Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Heddlu ym Mae Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad am tua 09:00 fore Sul

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi ymosodiad difrifol ym Mae Caerdydd fore Sul.

Cafodd swyddogion eu galw i'r digwyddiad mewn eiddo ar Ffordd Belmont yn ardal Tre-biwt toc wedi 09:00.

Dywedodd yr heddlu bod dyn 64 oed wedi marw a bod dyn arall 38 oed yn cael ei holi ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Roedd nifer o ffyrdd wedi cau o amgylch Bae Caerdydd ddydd Sul wrth i'r heddlu ymchwilio i'r ymosodiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig