Y Seintiau Newydd yn ffeinal Cwpan Her yr Alban
- Cyhoeddwyd
![Brad Young scores against Falkirk](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/16BE2/production/_132545139_20979427.jpg)
Brad Young yn sgorio yn yr hanner cyntaf ac yn sicrhau lle y Seintiau Newydd yn y ffeinal
Mae'r Seintiau Newydd wedi ennill eu lle yn rownd derfynol Cwpan Her yr Alban ar ôl curo Falkirk ddydd Sadwrn.
Daeth unig gôl y gêm yn yr hanner cyntaf diolch i ymdrech Brad Young. Fe lwyddodd i gael y bêl i'r rhwyd yn dilyn sawl arbediad campus gan golwr y tîm cartref.
Er i Falkirk fygwth sgorio ar sawl achlysur, dwywaith yn unig y daethant yn agos i sgorio, gyda'r ymwelwyr yn rheoli'r chwarae.
Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal ar 23/24 o Fawrth.