Yr Arglwydd Dafydd Wigley i ymddeol o Dŷ'r Arglwyddi
- Cyhoeddwyd
Wedi 50 mlynedd mewn gwleidyddiaeth mae'r Arglwydd Dafydd Wigley wedi penderfynu ymddeol o Dŷ'r Arglwyddi.
Yn siarad ar raglen Bore Sul, BBC Radio Cymru, dywedodd ei fod yn 80 y flwyddyn nesaf a'i fod yn credu mai dyna fydd yr amser "i fod yn galw terfyn ar bethau".
Fe gafodd Mr Wigley ei ethol yn gynghorydd Plaid Cymru ym Merthyr yn 1972, cyn cynrychioli Caernarfon yn Nhŷ'r Cyffredin rhwng 1974 a 2001.
Roedd yn Aelod Cynulliad i Gaernarfon rhwng 1999 a 2003 ac mae wedi bod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi ers 2011.
"Pan ddes i Dŷ'r Arglwyddi gyntaf ddeng mlynedd yn ôl, doedd aelodau fan hyn ddim yn cael ymddeol, mi oeddan nhw'n mynd allan pan oeddan nhw'n marw. Ond wrth gwrs mae hawl i ymddeol wedi dod i fewn."
Ac mae'n credu bod 10 mlynedd fel Arglwydd yn ddigon.
"Pan ddes i fewn, mi o'n i'n meddwl, os dwi'n cael degawd yma, os dwi'n gallu cyfrannu am ddegawd, falla fod hynny yn ddigon".
Dyw cyn arweinydd Plaid Cymru ddim am bennu dyddiad penodol ar gyfer ei ymddeoliad eto, ond fel unig aelod y blaid yn Nhŷ'r Arglwyddi dywedodd ei fod eisiau rhoi cyfle i'r "blaid ac i Gymru benderfynu beth yw ein hagwedd ni tuag at anfon aelodau i ail siambr senedd Llundain".
"Ydan ni am ddilyn yr un patrwm a'r SNP, sydd ddim yn rhoi aelodau yma?
"Dwi fy hun yn teimlo fod yna waith i'w wneud yma ond dydi o ddim yn waith y gellir ei wneud os nad ydi plaid yn cael y parch y dylen nhw gael, a mae hynny yn golygu cael tîm iawn".
'Sail ddemocrataidd'
Mae'n awyddus i gyngor cenedlaethol Plaid Cymru benderfynu os ydyn nhw am weld aelodau eraill o'r blaid yn ei ddilyn i Dŷ 'r Arglwyddi, a hynny cyn iddo fynd, "fel nad oes yna gyfnod o ansicrwydd".
"Yn fy marn i , os ydan ni'n cael aelodau yma dylsa ni fod efo cymaint o aelodau ag sydd yn Nhŷ'r Cyffredin.
"Ac mi fyswn i'n gobeithio y byddai rheiny yn cael eu hethol gan y blaid fel bod rhyw sail ddemocrataidd.
"Ond mewn llawnder amser os oes 'na ddyfodol o gwbwl i Dŷ 'r Arglwyddi mae'n rhaid troi'n etholedig i roi ryw fath o nerth i'n llais".
Dafydd Wigley yw'r unig wleidydd o Blaid Cymru i fynd i'r ail siambr gyda bendith ei blaid.
Roedd Plaid Cymru yn gwrthwynebu enwebu aelodau i fynd yno tan 2007.
Erbyn hynny roedd gan y Cynulliad yr hawl i ddeddfu, ond dim ond gyda caniatâd y ddwy siambr yn San Steffan.
Ac yn ôl yr Arglwydd Wigley "roedd hi'n bwysig fod gennym ni lais yma i ddadlau ein hachos ni".
Fe addawyd tair sedd i Blaid Cymru gan y llywodraeth Lafur ar y pryd, a dewiswyd Dafydd Wigley, Eurfyl ap Gwilym a Janet Davies wedi pleidlais yn eu cyngor cenedlaethol yn Ionawr 2008.
"Fe gawsom ni ein harwain i gredu y byddai'r tri ohonom yma o fewn wythnosau".
Roedd y trafodaethau cyntaf wedi digwydd tra roedd Tony Blair yn brif weinidog, ond erbyn 2008 Gordon Brown oedd yn Rhif 10.
"Yn ôl beth ddywedodd aelodau Llafur wrthai wedyn roedd Gordon Brown wedi dweud "over my dead body does any nationalist go into that chamber".
"Ac felly o 2007 tan 2010 fe gawsom ni ein rhwystro, fe ddaru nhw wrthod cyflawni yr addewid".
'Bradychwyd eto yr addewid'
Yn y diwedd fe gafodd Dafydd Wigley ei wneud yn Arglwydd yn 2010, pan ddaeth David Cameron yn brif weinidog.
Ond roedd o dan yr argraff y byddai yna ddau arall yn ei ddilyn "fe fradychwyd eto yr addewid yna", meddai, "gan y Torïaid y tro yma".
"Mae trio rhedeg plaid un person mewn siambr o 700 o aelodau, efo'r holl ystod o bolisïau, llawer iawn ohonyn nhw'n berthnasol i Gymru. Mae'n nesa peth i amhosib, a'r baich gwaith yn mynd yn sylweddol.
"Mae 'na derfyn ar faint mae un person yn gallu gwneud yn trio rhwyfo cwch o'r fath".
Wedi cymryd rôl ganolog yng ngwleidyddiaeth Cymru am ddegawdau, mae o'n annhebyg o roi ei draed i fyny yn llwyr ar ôl ymddeol.
Er y bydd e'n gadael gwleidyddiaeth, dywedodd Mr Wigley y bydd yn parhau i gyfrannu tuag at fywyd cyhoeddus Cymru am beth amser eto.
Wrth ymateb i gyhoeddiad Mr Wigley, dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, fod cyfraniad y gwleidydd i'r blaid a gwleidyddiaeth Cymru a'r DU yn ehangach wedi bod yn un "aruthrol".
"Mae ei synnwyr dwfn o ddyletswydd wedi ei arwain at frwydro'n ddiflino dros gyfiawnder cymdeithasol ar ystod o ymgyrchoedd - o hawliau pobl ag anableddau i iawndal i ddioddefwyr mesothelioma.
"Yn Gymro Ewropeaidd angerddol, fe dreuliodd Dafydd ei fywyd yn ffurfio cynghreiriau ac yn dadlau dros ein cenedl lle bynnag yr oedd yn y byd.
"Roedd ei angerdd yn creu argraff bob amser yn ei gyfraniadau yn Nhŷ'r Arglwyddi, a does dim dwywaith fod ei gyhoeddiad o ymddeoliad yn golygu y bydd llais Cymru'n cael ei dawelu'n fawr yn Senedd San Steffan.
Fe wnaeth ddiolch i Dafydd ar lefel bersonol am ei gefnogaeth, cyngor a'i hiwmor.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2016