Dafydd Wigley: 50 mlynedd ers ei ethol i San Steffan

  • Cyhoeddwyd
wigley
Disgrifiad o’r llun,

Yr Arglwydd Dafydd Wigley

Roedd 1974 yn flwyddyn arwyddocaol yng ngwleidyddiaeth Cymru, gyda Phlaid Cymru'n ennill seddi mewn Etholiad Cyffredinol am y tro cyntaf.

Enillodd Gwynfor Evans ei sedd yn 1966 mewn isetholiad, ac er gwaetha'r ffaith i'r blaid gael ei nifer fwyaf o bleidleisiau erioed mewn etholiad yn 1970 (ffaith a safodd tan Etholiad 2001) ni etholwyd cynrychiolydd y flwyddyn honno.

Ond yn Etholiad Cyffredinol 1974, ar 28 Chwefror, fe etholwyd dau ar ran Plaid Cymru; yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas dros Sir Feirionnydd, a'r Arglwydd Dafydd Wigley yn cynrychioli Sir Gaernarfon.

Yn dilyn senedd grog roedd Etholiad Cyffredinol arall yn 1974 (10 Hydref), gyda'r ddau Dafydd yn cael eu hailethol, ac arweinydd y blaid, Gwynfor Evans yn dychwelyd i San Steffan.

Hanner can mlynedd yn ddiweddarach mae Dafydd Wigley'n adlewyrchu ar ddigwyddiadau Etholiad mis Chwefror, a'r blynyddoedd ers hynny, mewn sgwrs gyda Cymru Fyw.

"Be' dwi'n ei gofio fwyaf (am ymgyrch Etholiad '74) ydy'r tywydd - roedd hi'n ddifrifol, ac roedd 'na gannoedd o bobl ifanc yn cerdded o ddrws i ddrws," meddai.

Disgrifiad,

Dafydd Wigey ac Etholiad 1974

"Roedd 'na rai tai 'di cael eu canfasio tair neu bedair gwaith, a galwadau ffôn yn dod i'r swyddfa yn cwyno - pobl yn dweud bo' nhw am ein cefnogi ni beth bynnag.

"O safbwynt yr ymgyrch ei hun roedd y cwestiwn o bwy sy'n llywodraethu Prydain, ac roedd streic y glowyr ymlaen - yng Nghymru roedd 'na lot o gydymdeimlad gyda'r glowyr. Roedd hi'n etholiad digon anodd o safbwynt Goronwy Roberts (yr ymgeisydd Llafur), Aelod Seneddol a oedd wedi bod yn ei swydd am 28 mlynedd."

Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Wigley'n canfasio yn 1974

Mae Dafydd hefyd yn cofio'r ymgyrch yn mynd yn eitha' ymfflamychol rhwng ei dîm ymgyrchu a'r cynrychiolydd Ceidwadol.

"O safbwynt yr ymgeiswyr eraill, ges i dipyn o wahaniaeth barn efo'r Tory - Tristan Garel Jones, a oedd wedi bod yn mynd o gwmpas efo corn siarad ar ei gar yn lambastio'r Blaid am dorri fyny ocsiwn dai a phethau felly - roedd y pwnc ail dai yn dechrau codi.

"Ddaru fy niweddar gynrychiolydd i, Wmffra Roberts, roi bygythiad go arw iddo fo, a pan weles i Tristan Garel Jones rhai misoedd wedyn - 'nath o sefyll a chael ei ethol yn Watford - 'nath o ofyn "that agent of yours, is he still around? Terrible man! Terrible man!" medda fo. 'Nath Wmffra ei sortio fo allan, ac mi gadwodd o'i geg ar gau o hynny 'mlaen."

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Dafydd Wigley Etholiad Chwefror 1974 gyda mwyafrif o 1,728. Erbyn Etholiad Hydref 1974 fe gynyddodd ei fwyafrif i 2,894

Gwynfor yn colli yng Nghaerfyrddin

Mae Etholiad Chwefror '74 hefyd yn un nodedig i genedlaetholwyr am i Gwynfor Evans golli i Gwynoro Jones, a hynny o dair pleidlais yn unig.

"O'n i wedi ymgyrchu yng Nghaerfyrddin yn '66 ac wedi cydweithio efo Gwynfor yn Llundain pan o'n i'n gweithio gyda Ford yn Dagenham, ac o'n i 'di dod yn ffrindiau efo fo. O'n i'n torri nghalon fod o 'di colli yn 1970, ond mi roedd 'na sibrwd fod o'n gwneud yn dda iawn yng Nghaerfyrddin (yn Chwefror '74).

"Y cyfan o'n i'n ei glywed ar y noson oedd bod 'na ail gyfri, ac wedyn roedd 'na drydydd cyfri, ac wedyn aethon nhw i gyd i'w gwlâu a dechrau cyfri eto... roedd 'na saith cyfri i gyd, ac os dwi'n cofio'n iawn 'nath Gwynfor golli pump ohonyn nhw ac ennill ddwywaith.

"Ond roedd o'n gweld sut oedd petha'n mynd, ac y bydda 'na senedd grog ac felly ail etholiad yn fuan, a'r peth i'w wneud oedd derbyn y canlyniad a fysa pethau'n dod yn iawn y tro wedyn. Erbyn yr Hydref yn yr ail etholiad cafodd Gwynfor fwyafrif o dros 3,000 - 'nath o ddangos sut i ymddwyn mewn etholiad."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Elis-Thomas, Gwynfor Evans a Dafydd Wigley yn San Steffan ar 22 Hydref, wedi i'r tri ennill yn ail Etholiad Cyffredinol o'r flwyddyn

Felly yn 1974 fe lwyddodd Dafydd Wigley gael ei ethol, a'i ail-ethol, ond oedd hi wastad wedi bod yn gynllun iddo fod yn Aelod Seneddol?

"O'n i wedi dechrau ymddiddori mewn gwleidyddiaeth nôl yn yr 1950au, yr adeg oedd Harold Macmillan yn Brif Weinidog ac yn dweud "you've never had it so good". Wel, falle oedd hynny'n wir yn Llundain, ond doedd o ddim yn wir yng Nghymru gyda phobl yn colli eu gwaith, ac roedd diffyg gwaith i bobl ifanc yn bwnc arbennig o agos i'n nghalon i.

"Yn 1964 o'n i newydd orffen yn y brifysgol ym Manceinion ac o'n i dri mis off a 'nes i weithio fel trefnydd cyflogedig i'r Blaid yn etholaeth Arfon, yn arwain at Etholiad Hydref '64.

Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Wigley a Gwynfor Evans yn ymgyrchu yn Sir Feirionnydd yn 1970

"'Nes i sefyll yn Sir Feirionnydd yn 1970. Er mod i wedi mwynhau yn fawr sefyll ym Meirionnydd - lot o ffrindiau oes o'r cyfnod hwnnw - roedd hi'n haws sefyll yn eich patsh eich hun, gyda phethau fel canfasio lle ma' rhywun yn deud 'o'n i'n 'nabod dy frawd di' neu 'o'n i'n chwarae ffwtbol yn yr un tîm â chdi' neu'n canlyn efo rhyw ferch."

"Oedd hi mor naturiol i fod yn sefyll yn eich patsh eich hunan, ac alla' i ddim deall pobl yn mynd ymhell o'u bro eu hunain a rhywsut yn meddwl bo' nhw'n cynrychioli - mae llawer haws pan ma'ch gwreiddiau chi yn eich milltir sgwâr."

Disgrifiad o’r llun,

Tri o gyn-arweinwyr Plaid Cymru gyda'i gilydd; Gwynfor Evans, Dafydd Elis-Thomas a Dafydd Wigley

Y ddau Dafydd a'r chwarelwyr

Yn mynd i San Steffan yr un adeg â Dafydd Wigley oedd Aelod Seneddol arall, Dafydd Elis-Thomas.

"Roedden ni'n dau yn ifanc - Dafydd Êl yn 27 oed a finna'n 30, ac oedden ni'n mynd i mewn i'r lle heb Gwynfor. Felly, ges i'r fraint o fod yn arweinydd y Blaid, ac oedd o'n chwip y Blaid, ac oedden ni'n trio sortio pethau y gorau medrwn ni.

