Pys Melyn: llwyddo er gwaetha bod 'yn horizontal'

  • Cyhoeddwyd
Pys MelynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Pys Melyn, fydd yn chwarae yng Nghlwb Ifor Bach fel rhan o ddathliadau Dydd Miwsig Cymru, 9 Chwefror

Petai Mark Drakeford eisiau gwneud yn siŵr bod pawb yn cadw at y cyflymder newydd o 20mya ar hyd lonydd Cymru, fyddai rhoi CD Pys Melyn i chwarae ymhob car ddim yn syniad hurt.

Byddai'n annaturiol i frysio wrth wrando ar y synau melodaidd, llawn harmoni - ac mae'n ymddangos bod y sain yn adlewyrchu natur aelodau'r band. Ond wrth iddyn nhw ddechrau denu sylw ar draws Cymru a thu hwnt, mae'r grŵp o Ben Llŷn yn gwybod bod hyn yn siŵr o newid rywfaint wrth i'w llwyddiant gynyddu.

Yn eu hugeiniau cynnar erbyn hyn, mae aelodau Pys Melyn wedi bod yn creu cerddoriaeth efo'i gilydd ers dros ddegawd ar ôl ffurfio band ysgol a gystadlodd yn Eisteddfod yr Urdd, wnaeth ddatblygu'n Ffracas, un o'r grwpiau ifanc oedd ar y sin rai blynyddoedd yn ôl.

Trodd Ffracas i fod yn Pys Melyn, ond am gyfnod roedd y ddau yn cyd-oesi - wnaeth greu penbleth yn ystod gig gyntaf y band newydd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 yn ôl dau o'r aelodau.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Ar daith fis Awst 2023 - Ty Elise, Llydaw

Meddai Jac Williams: "Roedda ni'n wedi bod mewn gig fatha Ffracas un noson, ac wedyn roedda ni'n troi fyny cwpwl o ddyddiau wedyn fel Pys Melyn a gorfod egluro 'ia, ni ydi o eto, ond band gwahanol...'

"Gig cynta' ni oedd yn Clwb Ifor Bach a gafon ni chuckout ar ôl chwarae achos roedda ni dan oed."

Ychwanegodd Ceiri Humphreys: "Tua 15 oedda ni, fresh faced, efo tua tri darn o facial hair."

Unwaith roedd aelodau'r band yn ddigon hen i gael aros mewn gig a phrynu peint wrth y bar, roedd llai o gyfleoedd i wneud hynny wrth i'r rhan fwyaf adael am y coleg.

Dim ond Ceiri oedd ar ôl ym Mhen Llŷn ond er y natur ymlaciol doedd o'n sicr ddim yn segur. Ar eu halbwm diwethaf, y fo sydd wedi cyfansoddi, recordio a chymysgu'r traciau. Mae o hefyd yn canu ac yn chwarae llond trol o offerynnau - o'r ffidil i'r congas i'r banjo. A fo wnaeth ddylunio'r clawr.

Ffynhonnell y llun, Pys Melyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bolmynydd yn albwm melodaidd, gyda geiriau doniol, gwleidyddol - gyda nifer o'r traciau wedi eu canu gydag acen y de

Ac mae'n ffodus bod stiwdio recordio yn ei gartref a cherddoriaeth yn y gwaed, gyda'i dad Edwin Humphreys - Edwin Sacs - yn ffigwr adnabyddus yn y sin gerddoriaeth ers blynyddoedd.

"Roedd 'na biano adra pan o'n i'n fach ac o'n i jest yn eistedd yna, ac roedd ganddo ni caniau SMA (tybiau llefrith powdwr i fabanod) brawd fi, ac o'n i'n troi nhw drosodd a hitio nhw pan o'n i'n gwatshad teledu - troi o fatha drum kit," meddai.

"Geshi wersi dryms a gitâr a piano pan o'n i'n fach - ond neshi ddim mynd yn bell iawn efo piano - neshi stopio ar ôl scales. Do'n i jest ddim yn ymarfer ond o'n i dal i chwarae, jest yn trio pigo petha i fyny.

"Neshi ddechra recordio ar Garage Band pan o'n i tua 12 oed a ma' Dad yn gerddor ac roedd o wedi rhoi stiwdio at ei gilydd - dim byd high tech - 'mond rhywbeth mewn stafell adra."

