Rhybudd melyn am law trwm i rannau helaeth o'r de
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am law trwm ar gyfer rhan helaeth o dde Cymru ddydd Iau.
Daeth i rym am 11:00 ac mae'n para tan 23:59.
Fe allai'r amodau achosi trafferthion i deithwyr a llifogydd ar ffyrdd.
Mae disgwyl 15-20mm of law mewn sawl man, ac mae 30-40mm yn debygol ar dir uchel, ond fe fydd y cawodydd yn dechrau cilio wedi iddi nosi.
Mae'r rhybudd yn weithredol yn 14 o siroedd Cymru: Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr, Merthyr Tudful, Mynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.