"Roedd ein diddordebau ni'n ddigon gwahanol. Roedd ei ddiddordebau o yn arbennig mewn polisi cymdeithasol, tai ac ati, ac o'n innau mwy efo'r economi a diwydiant, felly roedd 'na falans iawn. Roedd 'na adegau ble roedden ni'n cael gwahaniaeth barn, ond at ei gilydd mi weithiodd hynny'n dda trwy'r 70au.

"Ac wrth gwrs roedd gennym ni un pwnc arbennig o bwysig i ni'n dau, sef cael iawndal i'r chwarelwyr llechi oedd yn diodda o lwch, newmoconiosis."

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd Wigley a Dafydd Elis-Thomas yn ystyried ennill iawndal i chwarelwyr y gogledd fel un o brif lwyddiannau eu gyrfaoedd

"Roedd y glowyr yn barod wedi cael setliad gan y llywodraeth, ond roedd y llywodraeth Lafur yn gwrthod rhoi i'r chwarelwyr. Yn y diwedd, ar y bleidlais ola' ym Mawrth '79, 'nathon nhw ildio a gadael i'r mesur fynd drwodd i ni gael iawndal i'r chwarelwyr.

"Roedd hwnnw'n bwysig i Dafydd Êl efo Stiniog yn ei etholaeth, ac yn bwysig i mi efo Llanberis a Dyffryn Nantlle, a nifer o lefydd eraill. Ac mae'r mesur yna'n dal i dalu allan iawndal i'r rhai sy'n diodda o lwch diwydiannol - nid jest chwarelwyr, ond mewn diwydiannau eraill hefyd."

'Gor-optimistig yn '74'

Beth oedd y teimlad nôl yn '74? Fydde Dafydd wedi gallu rhagweld y siwrne wleidyddol a oedd ar y gorwel i Gymru?

"Mewn ffordd, falle oedden ni'n or-optimistig yn '74. Oedden ni'n meddwl gan bo' ni 'di dod i mewn, a Gwynfor wedi creu argraff dda iawn yn y 60au, ac roedd Comisiwn Kilbrandon yn argymell senedd ddeddfwriaethol i Gymru ac i'r Alban, ac roedden ni'n meddwl y daw hwnnw yn ein pum mlynedd cynta' ni, a falle wedyn cawn ni symud i Gaerdydd.

"Ond wrth gwrs daeth refferendwm yn '79, ac roedd hynny'n drychinebus am nifer o resymau, ac roedd rhaid dechrau eto - a phryd hynny roedden ni'n meddwl a oedd o am ddod o gwbl.

"Fe gymerodd o genhedlaeth lawn drwodd i '97 i gael y fuddugoliaeth yna. Ac roedd 'na nifer o ffactorau wedi newid rhwng '79 a '97 - oeddech chi 'di cael 18 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol, nad oedd Cymru 'di'i ethol, a Margaret Thatcher yn ei arwain, a phedwar ysgrifennydd gwladol dros Gymru oedd ddim yn Aelodau Seneddol yng Nghymru, a rhai ohonyn nhw heb fawr o gydymdeimlad at Gymru chwaith."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pedwar Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan y Torïaid a oedd yn cynrychioli etholaethau yn Lloegr; Peter Walker 1987-90 (Aelod Seneddol Caerwrangon), David Hunt 1990-93 & 1995 (Gorllewin Cilgwri), John Redwood 1993-95 (Wokingham) a William Hague 1995-97 (Richmond)

"Felly, pan ddoth y refferendwm yn '97 oedd o'n gwestiwn o gael llywodraeth yng Nghymru, yn atebol i bobl Cymru, a ddim rhyw Governor General a'i griw o Lundain.

"Roedd hi'n dynn iawn yn refferendwm '97, a dim ond efo'r canlyniad olaf yng Nghaerfyrddin ddoth hi'n iawn ar y noson gwbl gofiadwy yna. Yn etholiad '99 ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol cafodd y Blaid ganlyniad da iawn - dim digon da i lywodraethu, ond digon da i fod y brif wrthblaid, ac oedd hynny'n anrhydedd ac yn gyfrifoldeb."

Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Wigley, Peter Hain, Ron Davies, Wyn Griffiths a Richard Livsey yn dathlu'r canlyniad o blaid datganoli, Medi 1997

Newid yn agwedd Llafur

Ers geni'r Cynulliad, fel yr oedd 25 mlynedd yn ôl, mae Dafydd Wigley o'r farn bod rhai pethau wedi datblygu'n dda yma, yn enwedig agwedd y Blaid Lafur tuag at ddatganoli.

"Mae 'na rai pethau sydd wedi datblygu'n dda, mae Cymru wedi cymryd cyfrifoldeb dros faterion. Yn dilyn '97, o gofio sut oedd Neil Kinnock a'i griw ac aelodau Llafur o Gymru wedi ymgyrchu yn erbyn datganoli yn '79, roedd o'n bwysig fod y mudiad Llafur yn prynu mewn i hyn.

"A dyna pam oedd hi'n bwysig i Rhodri Morgan fod yn Brif Weinidog yn sgil Alun Michael - doedd pethau heb weithio allan i Alun Michael, ond i fod yn deg efo fo gafodd o ddim y gefnogaeth gan y blaid Lafur yn Llundain y dylsa fo 'di cael.

"Ond roedd Rhodri Morgan yn rhywun oedd yn credu'n angerddol mewn datganoli - o'n i'n gwybod hynny o sgyrsiau personol ac yr hyn oedd o'n ei ddweud pan oedd o ddim ar gamera. O'n i'n hyderus, efo fo fel Prif Weinidog, y bysa'r mudiad Llafur yng Nghymru yn dod i dderbyn datganoli, a bod Cymru hunanlywodraethol yn ffordd gwbl naturiol o fyw, ac mae hynny wedi digwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Yn dilyn Etholiadau'r Cynulliad 2007 arwyddwyd cytundeb i lywodraethu rhwng Plaid Cymru a'r Blad Lafur. Yma mae arweinwyr y pleidiau ar y pryd, Ieuan Wyn Jones a Rhodri Morgan, yn arwyddo'r ddogfen ar 27 Mehefin, 2007

"Erbyn hyn, byswn i'n dweud bod Llafur wedi bod fewn yn rhy hir; er mwyn i ddemocratiaeth weithio mae angen newid bob hyn a hyn mewn etholiad, a dyna pam mae'n bosib erbyn 2026 fod 'na ddewis amgen ar gael, a dim yr un peth eto gan y blaid Lafur."

Heriau presennol Cymru

Os fyddai Dafydd Wigley'n Brif Weinidog ar Gymru heddiw, beth fydda'r peth cyntaf fyddai eisiau ei newid?

"Dim cwestiwn o gwbl gen i mai'r flaenoriaeth yw'r economi, achos dyna sydd 'di methu. O 1999 i heddiw mae lefel incwm y pen dal efo'r un bwlch o'i gymharu â gweddill Ewrop, ac mae'n rhaid i ni gael yr economi'n iawn oherwydd dim ond drwy hynny mae'r adnoddau ar gael ar gyfer iechyd, addysg a phopeth arall.

"Yr un peth y byswn i'n bersonol isio ei weld ydi bo' ni'n gwneud ymgyrch o ddifri i drio sicrhau bod pobl ifanc Cymru, llawer ohonyn nhw'n mynd i ffwrdd i weithio, bod ni drwy ryw system gydnabyddedig yn cadw mewn cysylltiad efo nhw a'u denu nhw nôl. A bod y rhai sy'n dod â syniadau da gerbron ym myd diwydiant neu beth bynnag, yn gallu datblygu hynny yng Nghymru.

"Y peth pwysicaf sydd gan unrhyw wlad ydy ei phobl, ac yn arbennig pobl ifanc, ac mae'n rhaid i ni ddangos blaenoriaeth felly er mwyn cael y genhedlaeth nesa' ar ein hochr ni, ond yn bwysicach eto er mwyn creu economi a dyfodol i'n gwlad gan ein pobl ein hunain, o fewn ein tiriogaeth ein hunain."

Hefyd o ddiddordeb: