'Fire in My Heart': Pam dwi'n caru gwaith Gruff Rhys
- Cyhoeddwyd
Mae Laura Nunez wedi gweld Gruff Rhys yn perfformio 130 o weithiau, wedi enwi ei grŵp ar ôl un o ganeuon ei fand a hyd yn oed wedi dysgu Cymraeg yn sgil ei gerddoriaeth.
Wrth i Gruff Rhys ryddhau ei 25ain albwm, ac ar ddiwedd Wythnos Cariad ar Cymru Fyw, yma mae Laura yn egluro sut ddaeth hi'n ffan enfawr o'r cerddor:
Dechreuais i ddilyn Gruff Rhys ar ôl clywed sengl gan y Super Furry Animals ar y radio, a chwympais mewn cariad gyda'r gân.
Ers hynny dwi wedi bod yn lwcus i'w gweld nhw'n fyw tua 80 o weithiau a gigs Gruff fel artist unigol a phrosiectau eraill tua 50 gwaith.
Mae bob amser yn bleser gweld beth sy'n dod nesaf.
Dwi'n ei ddilyn ers chwarter canrif, ond beth sy'n anhygoel ydi bod Gruff wedi bod yn creu cerddoriaeth ers tua 10 mlynedd cyn i mi ddechrau gwrando, a nawr mae wedi cyrraedd yr achlysur anhygoel o ryddhau ei 25ain albwm.
Gwrandewch ar Gruff Rhys yn trafod cyfansoddi yn y Gymraeg a'r Saesneg ar y podlediad Elis James - Dwy Iaith, Un Ymennydd
Super Furry Animals 'nes i glywed gyntaf - ond roedd Gruff Rhys wedi bod mewn sawl band cyn yr SFA, yn fwyaf nodedig Ffa Coffi Pawb, a ryddhaodd dair albwm ar Ankst rhwng 1988-1992.
Ond yn 1996 clywais i Super Furry Animals am y tro cyntaf pan oedd Hometown Unicorn yn cael ei chwarae ar raglen Evening Session gyda Steve Lamacq a Jo Whiley ar Radio 1.
Roedd hi'r sengl gyntaf i'r band ar label Creation, cyn rhyddhau yr albwm cyntaf Fuzzy Logic ym Mai 1996. Cwympais mewn cariad â'r sengl ac yn ddiweddarach yr albwm pan brynais i hi ar CD. Roedd yn wahanol, yn felodaidd ac yn ddiddorol i mi. Roeddwn i eisiau clywed mwy.
Caneuon Cymraeg a dysgu'r iaith
Dechreuais i wrando ar ganeuon yn Gymraeg ar y tro cyntaf gyda B-Sides fel Dim Bendith ac Arnofio/Glô in the Dark, yn ogystal â chaneuon gan fandiau fel Gorky's Zygotic Mynci, Melys a Catatonia.
Roeddwn i'n rhy ifanc i weld Super Furry Animals yn fyw ar eu taith Fuzzy Logic yn 1996 (dyma'r flwyddyn pan chwaraeodd y band yn Glastonbury am y tro cyntaf), ond gwelais i nhw am y tro cyntaf y flwyddyn ganlynol yn y ULU, Llundain, mis Mai 1997, cyn rhyddhau eu hail albwm Radiator.
Roedd y gig yn uchel, yn llawn tiwns gwych a llawer o hwyl, gyda diweddglo techno estynedig o The Man Don't Give a F*ck i orffen. Ar ôl hyn ni allwn gael digon o'r sioeau byw ac ers hynny rwyf wedi gweld y SFA tua 80 o weithiau rhwng 1997 a'r gig diweddaraf yn 2017!
Rhyddhawyd Radiator yn 1997 ac roedd yn un o'r albymau mwyaf llwyddiannus yn y siartiau, wrth iddo gyrraedd rhif wyth yn siart y DU a chafodd hefyd ei gynnwys gan gylchgrawn yr NME yn rhif 92 o'i '500 o Albymau Gorau erioed'.
Un o fy hoff albymau erioed yw Mwng, a ryddhawyd yn 2000, oedd yn cynnwys 10 trac - i gyd yn Gymraeg. Cyrhaeddodd yr albwm rif 11 yn siartiau'r DU a Mwng yw'r albwm iaith Gymraeg sydd wedi gwerthu orau erioed.
Cefais fy magu yn Llundain, ond dechreuais i ddysgu Cymraeg ar ôl gwrando ar gerddoriaeth yn y Gymraeg, ar fy mhen fy hun i ddechrau ac yn ddiweddarach mewn dosbarth Cymraeg. Roeddwn i'n caru sŵn yr iaith ac eisiau ei deall a'i siarad fy hun ac roedd bandiau fel SFA yn ysbrydoliaeth fawr.
Gigs byw
Un o fy hoff deithiau oedd Love Kraft yn 2005 pan o'n i'n teithio gyda'r band cymorth El Goodo. Gwelais yr holl brofiad o deithio fel y setup, gwirio sain a'r cinio blasus wedi'i goginio gan yr arlwywyr ac roedd hi'n lot o hwyl gyda llawer o atgofion da.
Cyrhaeddodd y SFA y llwyfan mewn bygi golff, yn gwisgo siwtiau wedi eu goleuo ar gyfer eu perfformiad ac roedd Gruff yn gwisgo helmed 'Power Ranger' i ganu Slow Life. Rhai o gigs mwyaf cofiadwy y daith oedd Glasgow Barrowlands, Prifysgol Lerpwl, a Brixton Academy yn Llundain a oedd yn llawn egni ar y llwyfan ac yn y gynulleidfa.
Gruff yr artist unigol
Rhyddhawyd albwm unigol gyntaf Gruff Rhys, Yr Atal Genhedlaeth, yn 2005 a gwelais ei gig unigol cyntaf yn ei dref enedigol, Bethesda yn Neuadd Ogwen. Roedd yn wahanol iawn i gigs SFA; set acwstig stripped down gydag allweddellau Casio ychwanegol a sampleri yn gymysg â straeon a jôcs.
Roedd yn llawer mwy hamddenol na gig SFA, ond yn dal yn adloniadol iawn. Mae bellach wedi rhyddhau 11 albwm unigol gan gynnwys albwm trac sain ffilm a'i albwm diweddaraf Sadness Sets Me Free.
Ers y gig unigol cyntaf mae ei fand byw wedi tyfu i gynnwys band llawn a hyd yn oed rhai gigs oedd yn cynnwys cerddorfa lawn ar daith Babelsberg.
Mae Gruff wedi gweithio ar nifer o brosiectau gwahanol ac amrywiol eraill gan gynnwys Neon Neon gyda Boom Bip a Gorillaz ac Africa Express gyda Damon Albarn ymhlith eraill.
Dylanwad arall o gerddoriaeth Gruff sydd wedi bod yn bwysig i mi, yw fy mod wedi dechrau band fy hun, She's Got Spies, ac wedi ysgrifennu fy albwm cyntaf i gyd yn Gymraeg.
Yn amlwg mae enw'r band o'r gân ar albwm Radiator gan Super Furry Animals, a gofynnais i Gruff a allwn ddefnyddio'r enw ar gyfer fy mand. Mae'r rheswm yn amlwg - oherwydd fod SFA a phrosiectau eraill Gruff wedi bod yn ddylanwad enfawr arnaf i a fy ngherddoriaeth fy hun.