Bywyd Llonydd oedd record hir gynta'r band, a llynedd rhyddhawyd Bolmynydd sydd wedi dal sylw. A gydag aelodau'r band newydd orffen yn y coleg mae gan Pys Melyn fwy o amser rwan i ail-greu sain y caneuon yn fyw.

Disgrifiad o’r llun,

Gig acwstic yn Caffi Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol 2023 ym Moduan

Meddai Jac: "Neshi raddio yn yr haf, a natho ni fynd syth fewn i'r haf heb lawer o gigs i chwarae - ond yn y diwedd natho ni neud tua 40 gig. Natho ni ddefnyddio Boduan, sy' tua dau funud i ffwrdd o dŷ un o'r hogia, fatha spring board i'r haf, aetho ni i Lydaw a neud dipyn o gigs efo Kim Hon a 3 Hŵr Doeth.

"Wedyn ti'n dod off run hir a does 'na'm byd wedi planio a ti'n meddwl 'be' allwn ni 'neud?' Wedyn o fewn mis mae 'na betha' yn dod fewn a rŵan 'da ni'n brysur am y tri mis nesa."

Ymysg y prysurdeb mae cefnogi Gruff Rhys ym Mryste, Lerpwl ac Arberth wrth iddo hyrwyddo ei albwm newydd, cefnogi Spirutalized yn Focus Wales, Wrecsam, ac mae'r band newydd fod yn BBC Salford i chwarae sesiwn byw ar BBC 6 Music.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwyr
Disgrifiad o’r llun,

Owain Llwyd, aelod newydd y band, yn stiwdio BBC 6 Music fis Ionawr eleni

Meddai Jac: "Roeddan ni reit nyrfys yn 'neud y sesiwn byw, efo (y cyflwynydd) Mark Riley yn y 'stafell efo ni. Fasa ti'n meddwl bod neud gig o flaen lot o wynebau yn waeth ond 'da ni wedi arfer efo hynny rŵan.

"'Da ni 'di gigio gymaint, ma' gen i bob ffydd yn y band yn gerddorol a bod neb yn mynd i 'neud cam anghywir ond ti jest ddim isho problema efo jack lead neu bod pedal gitâr ddim yn gweithio. Mae hynny yn digwydd - ond ella 'da ni'm yn edrych ar ôl ein gêr yn iawn."

Yn eu geiriau nhw eu hunain "does 'na'm lot o drefn" arnyn nhw, ac maen nhw "ychydig yn horizontal". Ond wrth iddyn nhw baratoi at gyfnod o berfformio mwy cyson mewn digwyddiadau proffesiynol, maen nhw'n ymwybodol bod rhaid cael mwy o drefn - rhywfaint o leia'.

"'Da ni angen rhywun i roi ni ar ben ffordd efo logistics, tasa rhywun yn gallu cymryd hynny off ni fasa hynny'n grêt. Ond fasa ni ddim wedi gallu bod unrhyw ffordd arall, dyna sut yda ni wedi 'neud o erioed.

"Mae'n bwysig cadw'r balans rhwng 'neud y petha 'da ni'n mwynhau 'neud ond hefyd yn gallu 'neud y pethau mwy hefyd."

Ychwanega Ceiri: "Ti'n gorfod gadael lle i betha' sy'n syrpreis. Ma'n help i fod yn fwy creadigol os ti ddim yn siŵr lle ti'n mynd neu be' sy'n digwydd."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Y band yn Gullivers, Manceinion, 29 Hydref 2023

Un peth sydd ddim ei angen ydi amser i sgwennu a recordio albwm rhif tri - mae hwnnw'n barod ers tair blynedd.

"Mae'n cymryd dipyn o amser rhwng recordio a rhyddhau," eglurodd Ceiri. "Gafodd Bolmynydd ei recordio yn 2021, a gath albym gynta' ni ei recordio yn 2018 - a ddaeth o allan yn 2021 - felly mae 'na bob tro tua tair blynedd o gap. Dwi'n gobeithio torri'r curse yna.

"Mae gen i werth tair awr o stwff wedi ei recordio yn barod. Mae 'na lot sy'n wahanol i'w gilydd a dwi'n trio mynd drwyddyn nhw rŵan i gael nhw i ryw fath o gasgliad.

"Mae 'na gwpl o ganeuon (ar yr albwm nesa) sy'n reit debyg i rai ar Bolmynydd, ond ma'r rhan fwya' yn wahanol. Mae 'na rai sy'n western - fatha film cowbois, rhai mwy electronic. Ond dwi heb ddewis yn iawn eto."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig