Ateb y Galw: Cyflwynydd Dros Frecwast, Dylan Ebenezer
- Cyhoeddwyd
O fore Llun 25 Ionawr bydd rhaglen newydd Dros Frecwast i'w chlywed ar BBC Radio Cymru. Yn ymuno â Kate Crockett rhwng 7 a 9 bore Llun i Iau mae Dylan Ebenezer, gyda Gwenllian Grigg yn cyd-gyflwyno gyda Kate ddyddiau Gwener.
Er fod Dylan yn wyneb cyfarwydd i ni fel cyflwynydd pêl-droed ar S4C, dyma gyfle i ddod i'w adnabod ychydig bach yn well.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cerdded i mewn i'r ysgol feithrin yn Aberystwyth ac ymestyn i ddal llaw Mam - cyn sylweddoli mae dim Mam oedd yno ond rhyw berson arall. Cofio cael sioc a panic - cyn gweld Mam yn sefyll reit tu ôl i fi.
Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?
Kim Wilde - cofio'r sengl Kids in America yn dod allan pan o'n i tua 8 a hi o'dd y crush mawr cyntaf. Ni'n rhannu'r un penblwydd hefyd - spooky.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Top rhiw Penglais yn edrych i lawr ar Aberystwyth. Mae fy mhlentyndod cyfan yn yr un olygfa yna.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Crïo yn aml - nes i fynd yn emosiynol ar ddiwedd y gyfres Mandalorian yn ddiweddar! O'n i yn gwylio gyda fy mab sy'n 8 oed ac oedd yr holl brofiad yn teimlo mor hyfryd nes i ddechrau crïo.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Hapus, lwcus, a nerfus gan fod angen dechrau codi am 4 y bore!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Heblaw am ddigwyddiadau teuluol - priodas a genedigaeth y plant - gwylio Arsenal yn ennill y gynghrair y 1989 yn ein cartref yn Aberystwyth gyda Mam a fy ffrind Tomos Williams. Sgoriodd Arsenal yn yr eiliad olaf - gêm olaf y tymor i ennill y gynghrair am y tro cyntaf yn fy mywyd. Erioed wedi profi'r fath ewfforia.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Mae hyn yn newid bron bob dydd. Ond, heddiw na'i ddewis Time gan Tom Waits.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dim gymaint erbyn hyn diolch byth. Rwy'n wael am adael pethau tan y funud olaf - mae wastad rhestr hirfaith o bethau ar fy to-do list. Ond wedyn na'i gael diwrnod o sortio popeth.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Sortio popeth ar fy to-do list...
O archif Ateb y Galw:
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mi o'n i yn arfer chwarae'r soddgrwth yng ngherddorfa Ceredigion. Ac mi o'n i yn uffernol.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Hoff lyfr yw Sometimes a Great Notion. Dyma ail lyfr Ken Kesey, awdur One Flew Over the Cuckoo's Nest. Saga deuluol sydd wedi ei lleoli yng nghanol cymuned wledig yn Oregon. Campwaith.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Elon Musk - er mwyn eistedd yna jest yn edrych ar y cyfrif banc am oriau.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Gormod i'w rhestru, sori!
Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?
Seekh kebab, cyri, cwrw.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Fy ffrindiau - heb gael peint yn y dafarn gyda nhw ers blwyddyn! Heblaw am hynny - beth am Elvis Costello? Ffan enfawr ohono ac yn weddol sicr y byddai'n gwmni gwych.
Mae Dros Frecwast yn dechrau am 7am - sut un wyt ti am godi'n gynnar yn y bore?
Mi o'n i'n arfer codi yn gynnar i wneud bwletinau chwaraeon pan yn ifancach, ac oedd hynny yn anodd, yn bennaf gan fy mod yn mynd allan tipyn! Dau o blant a heneiddio yn golygu bod bywyd wedi newid llawer - gobeithio bydd hi'n haws erbyn hyn!