Pêl-droediwr wedi marw o ataliad tra'n chwarae pêl-droed
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi dod i'r casgliad fod dyn o Abertawe wedi marw o achosion naturiol tra'n chwarae pêl-droed.
Roedd Mitchell Joseph, 33, yn chwarae i dîm pêl-droed St Joseph yng Nghynghrair Pêl-droedwyr Hŷn Abertawe pan gafodd ataliad ar ei galon ar 13 Ionawr 2018.
Bu farw ddiwrnod yn ddiweddarach yn Ysbyty Treforys, Abertawe.
Clywodd y cwest fod Mr Joseph wedi cael llawdriniaeth ar ei galon yn ystod 2017 a bod y gofal a gafodd wedi hynny yn "dda", ond wrth grynhoi dywedodd y crwner cynorthwyol Aled Gruffydd bod yna ddiffyg wedi bod yn y gofal wedi'r driniaeth oherwydd dryswch ynglŷn ag apwyntiadau ysbyty.
Dywedwyd wrth y cwest, a fu'n edrych ar y gofal a gafodd Mr Joseph gan y bwrdd iechyd, bod gwelliannau wedi cael eu gwneud i system apwyntiadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe "er mwyn gostwng y risg o farwolaethau yn y dyfodol".
Clywodd y cwest fod Mr Joseph wedi cael diagnosis o furmur y galon yn 2012.
Yn 2017 fe gafodd lawdriniaeth ar falf y galon a disgrifiwyd ei ofal wedi'r llawdriniaeth fel "hynod" o dda.
Dywed y crwner cynorthwyol bod hynny yn cyfiawnhau taith feic elusennol Mr Joseph o Baris i Abertawe yn Awst 2017.
Wrth grynhoi'r gwrandawiad a barodd dri diwrnod dywedodd Mr Gruffydd fod pedwar cwestiwn y dylid eu hystyried - rheidrwydd cael llawdriniaeth ar y galon, a ddylid fod wedi cynyddu'r feddyginiaeth, safon y gofal wedi'r llawdriniaeth a pham bod dryswch am apwyntiadau ysbyty wedi digwydd cyn ei farwolaeth.
Bwrdd iechyd wedi gwella system apwyntiadau
Dywedodd llawfeddyg ymgynghorol ar y galon ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe, Pankaj Kumar, bod symptomau o glefyd y galon yn gallu datblygu yn fuan pan maen nhw'n digwydd ond bod modd i feddyginiaeth eu harafu os yw'r claf yn dewis peidio cael llawdriniaeth, ond petai'r feddyginiaeth yn stopio gweithio gallai'r "rhagolygon fod yn waeth".
Dywedodd Mr Gruffydd wrth y cwest fod Mr Joseph wedi dewis cael y llawdriniaeth gan y gallai'r "cyflwr waethygu dros amser" ond ychwanegodd mai nad ei "benderfyniad i gael y llawdriniaeth" fu achos ei farwolaeth.
Nodwyd bod Mr Joseph wedi cael dos tri mis o warfarin i atal ceulo gwaed wedi'r llawdriniaeth a bod "tystion clinigol" wedi cytuno bod hynny'n amser priodol ac y gallai cyfnod hwy fod wedi "gwneud fwy o niwed nag o les".
Clywodd y cwest ymhellach fod Mr Joseph wedi cael cais yn Nhachwedd 2017 i ddychwelyd am apwyntiad arall o fewn pythefnos, ond am na chafodd lythyr i gadarnhau hyn ni fynychodd yr apwyntiad ac felly fe gafodd ei ryddhau o ofal.
Gallai apwyntiad arall wedi bod yn gyfle i gael trafodaeth fanylach am ymarfer corff a meddyginiaeth, medd y crwner, ond daeth i'r casgliad nad yw hi'n glir a wnaeth y dryswch gyfrannu at farwolaeth Mr Joseph.
Ar ddiwedd y cwest ychwanegodd "nad oedd bai dynol" wedi cyfrannu at achos y farwolaeth a bod Mr Joseph wedi marw o achosion naturiol wedi ataliad ar y galon, a niwed i'w ymennydd wedi diffyg ocsigen.
Ychwanegodd ei fod yn cydymdeimlo gydag aelodau o'r teulu a oedd yn bresennol yn y cwest.
Yn dilyn y methiant i hysbysu Mr Joseph o'i apwyntiad, clywodd y cwest fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi gwella eu system apwyntiadau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2018