Rhybudd am law trwm i dde Cymru fore Mercher
- Cyhoeddwyd

Bydd y rhybudd mewn grym rhwng hanner nos a hanner dydd, ddydd Mercher
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law i ran helaeth o dde Cymru ganol yr wythnos.
Bydd y rhybudd mewn grym ar gyfer holl siroedd y canolbarth a'r de, a hynny rhwng hanner nos a hanner dydd, ddydd Mercher.
Mae disgwyl cawodydd trymion ar draws y de, gyda hyd at 25mm o law i ddisgyn yn eang, a hyd at 70mm ar dir uchel.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gall y tywydd garw arwain at lifogydd mewn mannau, a gallai effeithio hefyd ar drafnidiaeth gyhoeddus.