 2022, a Lyn, sydd wedi sgwennu nifer o lyfrau Cymraeg, eu geni a'u magu yng Ngheredigion

Pan o'n i'n llai, o'n i yn meddwl bo' fi a Dad yn wahanol iawn ond erbyn hyn dwi'n gweld pa mor debyg y'n ni. Ma'i ddylanwad wedi bod yn enfawr arna'i heb i fi hyd yn oed sylweddoli hynny. Ac fel unig blentyn ma'r cyfan wedi fy ngorchuddio fel rhyw flanced anweledig, gysurus.

Dylan, T.H ac Arsenal

Rwy'n caru Bob Dylan a Tom Waits, Stephen King a Spike Milligan, Laurel and Hardy a T.H Parry Williams. Beirdd a chantorion Iwerddon ac America. Mae fy silffoedd yn llawn llyfrau hanes a hanes serial killers - y rhan fwyaf wedi eu dwyn o gartref fy rhieni. Ac wrth gwrs, pêl-droed. Neu i fod yn fanwl gywir… Arsenal.

Aeth Dad a fi i'w gwylio nhw gyntaf pan o'n i tua pedair oed. Yr holl ffordd o Aberystwyth i Highbury ar ddiwedd y 1970au - tipyn o gamp i feddwl bod e ddim yn gyrru.

Trên o Aber a newid yn Amwythig. Bant â ni yn Euston. Yr Underground wedyn i orsaf Arsenal cyn camu allan ym mharadwys. Roedd y daith adref wastad yn ras i sicrhau bo' ni ddim yn colli'r cysylltiad olaf - roedd rhuthro ar draws Llundain yn rhan o'r antur.

Dyw dynion ddim yn wych am rannu eu teimladau - ond ma' gwylio pêl-droed, dathlu a chofleidio yn ffordd wych i newid hynny!

Oedd y ffaith bod e ddim yn gyrru byth yn ei stopio chwarae teg, ac oherwydd hynny ni wedi treulio oriau gyda'n gilydd ar fysiau a threnau. Dysgodd Mam sut i yrru ar ôl iddi droi'n ddeugain ac erbyn i fi basio fy mhrawf gyrru o'dd gan Dad ddau chauffeur.

Doedd e byth yn dweud llawer - a man of few words. Ond roedd pob gair yn werthfawr a dwi wedi dysgu gymaint yn ei gwmni.

Straeon a phobl lliwgar

Mae ganddo straeon anhygoel. O gael scoop am Operation Julie i gyhuddo Richard Burton o ddwyn ei beint pan oedd yr actor enwog yn ffilmio Dan y Wenallt. Ma' fe wedi gorymdeithio yn Nulyn gyda Cayo Evans a'r FWA ac wedi canu gyda Shane MacGowan.

Dwi wedi cael bod yng nghwmni Dad ac Ems (Emyr Huws Jones) wrth iddyn nhw roi'r byd yn ei le - neu brofi dwli a drygioni Dewi Pws. Ma' fe fel magnet sy'n denu'r cymeriadau lliwgar - ma' hi'n cymryd un i nabod un, fel ma'r Sais yn dweud.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Lyn yn gwneud y mwyaf o un o fanteision cael chauffeur...

Roedd gyrru Dad o gwmpas Cymru pan oedd e'n ffilmio i Hel Straeon yn bwysig i fi hefyd. Yn ogystal â chael bod yn ei gwmni a chlywed yr holl straeon, roedd yn gyflwyniad gwych i'r byd teledu. Oedd hyn bendant ddim yn fywyd glamorous ond roedd pob diwrnod yn wahanol a'r cymeriadau mor ddiddorol. Nes i sylweddoli yn gyflym bod dim angen gweithio mewn swyddfa o naw tan bump o ddydd Llun i ddydd Gwener.

O ran datgan emosiwn dwi lot tebycach i Mam - ma'r cyfan yn gwbl agored. Mae Dad lot fwy tawel a meddylgar.

'Rhoes ef ei gerdd a hithau ei nwyd i mi'.

Ond, er bod e ddim yn dweud llawer chi'n ymwybodol iawn bod gymaint yn mynd ymlaen o dan yr wyneb. A chi'n ymwybodol iawn o'r cariad sydd yno hefyd - yn dawel ond yn gwbl ddiffuant.